Tref Amlwch yn 'marw ar ei thraed', yn ôl cynghorydd
- Cyhoeddwyd
Mae angen buddsoddiad brys yn Amlwch rhag i gyflwr y dref waethygu ymhellach, yn ôl cadeirydd cyngor y dref.
Yn ôl Liz Wood mae "marwolaeth Amlwch wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd".
Roedd disgwyl i atomfa Wylfa Newydd gael ei adeiladu ger y dref, ond mae'r cynlluniau hynny bellach wedi'u hatal.
Dywedodd Cyngor Ynys Môn eu bod wedi "ymroddi i gefnogi gogledd yr ynys ac eisoes wedi gweithio gydag amryw o grwpiau cymunedol er mwyn cefnogi trigolion yr ardal".
'Blêr'
Yn ôl Ms Wood, sy'n gadeirydd Cyngor Tref Amlwch, mae cerdded i lawr prif lôn y dref yn "torri fy nghalon".
"Mae'r lle yn flêr ac os fyddai pobl yn dod yma 'sa nhw'n troi am yn ôl," meddai.
Dywedodd Ms Wood mai prinder swyddi a diwydiannau'n gadael yr ardal sy'n rhannol ar fai.
"Mae'r gwaith wedi mynd a does dim byd wedi dod yn eu lle nhw," meddai.
"Roedden ni fod i gael ffatrïoedd, melinau gwynt a Wylfa Newydd. Dwi'n meddwl fod pobl wedi dibynnu gormod ar un peth yn dod i'r ardal fel saviour."
Mae bron i 4,000 o bobl yn byw yng nghyffiniau'r dref ond ers rhai blynyddoedd mae nifer o siopau a busnesau yno wedi cau.
Yn ôl y cigydd lleol, Owen Roberts, mae problemau Amlwch yn debyg i nifer o drefi.
"Mae Amlwch wedi mynd lawr ond mae'n broblem ym mhob man," meddai.
"Mae rhywun yn teimlo bod Amlwch a Chaergybi wedi cael eu hanghofio."
Cefnogi 'mewn sawl ffordd'
Yn ôl Cyngor Môn mae "Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ac eraill yn cefnogi tref Amlwch mewn sawl ffordd".
Bwriad y cyngor ydy "darparu cyllideb i wella eiddo gwag yng nghanol y dref, a threfnu digwyddiadau lleol megis Gŵyl Gopr 2020".
Maen nhw hefyd yn bwriadu parhau i gydweithio gyda mentrau lleol i roi rhagor o gefnogaeth i'r dref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2017