Coronafeirws: Straeon o'r rheng flaen

  • Cyhoeddwyd
Gweithwyr allweddol

Ar Ddiwrnod yr Arwyr mae BBC Cymru yn dathlu gwaith a chyfraniad ein gweithwyr allweddol yng Nghymru yn ystod cyfnod coronafeirws.

O nyrsys i ofalwyr, paramedics i feddygon, mae nifer ohonynt ar y rheng flaen yn wynebu'r pandemig ac yn gweithio er gwaetha'r risg o ddal y feirws yn eu gwaith bob dydd.

Dyma straeon rhai ohonynt.

Mae Erin Bryfdir yn nyrs yn yr uned argyfwng yn Ysbyty Gwynedd.

Ffynhonnell y llun, Erin Bryfdir
Disgrifiad o’r llun,

Erin Bryfdir, ar y dde, yn ei siwt diogelwch

Mae'r pandemic mor newydd i ni gyd, ni erioed wedi gweld ffasiwn beth o'r blaen ond mae'n wych bod ni gyd yn tynnu at ein gilydd fel tîm a'n cefnogi ein gilydd. Hyd yn oed tu allan i'r gwaith mae pawb yn gyrru texts i weld os ydy pawb yn oce.

'Da ni wedi bod yn cael hyfforddiant ychwanegol ynglŷn â'r coronafeirws ac mae'r ysbyty wedi paratoi yn drylwyr iawn - archebu ventilators ychwanegol ac ati.

Ofn

Mae ofn gyda fi bod fi'n cario fe nôl at fy nheulu achos dw i'n byw adre - dw i'n newid i ddillad fy hun cyn gadael yr ysbyty ac yn golchi dillad yn streit i leihau'r risg.

Mae Mam yn poeni. Mae Dad yn baramedig felly mae'r ddau ohono ni'n dod nôl i'r tŷ. Mae'n bryderus achos 'da ni ddim yn gwybod pa sefyllfa 'da ni'n mynd i gyrraedd pan ni'n mynd ar shifft.

Ffynhonnell y llun, Erin Bryfdir

Achos bod fi yn yr adran argyfwng mae'r cleifion yn dod fewn yn sâl so 'da ni'n sganio symptomau nhw a rhoi nhw lawr fel suspected covid-19.

Gobeithio neith pawb sticio i ganllawiau'r llywodraeth a chario mlaen i aros adre. Ti dal i weld pobl sy'n mynd lle 'da nhw ddim i fod. Mae'n ddigalon rili achos pobl sy'n lledaenu'r feirws yma.

Be' sy' wedi cyffwrdd fi yw pa mor ffein yw'r cyhoedd yn cyfrannu pethau fel poteli dŵr a gwau bagiau i ni gario dillad budr. Mae'r arwyddion sy' yn y ffenestri yn codi calon rhywun pan ti'n gyrru i'r gwaith ac yn gweld y baneri efo'r enfys.

Cefnogaeth

Mae pawb mewn hwyliau da ar shifft ac mae pawb yn gwneud yn siŵr bod nhw'n cefnogi ei gilydd yn fwy na arfer.

Mae rheina sy' efo plant bach adref - maen nhw'n poeni'n ofnadwy.

Mae'n gyfnod anodd i bobl sy' wedi symud allan o'u cartref a dal i weithio yng nghanol y pandemig - dw i'n siŵr ei fod yn effeithio ar bobl yn feddyliol.

Ond daw eto haul ar fryn.

Mae staff yr adran argyfwng i gyd yn eitha' tough ac mae llawer yn offloadio wrth ddreifio adref.

'Da ni'n gwisgo masg, menig, ffedog a visor. 'Di o ddim yn gyfforddus ac mae'n afiach cael masg ar dy wyneb drwy'r dydd ond be' 'di gwisgo masg os ydy o'n helpu chdi ac yn lleihau'r risg bod ti'n lledaenu rhywbeth i'r claf?

Mae Mared Meredydd Roberts yn feddyg iau yn Ysbyty Brenhinol Gwent.

Ffynhonnell y llun, Mared Roberts

Mae 'di bod yn sefyllfa ofnadwy o bryderus yn y Gwent ers dipyn o wythnosau. Nid pawb sy'n ennill y frwydr yn erbyn coronafeirws.

Ond er gwaetha'r holl dristwch 'da ni'n trio cadw'n bositif o ddydd i ddydd - pob wan jac o'r staff sy'n gweithio yma.

Un peth positif sydd wedi dod o hyn i gyd ydy'r holl gefnogaeth gan y cyhoedd, yr holl ddiolchiadau gan y teuluoedd dros y ffôn am ofalu ar ôl aelodau o'r teulu; yr holl fwyd a diod a'r deliveries di-ri sydd wedi bod yn ein cyrraedd.

Un peth 'da ni'n gobeithio yw y bydd y gefnogaeth yma'n parhau wedi'r cyfnod trist yma.

Dal y feirws

Yn anffodus, dwi wedi cael profiad personol o ddal y feirws fy hun. O'n i i ffwrdd o'r gwaith am o leiaf pythefnos ac er gwaetha'r holl ansicrwydd roedd o mor braf cael ail-ymuno ac ail-gydio yn fy rôl ar y rheng flaen a bod yn rhan o'r teulu mawr sydd yn y Gwent ar hyn o bryd. 'Da ni yn dod drwyddi hefo'n gilydd.

Fe ddaw haul ar fryn - dyna sy'n fy nghadw i fynd.

Ffynhonnell y llun, Mared Roberts

Mae Sam Griffiths yn nyrs ar ward Covid yn Ysbyty Llandochau ger Caerdydd.

Ffynhonnell y llun, Sam Griffiths
Disgrifiad o’r llun,

Sam yn ei wisg diogelwch

Dwi newydd ddod adre ar ôl gweithio 60 awr ar y ward wythnos yma. Mae llawer o staff i ffwrdd efo Covid ar y funud a dwi'n trio helpu'r ward cymaint dwi'n gallu.

Dwi'n gorfod gwisgo PPE llawn am y rhan fwyaf o'r diwrnod. Mae'n amddiffyn ni ond yn gadael marciau ar draws yr wyneb - mae'n nhrwyn i dal yn goch.

Braw

Wnaeth y ward droi yn ward Covid yn sydyn iawn pan ddaru'r pandemig gychwyn er mwyn copio efo'r holl bobl sâl oedd yn dod i mewn i'r ysbyty. Oedd o'n frawychus i gychwyn ond wnaeth y tîm ddod at ei gilydd a delio gyda'r sefyllfa a jyst cario mlaen.

Wythnos diwetha' o'n i'n edrych ar ôl claf oedd yn ofnadwy o sâl. O'n i'n teimlo mor helpless - o'n i ddim yn gallu gwneud dim byd bron i'w helpu, roedd yn brwydro am bob anadl.

Roedd siarad efo'i deulu dros y ffôn yn enwedig o anodd achos dwi fel arfer yn siarad efo teuluoedd wyneb yn wyneb ac yn gallu cydymdeimlo a chysuro. Roedd trio egluro pa mor sâl oedd y dyn yma yn dorcalonnus a'r ffaith bod neb o'i deulu yn cael dod i'w weld yn waeth fyth.

Ffynhonnell y llun, Sam Griffiths

Mae'n anodd iawn i fi beidio medru gweld teulu a ffrindiau. Mae fy chwaer yn byw yn Abertawe a newydd gael babi saith mis yn ôl. Mae ddim yn gallu gweld hi'n tyfu yn rili anodd - pan oeddwn i arfer mynd i'w gweld nhw'n aml iawn.

Ond dwi'n gwybod bod rhaid dilyn canllawiau'r llywodraeth er mwyn ein amddiffyn ni a phawb o'n cwmpas ni. Ma lot o bobl yn asymptomatic efo Covid ac yn gallu lledaenu'r feirws mor hawdd heb yn wybod. Plîs glynwch wrth y canllawiau.

Ar ddiwrnodau anodd rwy' mor falch bod tîm anhygoel tu ôl i fi. Ry'n ni'n codi calonnau'n gilydd ac yn edrych allan am ein gilydd oherwydd rwy'n siŵr bod lot yn dioddef gyda'u iechyd meddwl ar hyn o bryd.

Diolch i bawb sydd yn ein cefnogi ni. 'Da chi gyd yn arwyr!

Mae Ceri Jones yn gweithio i wasanaeth ambiwlans Cymru fel technegydd meddygol brys. Mae'n paratoi i fynd nôl i'r rheng flaen ar ôl gwella o Covid.

Ffynhonnell y llun, Ceri Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ceri Jones: "Does dim llawer yn fy nychryn i..."

Pythefnos yn ôl tra o'n i ar shifft fe ddechreues i deimlo'n sâl. O'dd gen i gur yn fy mhen, o'n i'n teimlo'n oer ac yn boeth ac o'dd pob man yn brifo drosta fi fel mod i newydd redeg marathon.

Erbyn y nos Wener o'n i wedi dechre tagu. O'n i'n teimlo'n wan ac yn methu cerdded ymhell heb fod yn fyr o wynt ac aeth fy nhymeredd i i fyny i'r 40au.

Es i i'r ysbyty bore dydd Llun a fan'na o'n i am dri diwrnod yn derbyn triniaeth. Wnaethon nhw gadarnhau bod gen i Covid. Dwi'n 29, yn berson ffit ac yn iach ac i glywed bod gen i pneumonia - wnaeth hynny fy nychryn i.

Does dim llawer yn fy nychryn i - ond fe wnaeth hynny.

'Feirws diawledig'

Erbyn hyn dwi ar y mend ac rwy'n cyfri fy hun yn un o'r rhai lwcus. Roedd gen i oedran ar fy ochr i a wnaeth hynny fy helpu i i gwffio'r feirws diawledig yma.

Yn amlwg, ma' knock-on effect ar y gwaith hefyd a ma' nhw wedi bod un i lawr tra mod i i ffwrdd. Dwi wrth fy modd gyda fy ngwaith a nawr dwi'n teimlo fel person newydd ac yn edrych mlaen at gael mynd nôl i'r front line.

Mae Elian Mai West yn gweithio fel gofalwraig yn yr uned dementia yng nghartref gofal Cwmbran House, Cwmbran.

Mae Elian newydd gychwyn gweithio yno fel rhan o ymgyrch Helping Hands ar gyfer cyfnod coronofeirws.

Ffynhonnell y llun, Elian Mai West

Y diwrnod cyntaf yn y cartref bues i'n crio am ei fod mor anodd i weld y bobl gyda dementia sy' ddim yn deall be' sy'n mynd mlaen ar hyn o bryd.

Ac hefyd clywed straeon fel stori Hannah, un o fy nghydweithwyr sy' methu gweld ei merch fach am fod ganddi asthma.

Maen nhw'n arwyr pur.

Mae'n upsetting achos ti ddim yn gwybod pryd mae hyn yn mynd i orffen. Os dw i'n cael diwrnod caled dw i'n trio rhoi bach o amser i fy hun.

Dim ond un achos o Covid-19 sy' wedi bod yn y cartref - cawson nhw eu hunan-ynysu a bu rhaid gofalu amdanynt yn y gêr cywir.

Mae'r ffocws ar y trigolion, yn enwedig rheiny gyda dementia achos maen nhw'n dioddef cymaint os nad ydyn nhw'n cael y cariad - ac yn amlwg dyw eu teuluoedd ddim yn gallu ymweld. Felly ni'n trio chwarae gyda nhw a chanu a siarad. Ac hefyd creu fideos ohonynt i'w teulu i weld.

Ni just yn gofalu ar ôl ein gilydd - gwneud yn siŵr bod ni'n cymryd munud pan fo angen ac yn amddiffyn ein hunain gyda'r menig, ffedogau a'r masgiau.

Mae'n le inspiring i weithio. Cyn y gwaith yma o'n i'n berfformiwr yn byw yn Llundain ond dw i wedi dod adref i Gasnewydd ar gyfer y lockdown ac wedi neidio mewn i waith sy'n hollol newydd i fi. Mae'r bobl sy'n gwneud hyn trwy'r dydd, bob dydd i'r NHS yn hollol inspiring a dw i wedi teimlo'n humbled iawn.

Chi'n mynd i'r cartref a bron yn anghofio am y coronofeirws achos mae pawb yn dangos gofal a chariad at ei gilydd.

Mae Gwen John yn weithiwr cymdeithasol gyda phlant yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, Gwen John

Dwi'n gweithio yn y tîm diogelu plant a ni fasa'r first port of call pan ma' unrhyw bryderon yn codi.

'Da ni wedi cael lot o heriau gwahanol i'r arfer ers i'r pandemig ddechrau.

Ma' sut ni'n derbyn gwybodaeth wedi newid oherwydd dydy plant ddim yn mynd i'r ysgolion a dydyn nhw ddim yn cael eu gweld bob dydd. Nawr mae'r wybodaeth yn dod gan yr heddlu neu gan bobl yn y gymuned.

Ni'n neud lot o asesiadau dros y ffôn nawr.

O'r blaen bydden ni'n mynd i'w tai i gael sgwrs hefo nhw i weld sut allen ni helpu. Ond 'da ni ddim yn gallu gwneud hynny dim mwy - oni bai bod y plentyn mewn perygl uniongyrchol.

A ma' hynny'n achosi poen meddwl. I feddwl bod cymaint o blant sydd angen help neu gefnogaeth ond 'da ni ddim yn cael eu gweld nhw.

Mae hynny'n dipyn o her oherwydd fel arfer ni angen siarad gyda'r plentyn cyn y rhiant. Yn anffodus, lot o'r amser ma' rhieni yn gallu siarad efo plant a dweud wrtho nhw beth ma' nhw'n cael neu ddim yn cael dweud.

Y risg mwyaf

Ma' 'na lot o bwyso a mesur yn digwydd. Beth sy'n achosi'r risg mwyaf i'r plentyn? Ai ni'n cyrraedd y tŷ a'r risg ynghlwm wrth hynny oherwydd y feirws neu ein bod ni'n methu cael gweld a siarad gyda'r plentyn yr union adeg yna?

Dwi'n reit lwcus o ran fy nhîm i. 'Da ni'n dîm agos ac yn dipyn o ffrindiau ac er ein bod ni'n gweithio o adre nawr mae'n dda medru cadw mewn cysylltiad gyda group chats ar ddiwedd y dydd - yn enwedig pan ma' rhywun wedi cael diwrnod gwael.

'Da ni hyd yn oed wedi cael diwrnod gwisg ffansi - 'da ni dal yn cael hwyl ac yn cefnogi ein gilydd.

Gwrandewch ar rai o'r cyfweliadau gyda'r gweithwyr allweddol ar raglen Aled Hughes ar Ddydd Iau, 7 Mai.

Hefyd o ddiddordeb