Anafiadau pen: Mwy yn ymuno ag achos yn erbyn awdurdodau rygbi

  • Cyhoeddwyd
Adam HughesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i Adam Hughes ymddeol yn 2018 yn dilyn cyngor gan niwrolegydd

Mae chwech yn rhagor o gyn-chwaraewyr rygbi wedi ymuno mewn achos cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gêm oherwydd methiant honedig i'w hamddiffyn rhag y risgiau sy'n cael eu hachosi gan anafiadau i'r pen.

Yr ieuengaf o'r rheiny ydy'r Cymro Adam Hughes, 30, fu'n rhaid ymddeol yn 2018 oherwydd anaf i'w ymennydd.

Mae cyn-ganolwr y Dreigiau, a chyn-chwaraewr rheng-ôl Lloegr dan-21, Neil Spence, 44, wedi ymuno â'r her gyfreithiol yn erbyn World Rugby, Rygbi Lloegr (RFU) ac Undeb Rygbi Cymru, ynghyd â phedwar arall sydd ddim eisiau cael eu henwi.

Maen nhw'n ymuno ag ymgyrch cyn-chwaraewr rheng-ôl Cymru, Alix Popham, 41, a chyn-chwaraewyr rhyngwladol Lloegr - Steve Thompson, 42, a Michael Lipman, 40 - sy'n dwyn achos yn erbyn awdurdodau'r gêm am esgeulustod.

Mae Hughes wedi cael diagnosis o anafiadau ar ei ymennydd a sgil effeithiau cyfergyd, tra bo'r wyth chwaraewr arall wedi cael diagnosis o arwyddion cynnar dementia a CTE - cyflwr tebyg i Alzheimer's, sy'n cael ei achosi gan drawma i'r ymennydd.

Mae'r tri chorff rygbi yn dweud bod canllawiau cyfergyd wedi eu seilio ar wybodaeth wyddonol, ac mae lles chwaraewyr yw eu "blaenoriaeth bennaf".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alix Popham, 41, wedi cael rhybudd y gallai fod angen bod mewn cartref gofal erbyn y bydd yn 50 oed

'Un gnoc yn ormod'

Dywedodd Hughes nad yw'r cofio cyfnodau o'i yrfa fel chwaraewyr oherwydd yr anafiadau i'w ben.

Ychwanegodd y cyn-ganolwr, wnaeth hefyd gynrychioli tîm dan-20 Cymru, ei fod yn credu ei fod wedi cael ei daro'n anymwybodol "tua wyth gwaith" yn ystod ei yrfa.

"Fe wnes i ddod â fy ngyrfa i ben yn 28 oed ar ôl cael cyfergyd drwg - roedd e'n un gnoc yn ormod," meddai Hughes, o Gasnewydd.

"Ro'n i'n ffeindio fe'n fwyfwy anodd i wella ar ôl pob un ergyd i'm mhen.

"Ar y dechrau roedd hi'n cymryd yn hir i wella o gyfergyd mawr ble ro'n i'n cael fy nharo'n anymwybodol, ond dros amser roedd hyd yn oed y rhai bach yn cael effaith.

"Er lles fy iechyd roedd yn rhaid i mi ddod ag e i ben."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Adam Hughes nad yw'r cofio cyfnodau o'i yrfa fel chwaraewyr oherwydd yr anafiadau i'w ben

Ychwanegodd ei fod wedi colli ei gof o rai digwyddiadau.

"Ar ôl cael fy nharo'n anymwybodol unwaith, fy unig atgof ydy bod yn yr eisteddle - roedd hi'n oer iawn ac roedd gen i got fawr 'mlaen," meddai.

"Doedd gen i ddim syniad sut wnes i gyrraedd fanno, nac unrhyw atgof o'r diwrnod hyd at y pwynt hynny - yr hyfforddwyr ddywedodd wrtha i beth ddigwyddodd."

'Colli cyfleoedd i wneud y gêm yn fwy diogel'

Roedd Hughes yn hyfforddi i fod yn beilot tra'n cyfuno hynny gyda'i yrfa rygbi, ond mae bellach wedi gorfod rhoi'r gorau i hynny hefyd oherwydd yr anafiadau i'w ben.

"Wrth gwrs, rwy'n gwybod y bydd pobl yn dweud 'mod i'n gwybod beth oedd y peryglon, ond mae hynny'n methu'r pwynt yn llwyr.

"Os oedd yna gyfleoedd i wneud y gêm yn fwy diogel - ac rwy'n credu bod cyfleoedd wedi bod - yna roedd hi'n ddyletswydd ar y rheiny ag awdurdod i wneud hynny.

"Mae gan y gêm ffordd bell i fynd o ran addysg am anafiadau i'r pen.

"Dydw i ddim yn dioddef yn yr un ffordd â rhai o'r chwaraewyr hŷn, ond rwy'n dal i orfod addasu'r hyn rwy'n ei wneud yn fy mywyd pob dydd i beidio ailddechrau'r symptomau.

"Os ydw i'n gwthio pethau'n ormodol, yna fe fyddai'n gorfod treulio gweddill y diwrnod mewn ystafell dywyll yn teimlo'n sâl."

Cafodd llythyr ei anfon i World Rugby, yr RFU ac URC ddydd Iau gan gwmni cyfreithiol Rylands Law ar ran y chwaraewyr.

Mae'r llythyr yn dweud ei bod yn ddyletswydd ar y cyrff hynny i ddiogelu a hyrwyddo datblygiad y gamp, gan flaenoriaethu iechyd a diogelwch chwaraewyr.

Dywedodd y cwmni ei fod yn gweithredu ar ran dros 100 o gyn-chwaraewyr sy'n dweud bod ganddynt broblemau niwrolegol.

Ychwanegon nhw fod 30 o chwaraewyr eraill wedi dod yn eu blaenau wedi i Popham, Thompson a Lipman rannu eu profiadau gyda'r wasg yr wythnos ddiwethaf.

'Lles chwaraewyr yn flaenoriaeth'

Mewn datganiad ar y cyd dywedodd World Rugby, yr RFU ac URC ddydd Iau eu bod wedi derbyn y llythyr ac y byddan nhw'n cymryd amser i'w ystyried.

"Rydyn ni wedi bod y drist iawn o glywed straeon personol, dewr gan gyn-chwaraewyr," meddai'r datganiad.

"Mae rygbi yn gamp ble mae chwaraewyr yn dod i gysylltiad, a thra bod elfen o risg wrth chwarae unrhyw gamp, mae rygbi yn cymryd lles chwaraewyr o ddifrif a hynny'n sy'n parhau i fod ein blaenoriaeth bennaf.

"O ganlyniad i wybodaeth wyddonol, mae rygbi wedi datblygu ei safbwynt o ran adnabod, addysgu, rheoli ac atal cyfergyd ar draws y gêm.

"Rydyn ni wedi addysgu hyfforddwyr, dyfarnwyr a chwaraewyr am yr arferion gorau, ac mae esiampl rygbi ynglŷn ag anafiadau pen wedi cael ei gydnabod a'i ddilyn gan nifer o chwaraeon eraill.

"Byddwn yn parhau i ddefnyddio tystiolaeth ac ymchwil gwyddonol er mwyn parhau i ddatblygu ein safbwynt."