Heddlu Dyfed-Powys yn dal ar frig tabl dirwyon Covid

  • Cyhoeddwyd
PlismynFfynhonnell y llun, Getty Images

Heddlu Dyfed-Powys sydd wedi rhoi'r nifer uchaf o ddirwyon am dorri'r rheolau coronafeirws o holl heddluoedd Cymru a Lloegr ers dechrau'r pandemig.

Rhwng 27 Mawrth a 19 Hydref, cafodd 20,223 o Hysbysiadau Cosb Benodedig eu cofnodi gan holl luoedd Cymru a Lloegr - 2,772 yng Nghymru a 17,451 yn Lloegr.

Roedd nifer y dirwyon yn rhanbarth Heddlu Dyfed-Powys - 1,735 - yn sylweddol uwch na Heddlu De Sir Efrog, sy'n ail yn y tabl gyda 1,151, a Heddlu Llundain yn y trydydd safle gyda 1,131.

Cafodd 533 o gosbau eu cofnodi gan Heddlu Gogledd Cymru, 342 gan Heddlu De Cymru, 138 gan Heddlu Gwent, a 24 gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain yng Nghymru.

Yn ôl Comisynydd Heddlu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn ym mis Gorffennaf, y ffaith fod y llu wedi gweithredu'n bendant mewn ymateb i bandemig oedd i gyfri am y nifer uchaf o ddirwyon trwy Gymru a Lloegr.

Disgrifiad o’r llun,

Swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn plismona'r cyfyngiadau teithio ym Mannau Brycheiniog tua dechrau'r pandemig

Mae ystadegau diweddaraf Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Heddlu (NPCC) yn rhoi mwy o fanylion am y 44 o gosbau yng Nghymru ers cyhoeddi'r wybodaeth ddiwethaf ar 22 Medi.

Roedd wyth - pedwar yr un yn Nyfed-Powys a'r de - yn ymwneud â mynd yn groes i gyfyngiadau lleol.

Roedd dau o ganlyniad achlysuron pan fo mwy na 30 o bobl wedi ymgynnull â'i gilydd.

'Camau pendant' sydd i gyfri am nifer uwch o ddirwyon

Rhwng diwedd Mawrth a chanol Hydref, cafodd:

  • 263 o hysbysebion eu rhoi yng Nghymru am dorri'r cyfyngiadau teithio;

  • 345 am wrthod dilyn cyfarwyddiadau swyddogion heddlu; a

  • 263 am gwrdd â phobl o aelwydydd eraill, yn groes i'r rheolau ar y pryd.

Roedd dros 76% o'r unigolion a gafodd ddirwyon yn wrywaidd, ac roedd 72% dan 40 oed.

Roedd y ganran uchaf ymhlith pobl rhwng 18 a 24 oed, sef 28%, gyda 17% o'r troseddwyr rhwng 25 a 29, a 15% rhwng 30 a 34.

Ar draws Cymru a Lloegr, rhwng 15 Mehefin a 19 Hydref, cafodd 258 o gosbau eu cofnodi am beidio gorchuddio'r wyneb.

O'r rheiny roedd 86 am fethu a gwisgo masg wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, a 172 mewn mannau cyhoeddus eraill.

'Lleiafrif yn peryglu bywydau'

Mae "mwyafrif helaeth y cyhoedd" yn dilyn y rheolau, medd yr NPCC ond mae lleiafrif bychan "yn gwneud penderfyniadau sy'n peryglu bywydau".

Ychwanegodd: "Ble nad yw pobl yn gwrando ar anogaeth swyddogion heddlu, yna fe wnawn ni weithredu. Dyna yn ein gwaith, ac mae'r cyhoedd yn disgwyl i ni wneud hynny."

"Does dim angen a does dim rhaid i orfodaeth wastad gynnwys yr heddlu. Mae unigolion, busnesau ac ystod o asiantaethau oll â chyfrifoldeb i sicrhau fod y feirws yn cael ei drechu, a bydd yr heddlu'n parhau i chwarae eu rhan."