Lluniau: Gorsafoedd pleidleisio anarferol Cymru
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol, bydd nifer yn mynd i ysgolion lleol neu neuaddau pentref i fwrw eu pleidlais. Ond mae rhai gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru yn fwy anarferol na'i gilydd:

Siawns am baned gyda Sali Mali wrth bleidleisio yng nghaffi enwog Pentre Bach heddiw?!

Gorsaf bleidleisio mewn ystafell wydr, mewn tŷ ym Merthyr Tudful

Mae siop goffi nid anenwog yn Abertawe yn cynnig fwy na phaned a chacen heddiw

Peint wrth fwrw pleidlais? Tafarn Twnti - Tu Hwnt i'r Afon, yw'r orsaf bleidleisio yn Rhyd-y-clafdy, ger Pwllheli

Eglwys Santes Tudful yn Llyswyrny, Bro Morgannwg

Mae Twm y ci, a'i berchennog Esyllt Sears, wedi bod yn pleidleisio yn Eglwys Santes Tudful, yn Llyswyrny

Cyfle i olchi eich dillad wrth fwrw pleidlais yn y Tŷ Golchi ar faes carafanau Bryn Gloch, Betws Garmon

Clwb pêl-droed Mountain Rangers, yn Rhosgadfan, ger Caernarfon

Naws Nadoligaidd yng Nghlwb Pêl-droed Caerfyrddin

Tu allan i Glwb Rygbi'r Hendy
Lle fyddwch chi'n pleidleisio? Anfonwch lun aton ni at cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol
Hefyd o ddiddordeb: