Pawb a'i bleidlais: Cyfarfod etholwyr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhai o etholwyr Cymru

Ar fws, mewn caffi, yn siopa Nadolig neu mewn ymarfer côr - mewn cyfnod etholiad ble bynnag mae 'na Gymry, mae 'na bleidlais - a phawb a'i farn.

Dros yr wythnosau diwethaf mae Cymru Fyw wedi bod ar daith ar draws y wlad yn cyfarfod a sgwrsio gyda'r etholwyr. Cyn i'r blychau pleidleisio agor, dyma bigion o farn rhai o'r bobl hynny.

Mae eu pryderon nhw yn gyfuniad o faterion sydd o dan reolaeth San Steffan, y Cynulliad a chynghorau lleol.

Trafod pensiynau dros baned

Wrth ymyl arhosfa bws Bangor, mae caffi Hafan yn denu nifer o drigolion hŷn yr ardal. Mae'n cael ei redeg gan Age Cymru Gwynedd a Môn, a phensiynau a pholisïau yn ymwneud â'r henoed oedd y prif bwnc trafod i nifer o'r selogion.

'Maen nhw'n deud bod pensioners rŵan yn gyfoethog - myth ydi hynny' - Dilys Pritchard

"Maen nhw'n deud bod pensioners rŵan yn gyfoethog, yn lle dwi'm yn gwybod! Ewadd annwyl, myth ydi hynny - mond isho chi weld faint o'r canolfannau 'ma sy'n rhoi bwyd yn y cymunedau, a faint o bensiynwyr sy'n mynd i fanno.

"Ers talwm adeg rhyfel fydda Nain yn hel tuniau corn beef a ham a ballu erbyn 'Dolig - wel rŵan mae rhai pobl yn gorfod iwsio pethau felly yn y canolfannau yma i fwyta bob dydd... achos 'di nhw methu fforddio dim arall.

"Mae lot sy'n stryglo yn cael pension credit, 'di hwnnw ddim llawer, ond os gewch chi hwnnw gewch chi rent rebate a council tax a rhyw betha fel yna yn help.

"Dwi'n reit ffodus bod gen i ferch a dau fab. Dwi reit independent ond os ydi nhw'n meddwl bod sgeno fi ddim rhywbeth, erbyn diwrnod wedyn mae o yna."

'Dwi'm angen mwy o bensiwn. Be' fwy dwi angen? Dwi'm yn smocio' - Robat Owain Jones

"Dwi'm yn gweithio rŵan - dwi ar fy mhensiwn ers 30 mlynedd a dwi'n 96 nesa, ond pwy sy'n dod â gwaith yma sydd dal yn bwysig i fi rŵan pan dwi'n fotio hefyd.

"Dwi'm angen mwy o bensiwn. Be' fwy dwi angen? Dwi'm yn smocio. Dwi'n mynd i chwarae snwcer bob dydd Iau, a dwi'n dod i Fangor ar y bws chwech neu saith gwaith yr wythnos.

"Wnâi ddim aros adra. Y peth gwaetha' alli di wneud ydi aros adra. Mae depression yn dechrau.

"Ond ddeuda i chi be' sy'n bod efo'r llywodraeth yma - mae o'r un peth pwy bynnag sydd yna - mae 'na ormod o millionaires a tydi nhw ddim yn gwybod sut mae pobl gyffredin yn byw. Dim ots pwy sy'n rhedeg y wlad, mae o yn yr un twll."

'Mae'r politicians yn cael expenses am bob dim - tydi pawb arall ddim' - Meryl Williams

"Be' sy'n bwysig ydi bod y politicians yn Llundain yn cael llai o gyflog ac expenses - maen nhw'n cadw'r rich yn rich a'r tlawd yn dlawd.

"Mae'r politicians yn cael expenses am bob dim - tydi pawb arall ddim.

"O ran yr henoed, mae angen rhoi mwy o bensiwn iddyn nhw, a mwy o help tuag at ofal a chostau gofalu achos pan mae pobl ar ben eu hunain does dim digon o help i fod yn annibynnol adra.

"Mae rhai pobl yn jeopardisio eu jobs neu eu priodas i edrych ar ôl rheini a tydi hynny ddim yn iawn. Ac mae angen mwy o help pan maen nhw'n sâl."

Ar y bws

Y TrawsCymru ydi'r gwasanaeth bws rhwng gogledd a de Cymru, lle mae barn y teithwyr mor amrywiol â'r golygfeydd.

Disgrifiad o’r llun,

Y TrawsCymru o Fangor i Ddolgellau... ond pwy fydd wrth y llyw ar ddiwedd y daith etholiadol?

'Dwi'n nabod pobl sydd wedi cael eu evictio ac mae lot yn mynd i foodbanks' - Denise Royal

"Mae tai yn broblem. Sna'm digon i bobl leol a ma' lot sydd ar housing benefit yn cwyno am yr universal credit.

"Mae pawb yn dweud 'di nhw methu côpio efo fo achos ti'n cael y pres bob mis ac yn gorfod talu'r landlord dy hun. Efo housing benefit oedda nhw'n rhoi o'n syth i'r landlord.

"Os ti ddim yn talu rhent ti'n cael fflich allan ac wedyn mae'r llywodraeth yn gorfod talu am B&B iddyn nhw achos sgeno nhw ddim lle i fyw - sy'n costio mwy yn y pen draw."

'Roeddwn i'n teithio am 10 mlynedd i Fanceinion i weithio' - Stuart Wilson

"Dylai 'na fod lot o help i'r genhedlaeth ieuengach sy'n dechrau yn y byd gwaith. Tydi o ddim yn hawdd cael gwaith yma.

"Dwi wedi ymddeol ond roeddwn i'n arfer teithio am 10 mlynedd i Fanceinion i weithio.

"Dechrau am 05:00 bob bore Llun, a 'nôl nos Wener - doedd y gwaith ddim yma i fi."

'Does 'na ddim digon o staff i edrych ar ôl pawb' - Maureen Roberts

"Dwi ar fy ffordd i Ysbyty Gwynedd i volunteerio. Dwi'n mynd yna fel Robin Volunteer - 'da ni'n mynd ar y wards ac yn gwneud panad, mynd i siarad efo pobl neu fynd i'r siop iddyn nhw os maen nhw eisiau. Unrywbeth i helpu.

"Does 'na ddim digon o staff yn yr NHS. Maen nhw'n dweud does dim digon o welyau i bawb, ond staffio ydi'r broblem - does 'na ddim digon i edrych ar ôl pawb, dyna'r brif broblem.

"Felly mae'r NHS yn bwysig i fi adeg etholiad."

Brexit, brexit, brexit. In that order

Dim syndod beth oedd ar feddwl yr amaethwyr oedd yn prynu a gwerthu yn mart Dolgellau: dyfodol perthynas Prydain ag Ewrop.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n anodd dianc rhag Ewrop yn y mart yn Nolgellau

'Mae gen i fab sy'n 24 a merch sy'n 21 a 'da chi jest yn poeni am eu dyfodol nhw' - Carys Redman

"Dwi'n dod yma i'r mart i dorri gwallt ers tua 14 mlynedd. Mae hogia'r ffermydd i gyd yn cefnogi fi yn ofnadwy o dda.

"Mae'n dda iddyn nhw hefyd achos tydi nhw ddim yn gorfod mynd i fewn i'r dre' i dorri gwallt, maen nhw'n dod yma yn eu dillad gwaith tra yn y mart.

"Maen nhw'n poeni am Brexit a be' sy'n mynd i ddigwydd i amaeth a'u diwydiant - mae o'n boen meddwl iddyn nhw ond gobeithio neith nhw benderfynu'r peth iawn i bawb.

"Mae gen i fab sy'n 24 a merch sy'n 21 a 'da chi jest yn poeni am eu dyfodol nhw.

"Dwi ddim am fotio tro yma, nes i tro diwetha' a 'nath o ddim helpu'r mater o gwbl. 'Da ni gyd wedi dweud be' 'da ni eisiau dweud a wnaeth o ddim neud dim gwahaniaeth o gwbl."

'Mae pethau eraill wedi eu hesgeuluso yn y wlad ers tair blynedd a hanner i raddau' - Emlyn Roberts

Ffynhonnell y llun, bbc

"Mae'r byd gwleidyddol ar ein meddwl ni ers tair blynedd a hanner rŵan - ers y refferendwm. Mae dau etholiad wedi bod wedyn, a 'da ni dal i mewn yn Ewrop. Mae'r wlad 'ma mewn bach o lanast gwleidyddol dwi'n meddwl.

"Mae Brexit am fod ar fy meddwl pan yn pleidleisio, ond hefyd mae'r unigolyn yn bwysig a beth mae'r unigolyn yn ei wneud i'r etholaeth.

"Gobeithio bydd yr elfen Brexit wedi ei sortio yn eithaf buan ac mae pethau eraill wedi eu hesgeuluso yn y wlad ers tair blynedd a hanner i raddau."

Ffair Nadolig Llanelli

Fel byddai rhywun yn disgwyl mewn ysgol efallai, roedd toriadau i gyllidebau a'r effaith ar addysg yn un o'r prif bynciau trafod. Ond roedd materion eraill hefyd yn mynd a bryd pobl yn ffair Nadolig Ysgol y Strade, Llanelli - o erlid milwyr i gynhesu byd eang.

Disgrifiad o’r llun,

Ar werth: yr anrheg Nadolig perffaith i genedlaetholwyr Cymreig?

'Fi'n cael pleidleisio ond fi heb registro' - Aaron Davies

"Fi'n 18... felly fi'n cael pleidleisio ond fi heb registro achos fi ddim yn credu bod fi'n deall cymaint amdano fe bod fi'n gallu rhoi pleidlais, fi ddim yn gwybod beth i bleidleisio amdano.

"Ar y dechrau roedd gen i ddiddordeb mewn Brexit ond ma' fe wedi cael ei dragio allan cymaint fi wedi colli diddordeb.

"Fi'n credu bod addysg ac iechyd yn bwysig a fi'n credu bod y ffordd mae disgyblion ysgol yn gorfod talu am eu bwydydd cinio ysgol yn anghywir oherwydd bod pobl fel prisoners yn cael nhw am ddim.

"Mae climate change wedi cael effaith ar sut fi'n meddwl - fi'n gyrru fy hunain nawr, ond ar rhai diwrnodau fi'n dod ar fws yma."

'Dyw'r gwaith ddim yma ar eu cyfer nhw' - Delyth Davies

"Ni yn colli lot o'n pobl ifanc yn anffodus, mae lot o'n pobl ifanc yn mynd bant, mae peth diwydiant ysgafn yma a llawer yn gweithio i lywodraeth neu gynghorau.

"Mae'n pryderu fi.

"Mae lot o'r plant sy'n 'neud yn dda yn yr ysgol a chael swyddi da, chi'n gobeithio bydda nhw'n gallu dod 'nôl fan hyn ond dyw'r gwaith ddim yma ar eu cyfer nhw."

'Rhywbeth sy'n agos iawn i'n galon i ar y foment yw'r ffaith bod y veterans yn cael eu herlid' - Bethan Rowlands

"Rhywbeth sy'n agos iawn i'n galon i ar y foment yw'r ffaith bod y veterans yn cael eu herlid.

"Efo Northern Ireland ddechreuodd e ac wedyn ma' nhw wedi dechrau dishgwl at Irac ac Afghanistan. Mae hynny'n agos iawn at fy nghalon i yn amlwg wedi bod mas yno. Neith e bendant effeithio ffordd 'wi'n pleidleisio.

"Fi'n credu bod unrhywun sy'n cael eu hela mas gan y llywodraeth i wneud jobyn ac wedyn dod 'nôl a chael eu cosbi am wneud hynny - big no no i fi."

Mewn harmoni yn Yr Wyddgrug?

Symud fel un llais ydy un o rinweddau côr o safon, ond pan fo baton yr arweinydd yn llonydd mae'r côr yn llawn unigolion - i gyd gyda'u barn bersonol.

Yn eu hymarfer olaf cyn eu cyngerdd Nadolig, fe siaradodd rai o aelodau Cymdeithas Gorawl yr Wyddgrug a'r Cylch gyda Cymru Fyw.

Disgrifiad o’r llun,

Paratoadau olaf cyn cyngerdd Nadolig Cymdeithas Gorawl yr Wyddgrug a'r Cylch yn Eglwys y Santes Fair, Yr Wyddgrug

'Mae cyfiawnder i bawb yn eithriadol o bwysig' - Huw Lewis

"Dwi'n chwilio am ymlyniad i ddatblygiadau fydd yn adennill yr hyn oedd yma pan oedd gennym ni'r diwydiannau mawrion - does dim cydbwysedd ers y dyddiau hynny.

"Dwi'n chwilio am bolisïau fydd, nid yn adfer yr hyn oedd gennym ni, ond yn datblygu rhai newydd a datblygu ein pobl ifanc ar gyfer byd y dyfodol.

"Mae cyfiawnder i bawb yn eithriadol o bwysig ac mae anghydbwysedd mawr rhwng y rhai sy'n berchnogion a'r di-berchnogion. Mae angen ailgyfeirio polisïau ideolegol - dydi neo-liberaliaeth a neo-gyfalafiaeth ddim yn gweithio."

'Fi dal heb benderfynu eto' - Eirlys Jones

"Roeddwn i'n manager yn Tesco, felly mae'r economi yn bwysig i mi - achos fi dal i dderbyn fy mhensiwn ganddyn nhw!

"Fydda i ddim yn pleidleisio i'r un blaid bob tro, ma'n dibynnu beth maen nhw'n addo - ac yna gobeithio eu bod am wneud hynny. Fi dal heb benderfynu eto.

"Addysg sy'n bwysig iawn i mi - dyna'n dyfodol ni. Iechyd hefyd. Mae angen newid rhai pethau, gan fod ni'n cael rhai pethau am ddim dyla ni dalu amdanyn nhw - fel presgripsiwn am ddim. Mae'n iawn os chi angen rhywbeth hir dymor - ond ddim rhywbeth fel parasetamol."

Hefyd o ddiddordeb: