Gyrru adref o Rwsia drwy'r pandemig
- Cyhoeddwyd
O'r Sgwâr Coch yn Moscow i gamlesi Amsterdam mae Gareth Davies wedi cael cyfle unigryw i weld rhai o ddinasoedd a threfi Ewrop yn wag o dwristiaid a chysgu dan y sêr ar ei daith epig adref i Gymru o Rwsia.
Ar ôl bron i ddwy flynedd yn gweithio fel athro a phrifathro yn Moscow mae wedi gyrru drwy ogledd Ewrop ynghanol pandemig Covid-19 i ddod adref at ei wraig a'u hefeilliaid chwe mis oed ym Mlaenau Ffestiniog.
Roedd ei wraig Sara, oedd hefyd yn dysgu yn Moscow, eisoes wedi dod adref ar ddiwedd 2019 er mwyn geni eu meibion, Gryffudd a Morgan.
Wedi cyfnod adre efo hi aeth Gareth yn ôl i Moscow fis Mawrth i orffen ei flwyddyn olaf yn yr ysgol a gwagio eu fflat.
Ond o fewn ychydig ddyddiau i gyrraedd roedd y wlad dan glo oherwydd Covid-19. Welodd o ddim mo'i deulu am bedwar mis tra roedd yn gweithio o'r gegin yn ei fflat ynghanol Moscow yn y locdown.
Y fan
Pan gododd y cyfyngiadau aeth allan yn syth i brynu fan 4x4 UAZ cyn cychwyn am adref ar ei daith drwy Ewrop gyda'i ffrind Chris, athro arall oedd yn dod adref i Birkenhead.
Roedd rheolau cwarantîn, gofynion fisa neu gyfyngiadau eraill yn golygu nad oedd mynd ar hyd y llwybrau arferol drwy Wlad Pwyl, Lithiwania, Ukrain neu Belarws yn opsiwn.
Felly gyrrodd Gareth a Chris dros 700 milltir i'r gogledd orllewin o Moscow ac i fewn i'r Ffindir er mwyn dal llong yn Helsinki a fyddai'n mynd â nhw dros Fôr y Baltig i ailymuno â'r tir mawr yn yr Almaen. Yna gyrru drwy'r Almaen a'r Iseldiroedd cyn croesi drosodd i Loegr ac yna adre i Gymru.
Y Sgwâr Coch
"Yr unig amser gafon ni'n stopio gan yr heddlu ar yr holl daith o Moscow i Blaenau oedd yn y Sgwâr Coch," meddai Gareth sy'n gyn athro Daearyddiaeth yn Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog.
"Roedd Chris a fi eisiau tynnu llun o'r fan tu allan i'r Red Square. Gychwynnon ni jyst cyn pedwar yn y bore yn y fan i fynd i'r sgwâr lle gafon ni stop gan yr heddlu.
"Heblaw am hynny chafon ni mo'n stopio o gwbl."
Mae Moscow yn dechrau prysuro rŵan ond ar y diwrnod y cychwynnodd Gareth a Chris roedden nhw wedi gwagio'r ardal er mwyn ymarfer ar gyfer dathliadau'r Parêd dros Fuddugoliaeth oedd wedi ei gohirio oherwydd y coronafeirws.
Hanner ffordd i'r Ffindir
Eu stop cyntaf ar y daith oedd hanner ffordd rhwng Moscow a St Petersburg mewn pentref o'r enw Bologoye.
"Wnaethon ni gysgu tu ôl i'r arwydd i'r pentref, â marciau bwled arno fo!
"Mae'r fan yn gallu gyrru drwy bod dim.
"Brynais i roof rack i'w rhoi ar dop y fan a dwi 'di bod yn cysgu ar hwnna. Ro'n i wedi dod â'r holl duvets adra efo fi felly ro'n i'n gallu eu defnyddio i gysgu ar dop y fan.
"Doedd hi ddim yn nosi yno am ein bod ni mor bell i'r gogledd - maen nhw'n eu galw nhw'n white nights yn yr ardal yna."
Rhwng St Petersburg a Helsinki yn y Ffindir bu'r fan yn teithio drwy dywod.
Helsinki a Môr y Baltig
"Roedd y llong gyntaf, ar y Baltig, yn daith o 29 awr ac roedd y môr mor llonydd mi ddaru ni eistedd ar y dec drwy'r dydd yn cael tan a chysgu mewn caban dros nos."
Yr Almaen
Yr unig amser wnaethon nhw gysgu ynghanol dinas - y tu mewn i'r fan - oedd yn Hambwrg yn yr Almaen; lle roedd Gareth yn gyfarwydd ag o yn barod gan ei fod wedi ymweld o'r blaen gyda Sara.
Yr Iseldiroedd
Ymlaen wedyn drwy Bremen ac i'r Iseldiroedd, lle cawson nhw noson o foethusrwydd cymharol mewn pentref o'r enw Leeuwarden pan fynnodd Chris eu bod yn llogi pod i gysgu'r nos.
"Ro'n i'n ddigon hapus i gysgu ar dop y fan ond doedd Chris ddim, roedd o isio noson mewn gwely iawn.
"Mae'n bentref bach lyfli a del iawn.
"Dreif wedyn i mewn i ganol Amsterdam. Mae Sara a fi wedi bod i Amsterdam lwyth o weithiau am ein bod ni o hyd yn stopio yno wrth hedfan i Moscow ac yn cael noson yn y ddinas yn aml.
"Roedd o mor cŵl achos roedd Amsterdam yn wag, doedd 'na neb yna; dwi erioed wedi gweld y lle yn wag, mae fel arfer fel Disneyland!
Lloegr
Croesi wedyn o Hoek van Holland i Harwich, eu hail noson ar gwch, a chyrraedd Lloegr.
"Mi wnes i dynnu llun o flaen Red Square i bobl yn fama gael gweld mod i wedi dod o bell, wedyn dwi wedi gorfod tynnu lluniau o bethau yn fama - fel y blychau postio a'r bocys ffôn coch - i ddangos ein bod ni wedi cyrraedd."
"Doedd pobl Rwsia ddim yn meddwl fyswn i'n cyrraedd - roedden nhw'n meddwl mod i'n hollol hurt. Doedden nhw ddim yn meddwl fysai'r fan yn ei gwneud hi, ond mae hi fel tanc, mi wneith hi fynd drwy rwbath."
Roedd hi'n ddiwedd y daith i Chris yn Birkenhead ond roedd gan Gareth un cymal olaf cyn cyrraedd Cymru a mynd mewn i cwarantîn adref ym Mlaenau Ffestiniog am bythefnos.
Adref
Mi gymerodd y daith wythnos i gyd.
Mae Gareth yn dal adref yn ynysu am gyfnod eto, yn unol â'r rheolau, er ei fod wedi cael prawf negyddol am Covid-19 ar ôl cyrraedd adref.
Roedd yn ofalus iawn ar hyd y daith meddai, yn cadw pellter a chysgu yn, neu ar, y fan gan amlaf.
"Ro'n i'n ddigon ffodus o beidio ei ddal o. Dwi'n meddwl y byddai gen i fwy o chance o'i gael o pe tawn i wedi mynd i feysydd awyr."
Oherwydd y coronafeirws roedd y ffyrdd yn weddol wag drwy Ewrop meddai.
"Roedd 'na lai o geir, jyst loris. Ar y ffin ro'n i'n mynd i ochr y ceir, ond dim ond fi oedd 'na felly roedd yn cymryd llai o amser iddyn nhw fynd drwy'r stwff yng nghefn y fan - i wneud yn siŵr mod i ddim yn cario gynnau ac yn y blaen!
"Mae pawb isho siarad efo fi am y fan dyddia yma, mae pawb wrth eu boddau efo hi achos dydyn nhw ddim wedi gweld un o blaen, does 'na ddim rhai eraill yn y wlad, ond pan o'n i yn dreifio adre doedd gan neb ddiddordeb ynddi hi!
"I feddwl mod i'n dreifio o gwmpas mewn fan Rwsieg a phlatiau Rwsieg, wnaeth neb fy stopio i."
Dydi Gareth ddim yn gweld dim byd arbennig am ei daith: "Y cwbl dwi wedi ei wneud ydi dreifio adra!"
Beth mae wedi ei ddysgu ar y daith?
"Dwi wedi dysgu faint dwi'n methu fy ngwraig a mhlant ac nad ydy o'n gwneud gwahaniaeth pa mor bell wyt ti, cyn belled a dy fod ar dy ffordd adra mae'n iawn."
Mae'n edrych ymlaen at gael mynd i weld ei fam a'i dad pan fydd ei gyfnod cwarantîn drosodd, a chael "cwtsh a phaned" efo nhw.
Yr antur nesaf
Nid dyma antur gyntaf Gareth: cyn eu cyfnod yn Moscow roedd o a Sara wedi cymryd blwyddyn o'r gwaith i deithio mor bell ag y gallen nhw heb hedfan. Fe lwyddon nhw i gyrraedd Hong Kong a threulio mis yn Japan.
"Aethon ni ar y Trans Siberian i Vladivostock wedyn cwch i Japan, wedyn cwch arall i Tsieina, a hedfan wedyn o Hong Kong i'r Philippines - dyna'r unig hedfan wnaethon ni.
Eu hymweliad â Moscow i ymuno â'r trên ar draws Siberia wnaeth eu hysgogi i fynd yno i ddysgu.
Gyda'u hefeilliaid bach rŵan yn chwe mis oed, ai dyma ddiwedd ar deithio'r byd i Gareth a Sara?
"Rydyn ni am gario ymlaen, pam ddim? Tsieina nesaf o bosib. Hyd yn oed pan mae'r plant yn hŷn, fysan ni'n ddigon hapus yn mynd i deithio a gweld y byd. Athro Daear ydw i - dwi isho gweld mwy, dwi ddim wedi gweld digon eto!"
Hefyd o ddiddordeb: