Anrhydeddu Merêd

  • Cyhoeddwyd
Radio 2

Bydd Dr. Meredydd Evans yn cael ei anrhydeddu gyda Gwobr Traddodiad Da yng Ngwobrau Gwerin Radio 2 yng Nghaerdydd ar 22 Ebrill.

Mae'r wobr yn cael ei roi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i gerddoriaeth gwerin y DU.

Bu farw Dr Evans, oedd yn cael ei nabod fel Merêd, ym mis Chwefror yn 95 mlwydd oed.

Roedd Merêd yn ffigwr amlwg ym mywyd cyhoeddus Cymru, fel perfformiwr, arbenigwr ar ganu gwerin ac ymgyrchydd iaith. Roedd yn bennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru am ddegawd yn ystod yr 1960au ac 1970au.

Yn enedigol o Lanegryn, Sir Feirionnydd, cafodd ei fagu yn Nhanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, yn un o 11 o blant.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gyhoeddodd Phyllis a Merêd sawl cyfrol gwerin gyda'i gilydd

Fe astudiodd Athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor, lle cafodd radd dosbarth cyntaf. Yno fe ffurfiodd Driawd y Coleg gyda Robin Williams a Cledwyn Jones i ddifyrru eu cyd fyfyrwyr.

Tra yn darlithio yn yr Unol Daleithiau yn y 1950au y cwrddodd â Phyllis ei wraig. Yn 1954 cyhoeddodd Merêd ei record gyntaf fel canwr gwerin ar label Folkways yn America. Cyhoeddodd y ddau sawl cyfrol a chasgliadau o ganeuon gwerin ar y cyd.

Wedi treulio cyfnod yng Ngholeg Harlech ac mewn prifysgolion yn America, fe gafodd ei benodi'n bennaeth adloniant ysgafn y BBC ganol y '60au. Buodd yn y swydd am ddegawd ac mi oedd yn gyfrifol am raglenni fel Hob y Deri Dando, Disg a Dawn, Ryan a Ronnie a Fo a Fe.

Cenedlaetholwr brwd

Ffynhonnell y llun, S4C

Roedd yn genedlaetholwr ac yn ymgyrchydd brwd dros yr iaith. Yn 1979 mi wnaeth Merêd, ynghŷd â Pennar Davies a Ned Thomas, dorri mewn i adeilad trosglwyddydd Pencarreg mewn protest yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i wrthod Sianel Gymraeg.

Yn hwyrach, fe gafodd ddirwy gan Ynadon Aberystwyth am beidio a thalu ei drwydded deledu mewn protest yn erbyn yr hyn yr oedd e'n ei alw'n 'Seisnigo' Radio Cymru.

Dywedodd ei gyfaill Emyr Llewelyn; "Fe roddodd ei gefnogaeth fel athronydd, fel meddyliwr. Rhoddodd ei allu ar waith i ddadlau mewn araith a llythyr ac erthygl dros achos yr iaith. Ac fe ddefnyddiodd ei holl ddylanwad bersonol ar ei gyfoedion a'i gydnabod i geisio eu cael nhw i roi cymorth ymarferol i'r mudiadau iaith."

"A dim ond rhai fu'n agos ato fe fu'n gwybod faint ei lafur personol dros gyfnod o flynyddoedd lawer. Y llythyru di-ddiwedd; y ffonio, y perswadio, y pwyllgore di-ri, yr orie o waith caled i gynnal ysbryd y dyrnaid hynny oedd yn aml yn digaloni yn eu brwydr anodd ac unig.

"A dweud y gwir, Merêd oedd ein ysbrydolwr a'n cynhaliwr mawr ni i gyd."

Disgrifiad,

Cofio Dr Meredydd Evans

Ymgyrchydd diflino

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhoi teyrnged i'r Dr Meredydd Evans. Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd y gymdeithas:

"Mae Cymru wedi colli cawr heddiw. Roedd Merêd yn ymgyrchydd diflino dros y Gymraeg ac yn lladmerydd mawr o'r dull di-drais. Heb os roedd yn un o'r dynion anwylaf i'w adnabod a'i gariad dros yr iaith a'r pethe yn ysbrydoli cenedl gyfan.

"Heb ei gyfraniad, yn sicr ni fyddem yn mwynhau rhai o enillion mwyaf y mudiad cenedlaethol, fel sianel deledu S4C, Deddf Iaith 1993 a'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

"Rydym yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf i'w deulu a'i ffrindiau ac yn diolch am fywyd arbennig iawn a helpodd i newid cwys hanes Cymru a'r Gymraeg."

Dywedodd Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg: "Roedd cyfraniad Merêd i fyd adloniant Cymru ac i'r iaith Gymraeg heb ei ail. Fe allai yn hawdd fod wedi gorffwys ar ei rwyfau ar ôl ei waith arloesol ym myd adloniant, ond fe ddewisodd barhau i ymladd ac ymgyrchu dros y Gymraeg. Am hynny rydym oll yn ei ddyled."

Ffynhonnell y llun, S4C

Seren gyntaf canu pop Cymraeg

Yn sgil y cyhoeddiad am ei farwolaeth, dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones:

"Merêd a dweud y gwir oedd seren gyntaf y byd canu pop Cymraeg, gyda'i lais melfedaidd, ei ganeuon gafaelgar a'i bersonoliaeth ddeniadol; ond bu'n gymaint mwy na hynny. Yn gynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru, roedd yn teimlo'n angerddol yr angen am raglenni poblogaidd fyddai'n apelio at genedl gyfan, ac yn gwybod sut i fynd ati i'w creu nhw.

"Yn ymgyrchydd di-flino, rhoddodd ysbrydoliaeth ac arweiniad yn nyddiau'r frwydr i sefydlu S4C, a bu'n feirniad unplyg ond cwrtais o ymdrechion y darlledwyr Cymraeg i gyrraedd y nôd wedi hynny. Gyda'i waith gorchestol, law yn llaw â Phyllis, ym maes canu gwerin, yn athronydd uchel ei barch ac athro disglair, roedd yn wir yn ffigwr unigryw yn hanes diweddar ein cenedl."

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru:

"Fe fydd Dr Meredydd Evans yn cael ei gofio fel cenedlaetholwr, ymgyrchydd iaith ac arbenigwr ar ganu gwerin.

"Ond mae'n bwysig cofio am ei gyfraniad enfawr ym myd adloniant hefyd. Fel cynhyrchydd a phennaeth adran adloniant BBC Cymru roedd yn gyfrifol am greu clasuron sydd yn aros yn y cof, cyfresi fel Ryan a Ronnie a Fo a Fe.

"Roedd yn feistr ar greu rhaglenni comedi ac adloniant gwreiddiol oedd yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd o bob oed."