Costa del Abersoch, a chefn gwlad Llŷn
- Cyhoeddwyd

Ychydig filltiroedd sydd rhwng Abersoch a Sarn Mellteyrn, ond ar ddiwrnod braf o haf mae'n ymddangos fel petai nhw mewn dwy wlad wahanol.
Mae Abersoch wedi denu ymwelwyr ers degawdau ac erbyn heddiw mae enw'r pentref yn cael ei gysylltu gyda nifer uchel o dai haf ac ymwelwyr cefnog.
Felly ar benwythnos gŵyl y banc heulog, fel ym mis Awst eleni, mae'r gwahaniaeth rhwng y pentref glan môr ac ardaloedd mwy gwledig Pen Llŷn yn amlwg.


Y môr ger Abersoch ar ddiwrnod braf o Awst.

Lleoliad ydi un o'r ffactorau pwysicaf i sicrhau pris da yn ôl arwerthwyr tai - sy'n egluro pam gafodd un o gytiau traeth Abersoch ei brynu yn 2017 am £160,000.

Mwynhau'r haul yn un o dafarndai mwyaf poblogaidd Abersoch - Y Vaenol.

Ar yr un diwrnod, mae'n llawer sychach i lawr y ffordd yn Sarn Mellteyrn.

Er mai dim ond saith milltir sydd rhwng y pentref cefn gwlad yma ac Abersoch, mae penwythnos gŵyl y banc yn llawer tawelach yn Sarn.

Mae digon o geir drud a cheir 4x4 i'w gweld yn Abersoch...

...ceir sy'n ddigon pwerus i dynnu cwch.

Trelars amaethyddol a 4x4s i weithio ar y fferm fyddai wedi bod yma ar ddyddiau'r mart yn Sarn.

Nid gwartheg a defaid sy'n gwneud arian yn Abersoch, gyda bwthyn 4 llofft ar werth gan yr arwerthwr tai yma am £1.3m.

Mae'r tywydd braf yn dod â llewyrch i fusnesau Abersoch...

...ond dair milltir i ffwrdd diffyg pobl ydi'r broblem i gapel Mynytho, sydd wedi cau yn ddiweddar. Mae'r pentref, lle bu pryderon am ddiffyg tai fforddiadwy, yn cael ei gyfeirio gan rai fel Upper Abersoch erbyn hyn.

Mae'r hen garej yma yn Mynytho hefyd wedi cau.

Mae angen teithio drwy Bwllheli i gyrraedd Abersoch, ac mae tagfeydd yn gyffredin yn y dref dros yr haf.

Tu hwnt i brysurdeb yr arfordir, does dim perygl o broblemau traffic yn Sarn Mellteyrn.
Hefyd o ddiddordeb: