'Dwi'n gallu gweithio i Gyngor Ceredigion o Wlad Thai'

  • Cyhoeddwyd
Rhodri a NoiFfynhonnell y llun, Rhodri Francis
Disgrifiad o’r llun,

Rhodri Francis a'i wraig, Noi

"Ychydig feddylies i ganol Mawrth y bydden i'n cynnal fy nghyfarfod nesa' gyda Hwb Penparcau o Wlad Thai ond i fod yn onest dyw e ddim yn 'neud lot o wahaniaeth os 'wi'n Penparcau, Petchabun neu ben pella'r byd."

Mae Rhodri Francis yn swyddog gyda Cered, sef Menter Iaith Ceredigion.

Fe aeth ef, ei wraig Noi a'u merch Yanisha i Wlad Thai ganol mis Mawrth er mwyn bod yno ar gyfer Gŵyl Songkran, sef y cyfnod pwysicaf yng nghyfnod y calendr Bwdaidd.

"Mae pawb yn meddwl bo fi ar sunbed ar bwys palm tree ond 'wi'n gweithio fel arfer," meddai Rhodri, sydd wedi methu â dychwelyd i'w gartref yn Llanilar, ger Aberystwyth oherwydd cyfyngiadau'r cyfnod clo.

"Fel arfer ry'n ni'n ymweld â theulu Noi yn ystod yr haf ond roeddwn am i'r ferch, naw oed, ga'l y cyfle i brofi yr ŵyl grefyddol hon cyn dyddiau ysgol uwchradd. Mae'r ŵyl yma fel Nadolig Gwlad Thai.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Francis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhodri, Noi ac Yanisha yn gobeithio dychwelyd i Gymru ganol Gorffennaf

"Wrth i ni hedfan ro'dd yna dipyn o sôn am haint coronafeirws ond 'nes i erioed feddwl y byddai'n effeithio arnom ni - fe newidiodd pethe dros nos.

"Yn fuan ro'dd Cymru dan glo ac fe wnaeth ffiniau Gwlad Thai gau dros nos ac fe gafodd yr ŵyl ei chanslo - roeddwn i'n wirioneddol styc ac mewn panig," ychwanegodd Rhodri.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Francis
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rhodri a'r teulu wedi mynd i Wlad Thai i ddathlu Gŵyl Songkran

"Roedden ni fod i fynd adref ganol Ebrill ond mae'n debyg mai ynghanol Gorffennaf byddwn ni'n dod nôl nawr a'r gwir yw fi'm yn credu y buaswn wedi gallu cyfrannu lot mwy i'r gwaith na phetaem wedi bod yn styc yn Llanilar! Ydy, mae'r cyfnod clo 'ma wedi trawsnewid bywyd ac wedi cynnig cyfleon gwahanol.

"Drwy gyfrwng y we dwi dal yn gallu ymuno ym more coffi Cymraeg Penparcau - ry'n yn cwrdd ar Zoom bob bore dydd Llun.

"Dwi dal yn gallu 'neud quizzes a chyfrannu at dudalennau cyfryngau cymdeithasol Cered - mae'r cyfnod 'ma wedi dangos y gall unrhyw beth gael ei gyflawni, ble bynnag rydych chi yn y byd.

"Gan bo fi yng Ngwlad Thai, dwi wedi bod yn gneud tipyn o fideos sy'n rhoi blas i bobl ar ein bywyd yma."

'Wedi fy newid - er gwell'

Dywed Rhodri ei fod wedi dychryn i ddechrau wedi clywed bod pob ffin wedi cau ond ei fod bellach yn falch bod ei wraig a'i ferch wedi cael treulio amser gyda'u teulu.

Ffynhonnell y llun, Rhodri Francis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Yanisha wedi cael cyfle i ysgrifennu Thai yn ystod ei gwyliau estynedig

"Mae Yanisha yn rhugl mewn tair iaith - Cymraeg, Thai a Saesneg. Mae cael siarad Thai gyda Yai a Po [Mam-gu a Thad-cu] wedi bod yn brofiad arbennig ac mae bod yma wedi bod yn gyfle iddi ddod i adnabod ei chefndryd a'i chyfnitherod. Mae wedi ei boddi yn yr iaith.

"Mae hi hefyd wedi cael y cyfle i ysgrifennu Thai - mae 'na 48 o lythrennau yn y wyddor.

"Dwi fy hun wedi dysgu lot am dechnoleg, dwi wedi dysgu sut i reido beic modur a dysgu mwy o'r iaith.

"Dwi hefyd wedi bod yn bwydo'r mynachod sydd yma - maen nhw'n ddibynnol ar roddion."

Ffynhonnell y llun, Rhodri Francis

"O ran sefyllfa y coronafeirws mae pawb yn hynod wyliadwrus," medd Rhodri, "rhaid gwisgo mwgwd ac mae 'na gyrffiw rhwng 10pm a 5am. Fi'n meddwl os chi'n torri'r rheolau bod yna ddirwy drom neu garchar.

"Yn y dydd mae modd ymweld â ffrindiau ond mae pawb yn defnyddio synnwyr cyffredin ac yn hynod o ofalus - dyna pam, o bosib, bod nifer y marwolaethau a'r achosion yma yn is.

"Mae'n biti na chafodd Gŵyl Songkran ei chynnal ond bydd cyfle eto.

"Ydy mae'r profiad wedi fy newid - er gwell i ddweud y gwir ac mae'n profi bod modd gweithio i Gyngor Ceredigion yng Ngwlad Thai."