Atgofion etholiadau Vaughan Roderick

  • Cyhoeddwyd
vaughan

Mae llai nag wythnos nes Etholiad Cyffredinol 2019. Mae'r ymgyrchu wedi bod yn ffyrnig ar brydiau, gydag un pwnc yn mynnu mwy o sylw na phopeth arall - Brexit.

Ond un person sydd wedi bod yn darlledu o etholiadau ers 40 mlynedd yw Golygydd Materion Cymreig BBC Cymru, Vaughan Roderick.

Yma mae Vaughan yn cael ei holi am ei atgofion o'r ymgyrchu mae wedi ei weld dros bedwar degawd.

Beth yw'r etholiad cyntaf ydych chi'n ei gofio?

Y gyntaf wnes i weithio arni oedd 1979 - yr etholiad daeth ryw ddeufis ar ôl etholiad refferendwm '79 - rwy'n meddwl taw runner oeddwn i yn yr etholiad yna. Doedd dim cyfrifiaduron ar y pryd felly fyddech chi'n gorfod mynd â chanlyniad etholaeth - fyddai rhywun wedi ei ffonio mewn - ar ddarn o bapur a'i ruthro lawr i'r stiwdio er mwyn iddyn nhw ei roi e lan, yn llythrennol 'da ffelt tip pen neu rifau magnetig ar y bwrdd.

Ond mae'n atgofion i o etholiadau yn mynd yn ôl yn bellach. Pan oeddwn i yn yr ysgol, etholiad 1970, aeth Dad a fi i lansiad ymgyrch Harold Wilson ym Mharc Ninian. Roedd 'na ryw 5,000 o bobl yn y gynulleidfa, ac aethon ni i weld Edward Heath ym mhafiliwn Gerddi Soffia a Jeremy Thorpe hefyd (enw sy'n gysylltiedig â sgandal fawr y cyfnod), yn Neuadd y Cory, felly mae atgofion byw gyda fi o'r etholiad yna.

Ydy'r ymgyrchu wedi newid dros y blynyddoedd?

Ydy a nadi - roedd 'na ddigon o emosiwn ac ymgecru yn etholiadau'r gorffennol ond wrth gwrs roedd pawb i ryw raddau yn brwydro o gwmpas y tir canol. Roedd yna gonsensws ynghylch pethau fel codi tai cyngor, y gwasanaeth iechyd, y wladwriaeth les ac yn y blaen ond mi ddechreuodd hwnna ddadmer yn ystod cyfnod Thatcher ac erbyn hyn mae'n gwleidyddiaeth ni wedi polareiddio llawer iawn yn fwy yn ail hanner yr 20fed ganrif.

Ac mae dulliau ymgyrchu wedi newid. Roedd y Blaid Geidwadol yn enwedig yn blaid enfawr, oedd â thros filiwn o aelodau felly roedd 'na lot o ymgyrchu ar lawr gwlad. A nawr, er bod Llafur â nifer sylweddol o aelodau, mae fel pe bai ymgyrch y Torïaid wedi mynd yn llawer iawn mwy ar y cyfryngau cymdeithasol a phost uniongyrchol oherwydd does 'da nhw mo'r trŵps i wneud y math o ymgyrchu traddodiadol.

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan yn y stafell newyddion yn yr 1980au

Oes 'na ymgyrch neu ddigwyddiad yn aros yn y cof?

Y trychineb gwaethaf ges i fel gohebydd oedd etholiad 2001 lle ro'n i'n neud phone-in ar Radio Wales efo Tony Blair o'r Marriott yng Nghaerdydd. Roedd y BBC yn arbrofi gyda defnyddio radio links am y tro cyntaf ac fe aeth y peth mas yn fyw gyda holl negeseuon tacsis Caerdydd yn ymyrryd arno, oherwydd roedden nhw'n ceisio darlledu'r peth nôl i bencadlys y BBC ar yr un donfedd â'r cwmni tacsis.

Felly fe aeth hanner awr o Tony Blair mas i Gymru gyda "metro car to Pentrebane" yn mynd drosto fe! Hwnna oedd y trychineb gwaethaf yn fy ngyrfa darlledu i. A'r eironi yw mai'r person oedd yn cynhyrchu'r rhaglen y diwrnod hwnnw oedd Owen Smith, aeth ymlaen i fod yn Aelod Seneddol dros Bontypridd.

Pwy oedd y gwleidyddion mwya' lliwgar?

Dyw'r ymgyrchwyr lliwgar ddim wastad y gwleidyddion mwyaf llwyddiannus! Roedd John Prescott yn ymgyrchydd lliwgar a 'nath e fwrw rhywun lan yn y gogledd ar ôl i rywun geisio taflu wy ato fe. Ond fi yn meddwl bod gwleidyddion nawr ddim yn gallu cymysgu â phobl yn yr un ffordd ag oedden nhw.

Roedd gwleidyddion yn arfer gallu jyst mentro mas mewn i farchnad neu mewn i'r stryd lle nawr, yn enwedig os oes 'na gamerâu yn bresennol, maen nhw'n amharod iawn i wneud hynny.

Yr ymgyrchydd salaf 'wi wedi ei weld erioed oedd Theresa May, doedd hi jyst ddim y gallu ei wneud e. Y gorau heb os faswn i'n dweud oedd Tony Blair - pan oedd e yn ei anterth roedd 'da fe ffordd o gysylltu â phobl a denu pobl ato fe oedd yn anhygoel ond mae treigl amser yn effeithio ar bob gwleidydd, a gyda rhyfel Irac ac yn y blaen fe gollodd e'r holl ewyllys da yna yn weddol o sydyn.

O ran yr ymgyrchwyr Cymreig roedd 'da Geraint Howell, y Rhyddfrydwr yng Ngheredigion ffordd effeithiol iawn o ymgyrchu, oherwydd doedd e ddim yn tueddu i fynd at bobl, roedd e'n mynd i lefydd ac yn disgwyl i bobl ddod ato fe.

Ac oherwydd bod pawb yn ei adnabod, pawb yn ei licio fe, ac eisiau siarad gyde fe roedd mwy neu lai jyst yn sefyll yna ac yn gadael i bobl ddod lan ato fe - does dim lot o wleidyddion sy'n ddigon adnabyddus yn eu hetholaethau i allu gwneud hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Noson Refferendwm Datganoli 1997, yng nghwmni Guto Harri, Bethan Rhys Roberts a Dewi Llwyd

Yr areithiwr gorau fyswn i'n dweud oedd dyn o'r enw Emrys Roberts wnaeth sefyll i Blaid Cymru yn isetholiad Merthyr yn 1972. Roedd yn gallu areithio yn ymfflamychol ac yn ddamniol, roedd e'n areithiwr arbennig o dda.

Heddiw wrth gwrs fydde chi'n gorfod dweud mai Adam Price yw e, ond oherwydd dwi'n meddwl dirywiad y capeli, dydych chi ddim yn cael y math o areithio wedi ei strwythuro yn ofalus a'r mynd i hwyl yn y ffordd roeddech chi. Yn aml iawn 'dyw rhywbeth sy'n edrych yn dda iawn mewn neuadd ddim yn edrych yn dda iawn ar deledu. Mae pobl yn mynd am arddull mwy sgyrsiol, gan wybod falle bod hynny yn dod drosodd yn well ar deledu.

Gwahaniaeth rhwng bod mewn cyfrif lleol a trosolwg cenedlaethol mewn stiwdio?

Mae cyfrif mewn etholaeth yn gallu bod yn ddigon diflas os ydych chi mewn cadarnle plaid. Fi wedi bod ambell un lle 'dyw rhai o'r gwrthbleidiau ddim hyd yn oed wedi boddran troi fyny, ond os ydych chi mewn lle lle mae'n agos yna mae'n gyffrous iawn ac mae gennych chi tellers y pleidiau yn ceisio dyfalu beth yw canlyniad yr etholiad o flaen llaw drwy gyfri'r degfed papur neu un o bob pum papur.

Wrth gwrs lle mae'n agos iawn mae'n gallu mynd i chwe, saith o weithie, fi'n meddwl Caerfyrddin, Chwefror(?) '74 oedd 'na ryw chwech ail-gyfrif fan honno ac roedd hi'n hwyr ar b'nawn Gwener cyn iddyn nhw gyhoeddi'r canlyniad oherwydd mwyafrif o dair oedd hwnna a'r cyfri'n digwydd eto ac eto, drosodd a thro.

Noson yr etholiad, sut ydych chi'n cadw'n effro?

I fi mae'r adrenalin yn cadw fi i fynd, ond mae 'na ambell i wleidydd wedi cwympo i gysgu ar y set cyn hyn - wnâi ddim eu henwi nhw, ond mae 'na ddau dwi'n gallu meddwl amdanyn nhw, y ddau wedi marw erbyn nawr. O'dd Dewi Llwyd yn gorfod pwyso draw i'w pôcio nhw i'w dihuno nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Vaughan gyda'i gyd-gyflwynwyr ar Dros Ginio ar BBC Radio Cymru; Catrin Haf Jones, Jennifer Jones a Dewi Llwyd

Ydych chi erioed wedi darogan yn anghywir?!

Dwi'n meddwl taw un wnaeth fy synnu i fwyaf oedd 1992, lle o'n i'n disgwyl i Lafur wneud llawer iawn gwell na wnaethon nhw. O'n i'n meddwl falle byddai hi'n senedd grog.

Ond y rheswm wnes i gamddarllen hwnna oedd mod i ddim wedi bod tu fas i Gymru a beth ddigwyddodd oedd wnaeth Llafur wneud yn arbennig o dda yng Nghymru yn '92 ond wnaethon nhw ddim ennill tir bron o gwbl yn Lloegr. Felly ro'n i wedi darogan yn gywir i Gymru ond wedi cymryd yn ganiataol y byddai'r un peth yn digwydd yn Lloegr. A ddigwyddodd e ddim.

Weithiau mae gwleidyddiaeth Lloegr a Chymru yn wahanol ac weithiau dydyn nhw ddim. Peidiwch gofyn imi am yr etholiad y tro yma - does dim clem gyda fi am yr un yma!

Hefyd o ddiddordeb: