Arwyr Cymru mewn darluniau
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod Arwyr Cymru'r BBC, yr arlunydd Cara Davies, dolen allanol sy'n dathlu ein gweithwyr allweddol yn ei dull annwyl ac unigryw ei hun.
"Roedd o'n hawdd i mi gael ysbrydoliaeth ar gyfer y darn yma o waith gan fod nifer o fy nheulu a ffrindiau yn gweithio ar y rheng flaen fel nyrsys, athrawon a gofalwyr - ac mewn siopau," meddai Cara.
"Dwi'n gweld cymaint o ddewrder ynddyn nhw ac maen nhw'n fy ysbrydoli i gael agwedd bositif mewn amser llawn ansicrwydd."
O Ynys Môn yn wreiddiol, mae Cara yn gweithio o adre yn ei fflat yng nghanol Manceinion ar hyn o bryd.
"Pob dydd fyddai'n setio fy nesg i fyny wrth yml y ffenestr i sicrhau fy mod i'n teimlo effaith yr awyr agored.
"Er nad ydw i'n siarad gyda'r pobl tu allan, mae gwylio pobl yn mynd o gwmpas eu bywydau yn rhoi teimlad o gysur i mi."
"Er ein bod ni'n ynysu, dwi'n teimlo nad ydyn ni erioed wedi bod mwy unedig fel ffrindiau a chymdeithas, meddai Cara.
"Dwi'n gobeithio fy mod wedi llwyddo i gyfleu fy nheimlad o ddiolchgarwch i'r holl weithiwyr allweddol trwy gyfrwng y gyfres fach yma o ddarluniau."
Hefyd o ddiddordeb: