Yr her i ymweld â phob prifddinas yn Ewrop
- Cyhoeddwyd

Huw a James ar gyrion Athens
"Weithiau y llefydd mwya' anghyfarwydd ac annisgwyl ry'n ni wedi mwynhau mwyaf," yn ôl James Whittaker a Huw Thomas, sy' ar ras i ymweld â phob prifddinas yn Ewrop cyn diwedd 2020.
Mae'r pâr o Gaerdydd wedi cyrraedd rhif 28 ar y rhestr maen nhw wedi ei llunio o 46 o brifddinasoedd ar gyfandir Ewrop, gan weld rhyfeddodau a phrofi diwylliannau amrywiol yn ystod eu hanturiaethau.
Dywedodd James: "Efo Brexit ar y gorwel a'r ansicrwydd efo pa mor hawdd fydd o'n y dyfodol i deithio o gwmpas yr Undeb Ewropeaidd yn ddi-rwystr, roedden ni'n teimlo 'na rŵan 'di'r amsar i deithio Ewrop a'i mwynhau hi heb unrhyw fath o lol, a heb orfod poeni am brynu Visas a chael y trafferth o giwio am hydoedd yn Passport Control."
Hoff lefydd

Budapest
Meddai Huw: "'Da ni wedi dechrau cadw rankings ac maen nhw'n newid yn aml. 'Da ni wedi cytuno ar Budapest, Madrid a Copenhagen fel hoff dri cyn belled.
"Mae Budapest yn uffarn o le - roedd dal dipyn bach yn unknown pan aethon ni."

Madrid: Un o hoff brifddinasoedd James a Huw
Gwledydd bach

San Marino: "Un o'r gwledydd lleiaf yn y byd, ond uffar o le braf!"
Yn ôl James: "Mae'r microstates 'ma i gyd fel San Marino yn lefydd rhyfedd a ti'n synnu braidd bod nhw dal yn bodoli ond maen nhw'n llwyddo i fod yn llefydd diddorol iawn."
Dinasoedd gorlawn

James ger Pont Charles, Prague
Dywedodd Huw: "Gan bod ni'n mynd ar antur o gwmpas Ewrop, 'da ni'n hoffi teimlo bod ni'n darganfod y llefydd am y tro cyntaf.
"Ond weithiau maen nhw'n orlawn o ran twristiaid, fel yn y Fatican a Phont Charles yn Prague. 'Oedden ni bron fel pac o sardines yn cerdded a doedden ni ddim yn gallu eu mwynhau cymaint."

Y Fatican, Rhufain
Dywedodd Huw: "Y llun yma yn y Fatican ydy'r unig un efo dim twristiaid ac roedd rhaid mynd ar daith preifat i ddianc o'r twristiaid gyda'u camerâu."
Castell yn y graig

Castell Predjama yn Slofenia
Meddai James: "Er nad yw Castell Predjama yn y brifddinas yn Slofenia, rydyn ni'n licio mynd i rhywle tu allan i'r ddinas i sicrhau bod ni'n cael blas o'r wlad.
"Mae'r prifddinasoedd yn gallu bod yn ffug ac weithie mae'r llefydd tu allan i'r brifddinas yn fwy triw i ddiwylliant y wlad. Felly mae'n dda i gael blas o'r ddau."

James a Huw ger Llyn Bled, Slofenia. Mae'r llyn yn drip diwrnod o'r brifddinas Ljubljana
Ar antur

Y Tair Croes yn Vilnius, prifddinas Lithuania
Yn ôl Huw: "Y lle sy' wedi syfrdanu ni fwyaf oedd Vilnius yn Lithuania.
"'Oedd hi'n le mor braf gyda phobl reit gyfeillgar a chymaint i wneud. Weithiau y llefydd llai adnabyddus 'da ni wedi mwynhau mwyaf.
"Yn Vilnius ni oedd yr unig dwristiaid yna ac oeddech chi'n teimlo bod chi ar fwy o antur."

Riga, prifddinas Latvia
Rhif 23 ar y rhestr oedd Riga, felly roedd y pâr wedi cyrraedd hanner ffordd drwy'r rhestr o 46 prifddinas.
Ac mae'r sialens o roi tic yn y bwlch ar ôl gweld pob un yn cadw'r ddau i fynd, yn ôl Huw: "Dwi 'di bod yn berson sy'n licio ticio pethau off rhestr erioed ac mae'n rhoi cymaint o foddhad i fi. Mae'r ddau ohonom yn hoffi teithio ac yn hoffi chwilio am fargeinion ac 'oedd y syniad o gyfuno'r ddau yn diddori fi."

Yr Acropolis yn Athens, Groeg

Marchnad Nadolig yn Vienna, prifddinas Awstria
Yn ôl i Brydain

Mwynhau peint o Guinness ym Melfast
A beth mae'r ddau wedi dysgu am Gymru ar hyd y daith?
Yn ôl James: "O gymharu â phobl yng ngwledydd eraill yn Ewrop, rydym yn wlad o bobl sy'n ddiymhongar ac yn swil iawn ac sydd ddim eisiau brolio ein hunain gormod.
"Mae hynny'n golygu nad ydy pobl yng Nghymru wastad yn barod i ddathlu ei diwylliant a'i Chymreictod efo twristiaid sy'n dod i ymweld â Chymru.
"Er enghraifft, yn Nulyn, mae'n anodd iawn i beidio cael eich trochi yn y diwylliant Gwyddelig yno - dim ond un ymweliad â'r amgueddfa Guinness sydd angen ac mi gewch chi beint o Guiness syth o'r casgen, cael eich trwytho mewn hanes Iwerddon, band traddodiadol Gwyddelig yn canu caneuon yn y Wyddeleg a'r staff wrth y bar yn gwneud yr Irish jig ar y byrddau!
"Mae 'Werddon yn gwerthu ei hun a'i diwylliant i'r byd yn ddigywilydd o hyderus, a dyna lle 'dwi'n teimlo y gall Gymru ddysgu o wledydd eraill yn Ewrop. Mae pobl o dramor eisiau profi a gweld diwylliannau sy'n wahanol i'w gwledydd eu hunain - dyna'r rheswm pam maen nhw'n teithio yn y lle cyntaf.
"Mae gan Gymru ei cherddoriaeth, ei hiaith a'i hanes unigryw, a dylem ddweud wrth bawb amdano fo'n hyderus a pheidio bod ofn o wneud hynny."