Rhybudd ynghylch her plismona rheol 'aros yn lleol'

Daeth awgrym ddydd Mercher bod rheolau newydd ar gyfer gwahanol rannau o Gymru yn bosibilrwydd wrth i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws.

Mae darogan y gall rheol 'aros yn lleol' ddisodli'r rheol 'aros gartref' pan fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cadarnhau manylion penderfyniadau'r adolygiad tair wythnos ddydd Gwener.

Yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru, dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething bod angen cydnabod bod 'lleol' yn golygu pethau gwahanol, gan ddibynnu ar ble mae rhywun yn byw.

"Os, fel fi, rydych yn ffodus i fyw ym Mhenarth... gallwch chi wneud llawer o bethau, ond na allwn wneud hynny o fewn ychydig filltiroedd petaswn i'n byw yng nghanol Powys neu yng nghanol Ynys Môn," meddai.

Ond mae plismona rheol aros yn lleol yn heriol, yn ôl comisiynydd heddlu'r rhanbarth sydd ymhlith y lluoedd sydd wedi cyhoeddi'r nifer uchaf o ddirwyon am dorri rheolau teithio ers dechrau'r pandemig.

Cafodd Comisiynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn ei holi gan Dylan Ebenezer ar raglen Dros Frecwast.