'Diolch!' Oriel o'ch arwyddion chi
- Cyhoeddwyd
Mwynhewch oriel o arwyddion diolch dros Gymru wrth inni ymuno i ddathlu diwrnod Arwyr BBC Cymru.
O Fôn i Fynwy, mae pobl wedi bod yn brysur yn dangos eu gwerthfawrogiad i'n gweithwyr allweddol mewn ffyrdd creadigol iawn gan greu pob math o arwyddion lliwgar.

Mae Anni Fflur a Dafi Huw wedi bod yn ddyfeisgar iawn efo teclynnau o gwmpas y tŷ i greu eu henfys bob lliw

Elsa a Caron a'u cynfas o fêls gwair i ddweud diolch

Mae Barry Marples o Benrhyndeudraeth wedi bod yn gwneud lluniau arbennig o weithwyr y gwasanaeth iechyd gyda sialc tra mae i ffwrdd o'i waith

Gwên werth chweil gan Ianto gyda'i arwydd diolch yn Ceidio ger Pwllheli

Morgan, Begw, Blodwen a Caradog o Lanuwchllyn yn dangos eu gwerthfawrogiad

Mae Dan y ci yn dweud 'diolch' hefyd

Neges uwch ben y drws yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd,

Arwydd Harri a Hanna i ddiolch i'r NHS yng Nghlocaenog ger Rhuthun

Lleucu, Saran a Lliwen a'u ffrindiau gwlanog yng Nghlanrafon ger Corwen

Cerrig glan môr sydd wedi ffurfio'r galon a'r llythrennau yma ym Mhwllheli gan Mary Elizabeth Yilmas

Elin yn Llanelltyd gyda'i diolch i ofalwyr, gweithwyr allweddol a'r Gwasanaeth Iechyd

DIWEDDARAF: Newyddion coronafeirws dydd Iau 7 Mai
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
DYSGU: Gwersi dyddiol Bitesize


Diolch heulog o tŷ ni - cartref Alys ac Enlli - yn y Ffôr ger Pwllheli

Gethin gyda negeseuon sialc yn Llangefni, Ynys Môn

Nel a Welan a'u harwydd lliwgar yng Nghemaes ger Machynlleth

Castell Conwy wedi ei oleuo yn lliwiau'r enfys

Mae'r artist Rhys Padarn o Oriel Odl wedi creu chwech murlun i arwyr y gwasanaethau allweddol gan gynnwys yr un yma syn dangos meddyg fel arch-arwr. Mae'r printiau ohonynt mae wedi eu gwerthu wedi talu am dabledi digidol i gleifion drwy Elusen Iechyd Bae Abertawe

Mae Annest wedi bod yn creu gwahanol negeseuon i wahanol weithwyr allweddol yng Nghricieth gan gynnwys neges o ddiolch i'r rhai sy'n casglu'r biniau

Mari yng Nghaerdydd â'i henfys sialc

Giât yn yr Wyddgrug a dynnodd lygad Bethan Maria Williams wrth fynd am dro

Ela a Dico o Glanrafon ger Corwen hefyd yn diolch i holl staff y Gwasanaeth Iechyd a phawb arall sy'n helpu

Mae baneri tebyg i hwn yn Llanrug wedi eu codi mewn gwahanol ardaloedd

Neges syml gan Sara yn Rhosfawr

Un o'r nifer o arwyddion codi calon eraill sydd wedi ymddangos hyd a lled Cymru
Hefyd o ddiddordeb: