Oriel: Fy milltir sgwâr dan eira
- Cyhoeddwyd
Mae nifer ohonom wedi bod yn defnyddio'r cyfnodau clo i fynd am dro yn ein milltir sgwâr.
Un sydd wrth ei fodd yn cerdded yw Gwynfor James, sy'n gweithio i gwmni trydan ond hefyd yn ffotograffydd.
Tan yn ddiweddar, roedd ef a'i wraig Wendy wedi bod yn cerdded llwybr arfordir Cymru, ond yn oherwydd y cyfyngiadau, maen nhw wedi bod yn crwydro'n agos at eu cartref yn Neiniolen yng Ngwynedd.
Tynnodd y lluniau yma yn ystod yr eira mawr yn yr ardal ddechrau Ionawr:
"Oherwydd y cyfnod clo, mae'r sefyllfa wedi ein gorfodi ni i gerdded yn lleol," meddai Gwynfor. "Dwi'n teimlo bod hi'n bwysig cadw i'r rheolau, felly cychwyn a gorffen yn y tŷ amdani.
"Mae'n bosib cerdded i lawer o lefydd wrth gwrs - agos a phell. Er bod Yr Wyddfa yn weddol agos, ydi o'n rhy bell i ni gerdded yno? Efallai ddim, ond ydi o'n torri ysbryd y rheolau?"
Ffens ar Fynydd Perfedd wrth edrych lawr ar Llyn Marchlyn Mawr - dyma'r unig amser ar y daith wnaeth y cymylau glirio.
Baracs Môn. Fan hyn oedd y chwarelwyr o Fôn yn aros, wrth weithio yn y chwarel. Mae hwn wedi ei dynnu wrth fynd yn ôl adref o Lanberis.
Y mab, Owain Llŷr, a Wendy yn cerdded o Elidir Fach. 'Naethon ni gychwyn a gorffen yn y tŷ - mae o'n ddwy filltir yn hirach, ond dyna ydi'r rheolau ynde!
Gallt y Foel, sef yr allt sydd yn arwain i Dinorwig o Ddeiniolen, gyda'r mynyddoedd o dan eira yn y cefndir. Cafodd y llun ei dynnu o Moel Rhiwen.
Ffens wedi rhewi ar y ffordd lawr o Elidir Fach.
Llun Derlwyn, sef y crib sydd yn arwain i'r Wyddfa uwchben Llwybr Llanberis, wedi ei dynnu o Elidir Fach.
Fi, fy ngwraig Wendy, y ferch Elin Angharad a'r wyres Ela ar ben Moel Rhiwen. Mae Moel Rhiwen yn weddol hawdd i gerdded o'r tŷ.
Llun to yr amgueddfa lechi yn Llanberis gyda Derlwyn yn y cefndir. Wedi cerdded o'r tŷ, drwy'r coed yn Fachwen i Lanberis gan orffen wrth gerdded yn ôl i Ddeiniolen trwy Ddinorwig.
Tŷ y Parc, Deiniolen gyda'r Wyddfa yn y cefndir o dan y cymylau. Mae hwn wedi ei dynnu o Moel Rhiwen.
Castell Dolbadarn, gyda Derlwyn yn y cefndir. Y llun wedi ei dynnu wrth gerdded o Ddeiniolen.
Camfa ar ddiwedd Mynydd Perfedd, cyn cychwyn i fyny am Elidir Fawr.
Hefyd o ddiddordeb: