Cymru: Dysgu o brofiad dwyrain Ewrop?

  • Cyhoeddwyd

Mewn cyfres newydd ar BBC Radio Cymru, mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn ystyried a ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol.

Yn ystod y gyfres Annibyniaeth, mae Gwion yn teithio ar hyd a lled y DU i geisio darganfod a fyddai hi'n ymarferol i Gymru fod yn wladwriaeth allai sefyll ar ei thraed ei hun.

Dechreuodd y daith trwy fynd yn ôl i'w filltir sgwâr ar Ynys Môn. Yr wythnos hon mae o'n ystyried sut mae annibyniaeth wedi gweithio mewn dwy wlad yn nwyrain Ewrop:

Ffynhonnell y llun, Rondo Media

Mae'r ymateb i raglen gyntaf fy nghyfres Annibyniaeth, a ddarlledwyd ar Radio Cymru yr wythnos diwethaf, wedi cadarnhau un peth i mi: nid fi yw'r unig un sy'n teimlo nad ydw i'n gwybod digon i fedru dweud yn hyderus y byddai Cymru mewn lle gwell, neu lle gwaeth, pe bai hi'n wlad annibynnol.

"Ma'r Cymry ofn gofyn y cwestiwn, oherwydd ma nhw ofn yr ateb". Dyna ddywedodd perchennog gwesty wrtha' i yn Y Trallwng yr wythnos hon wrth i mi ymweld â'r dref am y tro cyntaf i wneud achos yn yr Uchel Lys.

Ni fyddwn wedi gallu ysgrifennu'r frawddeg flaenorol ddeng mlynedd yn ôl gan na fyddai'r Uchel Lys wedi ystyried cynnal achos o'r fath unrhyw le ond Llundain. Bellach, mae'r llys wedi datganoli ei hun hefyd i ymateb i'r Gymru newydd. Datblygiad i'w groesawu, ar y cyfan, ond un i'w felltithio yng ngorsaf Euston am 5am fore Mercher, rhwng cwsg ac effro, wrth lusgo cês yn llawn papurau at blatfform 6.

Eurovision ac annibyniaeth

Coeliwch neu beidio, wrth wylio Cystadleuaeth Cân Eurovision, ddwy flynedd yn ôl, y cefais y syniad ar gyfer y gyfres Annibyniaeth. Ro'n i'n newydd ddychwelyd o roi darlith mewn prifysgol yn Odessa yn yr Wcráin.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Beth yw pris annibyniaeth i bobl yr Wcráin?

Mi ges i groeso cynnes iawn yno, yn enwedig gan y myfyrwyr lleol: daeth dros 200 ohonyn nhw i wrando ar y ddarlith ac roedd y theatr yn anghyfforddus o llawn. Nid testun astrus y ddarlith oedd yn gyfrifol am gynulleidfa mor fawr, yn sicr, ond y ffaith fod cymaint o fyfyrwyr yr Wcráin yn aros yn y coleg ymhell i mewn i'w tridegau gan fod yna gyn lleied o swyddi ar gael iddyn nhw yn y byd mawr y tu allan i'r coleg.

Roedd methiant economi'r Wcráin yn codi'n gyson wrth i mi sgwrsio gyda'r myfyrwyr. I'r mwyafrif ohonyn nhw, doedd annibyniaeth y wlad ers dechrau'r 90au ddim wedi sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i'w dinasyddion hi.

Profiad Azerbaijan

Roedd lleisiau myfyrwyr yr Wcráin yn atseinio yn fy mhen wrth i mi i edrych ar y ddelwedd foethus oedd Azerbaijan yn awyddus i gynnig ohoni ei hun i'r byd wrth gynnal syrcas yr Eurovision yn ei phrifddinas, Baku, yn 2012. Fel yr Wcráin, fe gafodd Azerbaijan annibyniaeth ddechrau'r 90au, ond yn wahanol i'r Wcráin, mae diweithdra yn isel a'r dosbarth canol yn cynyddu'n sydyn.

Disgrifiad o’r llun,

Ydi annibyniaeth yn llwyddo i Azerbaijan, enillwyr yr Eurovision yn 2011?

Mae yna gwestiynau dyrys i'w gofyn o safbwynt hawliau dynol yn y ddwy wlad, ond o gofio fod y ddwy wedi cael annibyniaeth tua'r un pryd, pam fod un wedi llwyddo yn economaidd i'r fath raddau ers iddi sefyll ar ei thraed ei hun, a'r llall wedi cael cymaint o drafferthion?

Mae'n ddigon hawdd sôn am 'annibyniaeth', ond beth sy'n sicrhau gwlad annibynnol lwyddiannus? Ydy hanes yn awgrymu wrthym fod angen rhyw gyfuniad o ffactorau penodol, ynteu a oes yna elfen sylweddol o risg bob tro gan fod amgylchiadau pob gwlad newydd yn unigryw? Dyna fydd ein man cychwyn yr wythnos hon.

Annibyniaeth, BBC Radio Cymru 12.31pm Dydd Llun 9 Mehefin. Ail-ddarllediad 17.02 Dydd Sul 15 Mehefin.