Conwy drwy lens camera Pierino Algieri

  • Cyhoeddwyd

Efallai mai enw Eidalaidd sydd ganddo ond hogyn o Ddyffryn Conwy hyd fêr ei esgyrn yw'r ffotograffydd Pierino Algieri sy'n cael ei wneud yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Llanrwst.

Mae'n fab i garcharor rhyfel o'r Eidal a merch fferm o Landdoged.

Yma, mae'n rhannu rhai o'i hoff olygfeydd o'i sir enedigol, sy'n gartref i Eisteddfod Genedlaethol 2019, gan roi dosbarth meistr mewn amynedd a ffotograffiaeth inni yr un pryd.

Adda ac Efa, Tryfan

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Hunanbortread ydy'r llun yma o gopa Tryfan ar ffin orllewinol sir Conwy sydd wedi ymddangos ar glawr llyfr Copaon Cymru.

Fel gyda llawer o'i luniau, roedd Pierino wedi paratoi'n fanwl i gael y llun roedd ei eisiau o doriad gwawr ym mis Mehefin.

"O'n i'n cychwyn i fyny am 2:00am yn y tywyllwch ac yn cyrraedd tua 5:00am. Wedyn setio'r camera fyny a neidio i fyny ar y graig a posio am 10 eiliad tra roedd y camera yn tynnu fy llun wrth i'r wawr dorri. Mae'r llun yn edrych yn ôl at y dwyrain, yn ôl at sir Conwy.

"Wnes i ddim sylwi ar yr awyren yn yr awyr ar y pryd!"

Ffos Anoddyn, Betws-y-Coed

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Mae 'na lefydd fel Ffos Anoddyn lle mae 'na amser arbennig o'r flwyddyn pan mae pelydrau'r haul yn dod ar draws y ceunant. Dydi o ddim ond yn digwydd yn yr hydref am ryw hanner awr yn y bore so mae'n rhaid ichi fod yna ar yr amser iawn.

"Fairy Glen yw'r enw Saesneg ar y lle.

"Mae gena' i ryw ddyddiadur yn fy mhen o ran pa adeg o'r flwyddyn i fynd i wahanol lefydd," meddai Pierino, ddaeth i adnabod gogledd Cymru'n dda yn rhinwedd ei swydd fel cipar ac yna fel warden ar afonydd y gogledd.

Bythynnod Chwarel, Capel Curig

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Es i yna oherwydd y cysylltiad teuluol - roedd fy hen hen daid yn rheolwr yn y chwarel yma," meddai Pierino.

"Pan dwi'n edrych ar le fel'na, dwi'n edrych i weld be' 'di'r amser gorau o'r dydd i ddod ac, efo'r cyfansodiad, o ba gyfeiriad i dynnu'r llun. Felly am bod y bythynnod yn wynebu'r dwyrain es i fyny y bore pan mae'r haul ar y tai, a dewis y gaeaf, dwi'n meddwl mai mis Chwefror 1995 oedd hi."

Yn y cefndir mae'r Carneddau a Phen Llithrig y Wrach ar y dde.

Cafodd y llun yma yr ail wobr yng nghystadleuaeth calendr Countryfile 1998 gyda Patrick Lichfield yn beirniadu.

Yr hen dderwen, Llanddoged

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Mae'r hen dderwen wedi syrthio erbyn hyn ond roedd Pierino yn hoff iawn ohoni ac wedi ei thynnu ym mhob tywydd.

"Be' dwi'n hoffi amdani ydy fod y brigau'n sefyll allan, does dim dail, ac roedd ar ben ei hun ar ben ryw boncan mewn cae tatws, ers cannoedd o flynyddoedd mae'n siŵr," meddai.

"Roeddwn yn ei phasio o hyd ers pan o'n i'n blentyn - mae wrth ymyl fferm y teulu."

Roedd ei dad wedi dod i wersyll rhyfel yn yr ardal ar ôl cael ei ddal yn Affrica a chafodd ei anfon i weithio ar fferm teulu mam Pierino, Bryn Morfydd Mawr yn Llanddoged,

"Roedd Dad yn dweud mai'r peth gorau wnaeth ddigwydd iddo fo oedd y rhyfel. Roedd hi'n dlawd iawn yn Calabria yn ne'r Eidal - doedd 'na ddim pres, dim gwaith a dim llawer o ddyfodol. Roedd yn foi ifanc yn cael ei consgriptio gan Mussolini - doedd o ddim isho mynd i ryfel, doedd ganddo fo ddim dewis," meddai.

"Wedyn wnaeth o ddod i Gymru, gweld Cymru a ffeindio Mam ac oedd popeth yn grêt. Roedd rhaid iddi fynd nôl i'r Eidal ar ôl y rhyfel ond ddaru o ddeud wrth Mam am ddisgwyl amdano fo a ddôth o nôl i'w phriodi hi."

Foel Fras, y Carneddau

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Dwi'n cerdded lot i dynnu lluniau. Mae mynd ar eich pen eich hun yn haws na mynd efo criw - mae angen amser i gyfansoddi, disgwyl am y golau, a chyfleu teimlad y lle," meddai Pierino.

"Wrth weithio mewn cadwraeth am 30 mlynedd ro'n i'n teithio lot o gwmpas ac yn gweld y potensial i ddod nôl i lefydd yn y tymor iawn ar yr amser iawn.

"Oedd gen i fflam yn llosgi tu mewn i mi eisiau tynnu lluniau, o'n i methu cael digon o'r peth.

"Felly es i ati yn y 90au a dechrau cerdded y mynyddoedd ym mhob tywydd yn cario bag efo tri chamera ynddo."

Castell Conwy

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"O'n i'n gwybod be' o'n isho fama - adlewyrchiad y golau yn y nos cyn iddi fynd yn dywyll," meddai Pierino.

"'Dwn i ddim faint o weithiau es i nôl yna - oedd rhaid cael y llanw i fewn ac yn llonydd ac o'n i'n tynnu fo o ochr Deganwy a Chyffordd Llandudno ar draws yr aber efo lens go hir i lenwi'r ffrâm efo'r castell. O'n i yno tan tua 9:30pm.

"Castell Saesnig Edward 1af ydi o, ond dydi hynny ddim yn tynnu oddi wrtho - mae'n dal yn hyfryd."

Castell Dolwyddelan

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Mae'r cestyll Saesneg i gyd ar y môr a'r rhai Cymraeg yn fwy gwyllt, i fyny'r dyffrynnoedd yn y mynyddoedd lle gallwch chi feddwl am Llywelyn a'r rheiny yn cuddio a giardio'r mynyddoedd, yn teimlo'n fwy saff efallai.

"O'n i wedi dringo i fyny yn uchel tu ôl i'r castell efo lens go fawr i gael hwn. Mae 'na darth ac ychydig bach o rew yn y cefndir yn mhentref Dolwyddelan. Ro'n i wedi mynd i fyny cyn saith yn y bore pan oedd yr haul yn codi."

"Mae hwn yn un o'r lluniau mwyaf poblogaidd pan rydw i'n gwerthu mewn ffeiriau ac yn y blaen."

Llyn Pandora, Coedwig Gwydir

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Roedd y llyn yma'n gysylltiedig efo gwaith plwm Pandora ers talwm," meddai Pierino.

"Hwn eto'n un dynnais i gyda'r nos i gael yr haul yn machlud. O'n i'n pysgota'r llyn yma ers talwm - roedd y Comisiwn Coediwgaeth yn ei stocio efo brithyll.

"Dwi'n hoff iawn o'r llun yna, mae'n llun cynnes. Yr unig beth 'dio ddim yn ddangos ydy'r piwiaid bach yn byta fi'n fyw!"

Bryn Gwynt, Nebo

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Ffordd bach cefn gwlad sy'n mynd o dop Llanrwst am Bentrefoelas ydi hon - mae pobl yn teithio heibio a ddim yn meddwl dim am y lle sy'n llawn ffriddoedd a thir gwael. Ond mae'n lle dwi'n mynd yn aml iawn i dynnu lluniau," meddai Pierino.

"O'n i ddim yn gwybod be' o'n i'n mynd i dynnu, o'n i jyst yn mynd am dro. Ond wrth ddod yn ôl o'n i'n gweld y tro yn y ffordd a'r cyfansoddiad yn y llun. Roedd yn digwydd bod yn hwyr yn y dydd tua mis Hydref pan oedd yr haul yn mynd lawr.

"Mae Eryri ar ei orau yn y bore o'r cyfeiriad yma, pan mae'r haul yn taro, yn enwedig ar y Carneddau."

Llyn Conwy, ger Penmachno

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Yn Llyn Conwy mae tarddiad yr afon Conwy ac mae'n Pierino'n hoffi mynd yno i gael llonydd a physgota brithyll brown gwyllt.

"Mae'n lle braf i fod yn bell o bob man a pawb, dim ceir a gweld neb - er bod y barcud coch yna'n reit aml, ac oherwydd y grug mae 'na rugieir yno. Er, dim gymaint ag oedd - mae'r cynefin wedi mynd a neb yn ei reoli," meddai.

Roedd yn arfer bod yn rhan o Stâd y Penrhyn, ger Bangor.

"Mae'r cwt cwch yn dal yno yn mhen y llyn ac adeilad tu ôl i'r llyn i gadw ceffylau ar gyfer y ceffyl a'r drol ers talwm - byddai pobl y stâd yn dod i fyny i saethu a physgota."

Pier Llandudno

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Aeth Pierino i dynnu llun pier Llandudno ar ôl gweld llun gan ffotograffydd arall o'r haul yn codi drosto. Gan fod y pier yn wynebu'r gogledd, roedd yn meddwl fod hynny'n amhosib.

"O'n i'n meddwl bod o 'di fficsio fo so es in yna jyst ar ôl 4:30 yn y bore ym mis Mehefin a dyma'r haul yn codi yn union dros y pier a'r awyr yn fendigedig, fel pe bai o ar dân," meddai.

"Ond unwaith roedd yr haul 'di codi roedd yn newid yn hollol - 'dach chi mond yn cael ryw chwarter awr yn y bora a rywbeth debyg yn y nos - y magic hour - pan mae'r golau a phopeth yn dod at ei gilydd."

Cwm Idwal, Nant Ffrancon

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Un o hoff luniau Pierino yw un a dynnodd mewn storm dros Lyn Idwal, sydd ar ffin Conwy gyda Gwynedd.

"Mae hwn yn un o'r lluniau gorau dwi wedi eu tynnu. Mynd i fyny i chwilio am flodau yn y gwanwyn ro'n i ac yn ddirybudd dyma hi'n dechrau bwrw glaw yn ofnadwy," meddai.

"Roedd hi'n stido bwrw yn drwm a wnes i droi nôl at y car. Pan gyrhaeddais y llyn yn y gwaelod, mi drois rownd a gweld yr holl ddŵr yn dod lawr wyneb Cwm Idwal fel dagrau."

"O'n i'n socian ond nes i osod bag bin dros y camera a sefyll yn y dŵr i gael yr ongl."

Tu hwnt i'r bont, Llanrwst

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

"Does dim ond un lle i dynnu'r llun yma. Yn yr hydref 'dio ddim byd i gael 10 neu 20 o ffotograffwyr yna yn y bore erbyn hyn," meddai Pierino.

"Mae'r bont yn hyfryd - pont rhegi mae pobl leol yn ei galw am fod ceir yn mynd yn sownd yn y top. Yn y bore mae ei dal hi, am ryw bythefnos pan mae'r creeper yn troi lliw - diwedd Awst, dechrau Medi.

"Weithiau ti'n mynd yna a cael dim byd - os 'di'r golau ddim yn dŵad mae'n gallu bod yn fflat."

Pierino a'i wraig Delyth (a Picolo y ci)

Ffynhonnell y llun, Pierino Algieri

Er mai Cymraeg oedd iaith gyntaf ei fam, sydd hefyd wedi dysgu Eidaleg, cafodd Pierino ei fagu yn y Saesneg. Ond dysgodd Gymraeg fel oedolyn a Chymraeg yw iaith yr aelwyd a sefydlodd gyda'i wraig, Delyth.

"Mae'r plant wedi eu magu drwy'r Gymraeg. Mae hynny 'di bod yn help mawr i mi," meddai Pierino.

"Ond mae 'na bobl dwi wedi eu 'nabod ers pan dwi'n blentyn 'neith ddal siarad Saesneg efo fi a mae Mam yn siarad Saesneg efo fi. Pan dwi'n mynd yna efo'r wraig mae'n siarad Cymraeg efo'r wraig a Saesneg efo fi!"

Mae Pierino Algieri yn cael ei Urddo, er anrhydedd, i'r Wisg Werdd ar fore dydd Gwener 9 Awst ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Hefyd o ddiddordeb: