Jamie Roberts: 'Gobeithio y bydd rygbi'n parhau i addasu'
Mae canolwr y Dreigiau, Jamie Roberts, wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd rygbi yn parhau i addasu a datblygu er mwyn amddiffyn chwaraewyr rhag anafiadau i'r pen.
Daw ei sylwadau yn dilyn achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm yn ymwneud â'r risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen.
Hyd yn hyn, mae dau Gymro, Alix Popham ac Adam Hughes, wedi siarad am effaith y gêm ar eu hiechyd.
Dywedodd Roberts mai rygbi yw un o'r campau sydd wedi newid fwyaf er mwyn lleihau'r risgiau, a'i fod yn gobeithio y byddai'r awdurdodau yn parhau i wneud hynny.