Oriel: Hydref yn fy milltir sgwâr
- Cyhoeddwyd

Mae yna deimlad hydrefol yn yr awyr a dail crin o dan ein traed.
Yn Bontfaen ger Machynlleth mae'r ffotograffydd Elin Vaughan Crowley yn byw. Mae hi wedi bod yn crwydro tir ei fferm, Ty Gwyn, a'r ardal gyfagos i dynnu lluniau wrth i'r coed newid eu lliw.

Yr afon Dyfi drwy'r tarth o'r bont yn Llanwrin.


Rhaid cofio mynd i ddweud helo wrth Bea.


Golau'r bore dros y bryniau o fferm Ty Gwyn.


Ar hyn o bryd, mae'r teulu'n torri'r coed llarwydd ar y tir ac am ail-blannu coed caled - derw, onnen a ffawydden.


Haul braf, ond mae dal angen gwisgo'n gynnes er mwyn chwarae ar y siglen.


Dail orengoch Gregynog.


Lliwiau hydrefol yn gymysg â'r gwyrddni ym Mharc Dolerw.


Parcio'r car ger Gwesty Pen-y-bont a mynd am dro ar hyd y dŵr yn Nhal-y-llyn.


Machynlleth o fynydd y Wylfa.


Yr afon Hafren yn llifo drwy Barc Dolerw.


Yr haul yn torri drwy'r cymylau uwch Tregynnon.
Hefyd o ddiddordeb: