Lluniau: Dydd Llun yn y Sioe Frenhinol
- Cyhoeddwyd
Mae hi'n ddiwrnod agoriadol Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Dyma flas o'r hyn sy'n digwydd ddydd Llun.

Mae Brenin Goodwill Zwelithini kaBhekuzulu a Brenhines Pumi, pennaeth Talaith y Zulu yn ymweld â maes y Sioe i nodi 140 mlynedd ers Brwydr Rourke'r Drifft yn Ne Affrica.

Mi fydd Sioe Frenhinol 2019 yn un hynod gofiadwy i Arwel a Bethan Edwards - llongyfarchiadau mawr!
Fe gyhoeddodd Cymru Fyw erthygl am drefniadau priodas y cwpl nôl ym mis Mai.

Cyfle annisgwyl am hunlun gyda chyn-gapten Cymru, Sam Warburton.

Rhys a Belle, ffrindiau o Bontarddulais, yn eistedd ar y peirianwaith.

Abbie Moseley o Knockin ger Croesoswallt yn paratoi ei dafad Charollais ar gyfer y gystadleuaeth.

Mae'r Tywysog Charles a Duges Cernyw ymhlith yr ymwelwyr â'r Sioe ddydd Llun. Rhan o'u dyletswyddau oedd i agor gardd ryngwladol newydd sydd wedi cael ei chreu yn arbennig ar gyfer nodi 50 mlynedd ers yr Arwisgiad.

Claire Fitch o Rhosan ar Wy (Ross on Wye) ar gefn ei cheffyl Menai Eurostar, a enillodd yn y dosbarth stallion ridden horse.

Roedd y beiciwr yma'n hedfan drwy'r awyr yn ystod y sioe feiciau acrobataidd yn y prif gylch.

Gof wrth ei waith; gwaith blinedig a phoeth!

Will Ellis o Fryncrug yn paratoi ei Welsh Black cyn mynd i gystadlu.

Gerwyn o Llanddona, Ynys Môn, efo'i blant Cadi, Caleb a Betsan yn edrych ar y ceiliogod buddugol.

Mae Carol Vorderman a Derek Brockway yn darlledu o'r sioe yr wythnos hon ar BBC Radio Wales.

Mae Nancy fach o Aberystwyth wedi gwneud ffrind newydd yn y sioe.

Hwyl am heddiw, o'r sied ddefaid yn Llanelwedd.
Hefyd o ddiddordeb: