Posib bydd rheolau newydd i wahanol rannau o Gymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Arwydd maes carafanau ar gau oherwydd CovidFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi awgrymu bod rheolau newydd ar gyfer gwahanol rannau o Gymru yn bosibilrwydd wrth i Lywodraeth Cymru adolygu'r cyfyngiadau coronafeirws.

Mae darogan y gall rheol 'aros yn lleol' ddisodli'r rheol 'aros gartref' pan fydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford yn cadarnhau manylion penderfyniadau'r adolygiad tair wythnos ddydd Gwener.

Dywedodd Vaughan Gething yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru bod angen cydnabod bod 'lleol' yn golygu pethau gwahanol, gan ddibynnu ar ble mae rhywun yn byw.

Mae'r awgrym wedi cael ei groesawu gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru.

Awgrymodd Mr Gething efallai na fydd llety gwyliau hunangynhwysol yn gallu ailagor dan unrhyw gyfyngiadau newydd i aros yn lleol.

"Os rydym am ailddechrau rhannau o'n sector twristiaeth yn effeithiol... mae'n golygu, debyg, bod cyfnod aros yn lleol ddim yn golygu bod y busnesau hynny'n gallu ailagor," meddai.

'Synhwyrol i gydnabod gwahaniaethau'

Gofynnwyd iddo ynghylch y posibilrwydd o ganiatáu i bobl deithio pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu llacio.

"Mae'n gofyn i bobl lynu ato am gyfnod o wythnosau, i fod yn synhwyrol, a chydnabod os, fel fi, rydych yn ffodus i fyw ym Mhenarth... gallwch chi wneud llawer o bethau, ond na allwn wneud hynny o fewn ychydig filltiroedd petaswn i'n byw yng nghanol Powys neu yng nghanol Ynys Môn.

"Felly rydym yn cydnabod os rydym yn symud i [reol] aros yn lleol, bydd ychydig yn wahanol gan ddibynnu ar le 'dach chi'n byw."

Vaughan Gething
Disgrifiad o’r llun,

Vaughan Gething yn arwain cynhadledd Llywodraeth Cymru ddydd Mercher

Ychwanegodd Mr Gething bod "rhywfaint o ofod i wneud rhywfaint o bethau ychwanegol" o ran codi cyfyngiadau "ond fe fyddan nhw'n gyfyng".

Dywedodd ei fod yn gwybod bod pobl yn dymuno mwy o gymdeithasu dan do ond taw "dyna yw'r risg uchaf i ni".

Bydd Mr Drakeford yn cadarnhau'r union fanylion ddydd Gwener.

'Mae angen rhywfaint o obaith'

Y llynedd pan gyflwynwyd rheol aros yn lleol roedd disgwyl i bobl aros o fewn pum milltir i'w cartrefi, oni bai bod rhesymau hanfodol dros deithio.

Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Ceidwadol, Russell George bod hi'n anodd dilyn rheol o'r fath mewn mannau gwledig.

"Ni alla' i ddilyn yr un fath o fesuriadau yma ym Mhowys wledig nag y gallai Vaughan Gething ym Mhenarth," meddai.

Cytunodd yr Aelod o'r Senedd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth gan ddweud: "Mae pum milltir yng Nghaerdydd yn golygu rhywbeth gwahanol iawn ar Ynys Môn".

O ran galwadau i ailagor siopau sy'n gwerthu nwyddau anhanfodol, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Mae angen i ni wrthio'r cyfyngiadau ac mae agor masnach anhanfodol ond yn beth da."

Dywedodd Mr George: "Rydym dan gyfnod clo ers cyn Nadolig ac mae angen rhywfaint o obaith ac optimistiaeth."