10,000 o filltiroedd, 21 gwlad, un hen gar

  • Cyhoeddwyd
Rhys a Garmon yn dathlu gorffen y rasFfynhonnell y llun, Team Rali Rwdins

Mae dau Gymro yn dathlu ar ôl gyrru car bychan hanner ffordd o gwmpas y byd i gwblhau'r Mongol Rally.

Fe wnaeth Rhys Tudor a Garmon Roberts o Gaerdydd - neu Tîm Rali Rwdins - ymweld â 21 gwlad, yn cynnwys Bosnia, Albania, Twrci a Tyrcmenistan, mewn car un litr, 19 mlwydd oedd efo 122,000 o filltiroedd ar y cloc cyn cychwyn.

Mewn neges o Siberia ar ôl gorffen y daith, dywedodd y ddau: "Mae'r profiad o weld y tirlun, wynebau a diwylliant yn newid ar hyd y daith yn un unigryw, lot fwy cofiadwy na fly-in, fly-outs.

"Mae'r oriau o drafeilio trwy'r anialwch heb weld 'mond tumbleweed a'r gorwel wedi rhoi persbectif newydd o pa mor ffodus ydan ni yng Nghymru a Phrydain, i allu gyrru i weld golygfeydd godidog o fewn awr neu ddwy.

"Y trip nesaf fydd i'r Alban ac Ynys Skye, dim ond rhyw 10 awr o yrru..."

Dim ond tair rheol sydd i'r Mongol Rally: rhaid i'r car fod yn hen gydag injan lai na 1.2 litr; does neb i gael tîm wrth law i helpu; mae'n rhaid casglu o leiaf £1000 i elusen.

Dyma luniau a chofnod o'r daith gan Tîm Rali Rwdins, sy'n casglu arian i elusennau Tŷ Hafan a Cool Earth.

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"122,000 milltir ar y cloc ac awyddus am fwy..."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Ar ôl gyrru'n galed drwy ganol Ewrop ers dyddiau, cyrraedd Bosnia o'r diwedd - a dechrau'r rhan o'r daith drwy wledydd y Balcan. Y bedair awr i Mostar wedi troi yn saith awr gan ein bod yn stopio o hyd i weld y golygfeydd.

"Dod ar draws cadeirlan heb ei gwblhau a chael dringo ystol simsan i ben uchaf yr adeilad, diolch i ddyn cyfeillgar oedd efo goriad i'r lle... wnaethon ni ddim sylweddoli ei bod yn hanner dydd a'r gloch yn gweithio!"

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Ar ôl gadael prysurdeb Istanbul, gyrru i'r de ddwyrain i Cappadocia drwy dirwedd sych ac eang, a'r awyr fel petai'n cario ymlaen am byth.

"Roedd y golygfeydd fel rhywbeth allan o ffilm sci-fi, fe wnaethon ni wersylla yn y gwyllt, gweld llyn pinc, ymweld â thref tanddaearol a mynd o gwmpas tref a thirwedd arallfydol Cappadocia."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Roedd y D915, sy'n cael ei alw yn un o'r ffyrdd perycla' yn y byd, yn ymarfer da ar gyfer lôn Pamir. Doedd y ffordd yn ddim problem i'r ceir Polo, Panda, Jazz a Micra."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Mae manteision i wersylla allan yn y gwyllt..."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Tra yn Uzbekistan...."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Teithio tua'r dwyrain ers sawl diwrnod, ac ymweld â dwy dref ar y Ffordd Sidan, Samakrand a Bukhara, a cherdded o gwmpas hen strydoedd anhygoel, mosgiau a madrasau.

"Mae Bukara yn un o'r ychydig drefi yng nghanol Asia wnaeth Genghis Khan ddim ei dinistrio tra'n rhedeg yn wyllt tua'r gorllewin, am resymau amlwg... Mae'n anhygoel.

"Mae Uzbekistan yn cynnig lot fawr o ddiwylliant a phrydferthwch, a dyma'r bobl hapusaf a mwya' cyfeillgar hyd yma."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Tra'n pasio lori wnaeth un o'r shocks dorri. Yn ffodus, wnaeth y dyn bach yma a'i dad ei driwsio fel ein bod ni'n gallu cario mlaen, am bris rhesymol iawn - $2."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Wedi hwylio dros Y Môr Caspiaidd i Tyrcmenistan, gwlad mewn anialwch yng nghanol Asia. Mae 'Gatiau Uffern' wedi bod yn llosgi ers 1971. Yn wreiddiol, roedd daearegwyr yn meddwl bod llyn olew yno, ond pan gafwyd hyd i boced o nwy naturiol fe wnaeth y rig drilio ddisgyn i mewn i dwll 70 metr o led, a 30 metr o ddyfnder.

"I atal y nwyon rhag ymledu fe wnaeth y Sofietiaid gynnau'r tân - roedden nhw'n meddwl y byddai'r nwyon i gyd wedi llosgi o fewn cwpl o wythnosau."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Ar ôl deuddydd ar y Pamir, fe wnaethon ni benderfynu troi nôl a mynd ar ffordd mwy diogel a chynt i Osh, Lyrgyztan.

"Pan yn nôl petrol fe welsom ni stêm neu fwg yn dod allan o'r boned, roedd y ffan wedi stopio gweithio ers sbel.

"Yn ffodus fe wnaeth mecanig mewn pentref bychan drwsio'r car. Roedd o hefyd yn ddigon clên i'n gwahodd ni i'w le fo am ginio.

"Tra roedd o'n gweithio ar y car fe wnaeth ei wraig wneud wy a chips i ni - ac hefyd rhoi botel o fêl cartref i ni fynd efo ni."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Teithwyr ar y Ffordd Sidan..."

Ffynhonnell y llun, Tîm Rali Rwdins

"Mongol Rally 2019... wedi ei chwblhau!

"Antur o'r diwrnod cynta i diwrnod 45 - 21 gwlad i gyd, pob un yn wych.

"Mae'r rali wedi dysgu ambell beth i ni - byddwch yn amyneddgar, cymerwch risg, mae ceir yn fwy gwydn na mae rhywun yn feddwl - a sut i sgwatio fel Slaf."

Hefyd o ddiddordeb: