Lluniau byd natur: Goreuon Galwad Cynnar
- Cyhoeddwyd
Tra mae'r byd wedi bod yn delio gyda feirws Covid-19 mae byd natur wedi ffynnu ac wedi bod yn gysur i nifer. Un o'r pethau mae'r cyfnod wedi ei ddangos yw ei bod yn werth cymryd amser weithiau i sylwi ar beth sydd wrth ein traed ac o'n cwmpas.
Mae gwrandawyr rhaglen Galwad Cynnar ar Radio Cymru wedi bod yn tynnu lluniau o ryfeddodau byd natur ers sawl blwyddyn. Dyma ddetholiad i'ch ysbrydoli:

Wrth fynd allan i dynnu llun y sêr yn y nos yn ardal Trawsfynydd cafodd Keith O'Brien gwmni'r dylluan wen hon sy'n edrych fel darlun o chwedl Blodeuwedd!

Llun arall gan Keith O'Brien o sgwarnog, creadur arall sy'n cael ei gysylltu ag ambell chwedl

Llygoden fach yn mentro i nôl bwyd rhwng y potiau blodau

Mae'r patrwm troellog ar gragen malwen yn un o'r myrdd o batrymau mathemategol natur

Daliodd Gareth Roberts y llun trawiadol yma o gnocell y coed yn hedfan yn ei ardd yn Bont Newydd ger Dolgellau

Adenydd newydd sbon gan was y neidr sy'n mynd drwy metamorffasis

Robin goch yn canu nerth esgyrn ei ben, wedi ei dynnu gan Elan Edwards Clarke sy'n 13 mlwydd oed

Sgwarnog arall ond un anghyffredin, gwyn, y tro yma. Wedi ei gweld ger Tudweiliog ym Mhen Llŷn

Titw Tomos las yn gwneud ei nyth yn gysurus

Elyrch y gogledd yw'r rhain, rhywogaeth brin a welwyd yn ardal Llanfachreth ger Ddolgellau

Madarchen cap inc neu do ar gyfer un o dai'r Tylwyth Teg?

Rhith neu Fwgan Brocen yw enw'r ffenomenon yma a welodd Gerallt Pennant ar Foel Hebog, sef tafluniad enfawr o'ch cysgod eich hun yn y cymylau

Aderyn y to yn bwydo ei chyw

Lliw hardd a siapiau symetrig - mae'n werth cymryd yr amser i edrych yn fanylach weithiau

Moch coed yn glwstwr ar goeden binwydd

Glöyn byw yn gwledda ar flodau'r bwdlea, neu'r gynffon las

Haid o fôr-wenoliaid sy'n dod nôl i nythu mewn rhannau o arfordir Cymru yn yr haf - un o'r llefydd gorau i'w gweld yw Gwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn

Ymwelydd haf arall â'n glannau, y slefren gwmpawd sydd â brathiad cas os ewch yn rhy agos

Gwybedyn druan wedi ei ddal mewn gwe pry cop

Madfall yn manteisio ar ei chuddliw ar faneg arddio yn Waunfawr, Gwynedd

Aderyn du gwyn

Llun agos arall sy'n dangos symetri a phatrymau cain byd natur - blodyn dant y llew yn barod i wasgaru ei hadau

Tresi aur trawiadol Gerddi Bodnant sydd wedi denu ymwelwyr o dros y byd

Anadlwch yn ddwfn ac ewch allan i'r awyr iach - y wawr yn torri dros gae o ŷd
Mwy: Holl orielau Galwad Cynnar
Hefyd o ddiddordeb: