Oriel: Fy haf i dan glo
- Cyhoeddwyd
Sara-Louise Davies, o Synod Inn yng Ngheredigion, oedd enillydd categori hŷn cystadleuaeth ffotograffiaeth yr Urdd a Cymru Fyw, Ffoto T.
A hithau wedi gorfod gadael ei blwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd yn ddisymwth oherwydd coronafeirws, mae'r flwyddyn yma wedi bod yn un wahanol iawn i'r hyn roedd hi wedi ei ddisgwyl.
Yma, mae hi wedi dogfennu ei chyfnod clo mewn lluniau.
Dwi newydd orffen blwyddyn 13 yn Ysgol Bro Teifi, Llandysul ac yn disgwyl am fy nghanlyniadau Safon Uwch. O'dd rhaid i ni ffarwelio â lle, ond dim y bobl.
Rhyfedd ydi gweld cwch unig ar draeth Cei Newydd amser yma o'r flwyddyn. Fel arfer, byddai'r Cei wedi bod yn llawn cychod o bob lliw a llun.
Y brawd adref yn ystod y cyfnod clo; amser i ymlacio a sgwrsio wast.
Roedd graddio gradd 8 ar y piano piano cyn y pandemig wedi galluogi fi i gario ymlaen i chwarae darnau o bob genre, heb ddiflasu. Dwi hefyd wedi ceisio cadw'n iach drwy gerdded neu redeg, treulio amser gyda'r teulu, ac erbyn hyn dwi wedi dod yn dipyn o feistr ar greu bara banana!
Galaru: Roedd colli Nana yn ystod dechrau'r cyfnod clo yn brofiad anodd i ni fel teulu, wrth alaru heb wasanaeth cyflawn.
Dwi'n byw yn agos iawn at draethau Bae Ceredigion a dwi wedi manteisio ar hyn yn ystod y cyfnod clo. Mae Mam a fi wedi ceisio cadw'n iach drwy ddewis llwybr cerdded newydd bob dydd. O Synod Inn i Gwmtydu a nôl oedd wâc y dydd hwn.
Hufen iâ mêl cyntaf y flwyddyn ar ôl gwaith mewn ciosg hufen-iâ yn Aberaeron.
Ein bubble ni - Mamgu a Tadcu yn sgwrsio a hel atgofion.
Roedd dathlu pen-blwydd yn ddeunaw yn ystod pandemig yn brofiad unigryw.
Ffrog cinio'r Chweched heb ei gwisgo. Byddwn ni yn mynd lawr mewn hanes fel plant 2020.
Llun candid o Dad ar ei hoff draeth caregog.
Fy hoff draeth yn dawel heb fwrlwm y twristiaid. Er bod y blodau yn blaguro, mae'r economi wedi diodde'.
Hefyd o ddiddordeb: