Oriel: 12 mis o gyfyngiadau Covid

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae Covid-19 wedi effeithio pob rhan o fywyd gan droi digwyddiadau bob dydd yn rhai anarferol iawn.

Dyma oriel luniau gan y ffotograffydd Kristina Banholzer, o'r Felinheli, o'i phrofiad hi a'i chymuned o'r 12 mis diwethaf.

Mawrth 2020

Babi bychan mewn pram tu allan i ddrws cartref Nain a TaidFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd mis Mawrth yn fis pryderus, a neiniau a theidiau yn mynd i mewn i gyfnod clo cyn gweddill y cyhoedd. Dyma un o'n hymweliadau cyntaf o'r cyfnod i weld Nain a Taid cyn i'r clo mawr ddigwydd. Blwyddyn yn ddiweddarach tydyn nhw dal heb adael y tŷ.

Ebrill 2020

Amlen gyda ysgrifen arnoFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Doeddwn i ddim yn disgwyl cael fy mhenblwydd yn 32 oed o dan glo, a sicr ddim yn disgwyl gweld geiriau fel hyn wedi eu sgwennu ar amlen fy ngherdyn gan Dad.

Mai 2020

Plentyn yn cael penblwydd cyntaf gyda chacenFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Penblwydd cyntaf fy merch, Greta. Diwrnod hwyliog ond anodd. Treulio amser efo'n gilydd fel teulu newydd ond gorfod canu "Penblwydd Hapus" a chwythu canhwyllau efo gweddill y teulu dros Zoom.

Mehefin 2020

Cwpwl yn yr arddFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd yr haf yn un hir a braf yn Y Felinheli ac fe ges i'r cyfle i dynnu lluniau pobl y pentref yn eu gerddi hyfryd. Dyma Nerys a Gwil - yn falch o'u gardd amryliw a chael cwrw oer ar ôl y gwaith caled.

Gorffennaf 2020

Dathliad penblwydd 100 oedFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Dyma 'Nana' ar ei phenblwydd yn 100 oed. Nain i ffrindiau annwyl sy'n edrych ar ei hôl, ac yn falch o gael llun i nodi'r diwrnod pwysig hwn.

Awst 2020

Dynion yn y gampfaFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Mae'r gampfa yn y pentre' wedi bod yn bwysig i bobl leol ers rhai blynyddoedd a phrofiad rhyfedd oedd dogfennu'r rheoliadau newydd wedi i'r ganolfan ail-agor ym mis Awst.

Tâp melyn ar y llawr i ddangos lle'r oedd rhaid aros i weithio allan, a photeli sanitiser wrth bob gorsaf i olchi'r offer ar ôl ei defnyddio.

Medi 2020

Athrawes gyda mwgwd yn iard yr ysgolFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Roedd dychwelyd yn ôl i'r ysgol fis Medi yn wahanol yn 2020 gyda'r plant yn gweld athrawon a staff yr ysgol yn gorfod gwisgo masg. Dyma Sioned Jones, y dirprwy brifathrawes, ar iard yr ysgol yn ystod y dyddiau cynnar ar ôl i'r ysgol ail-agor. Hyfryd oedd cael clywed sŵn y plant yn chwarae ar yr iard.

Hydref 2020

Darllen gyda phlentyn ar y gwelyFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Newyddion annisgwyl mis Hydref - 'toriad tân' i Gymru. Dyma Greta a finnau yn cael darllen stori wrth wylio'r haul yn machlud ac yn sbïo 'mlaen at ddyddiau gwell.

Tachwedd 2020

Gweithwyr iechyd wrth ddesg yn y feddygfaFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Bu staff meddygfa Y Felinheli yn bryderus wedi i Mark Drakeford ddweud y gallai'r gwasanaethau iechyd fod o dan straen mawr os na fyddai pobl yn dilyn y rheolau wedi i'r cyfnod clo byr ddod i ben.

Rhagfyr 2020

Plentyn ifanc yn addurno coeden NadoligFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Nadolig yn ein tŷ ni. Er ei bod yn gyfnod tawel, fe gymerodd Greta ei chamau cyntaf wrth addurno'r goeden 'Dolig. Nadolig bythgofiadwy!

Ionawr 2021

Tad yn addysgu plentyn wrth y bwrdd geginFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Newyddion anodd i rieni fis Ionawr - ni fydd plant yn dychwelyd yn ôl i'r ysgol fis yma. Rhys a Heti yn y gegin efo offer addysgu lliwgar mewn gwers celf wrth y bwrdd gegin.

Chwefror 2021

Edrych ar faban newydd drwy'r ffenestrFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Babi bach wedi cyrraedd ein teulu ni, ond dyma'r unig ffordd allwn ni weld Lewys Gerallt yn ddiogel ar hyn o bryd. Yn y cyfamser mae mis Chwefror yn mynd i fod yn gyfle i Alun ddod i adnabod ei frawd bach newydd.

Mawrth 2021

Gweithiwr iechyd yn llenwi ffurflenFfynhonnell y llun, Kristina Banholzer

Blwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf, mae cyflwyniad y brechlyn yn golygu bod pobl Y Felinheli yn cael pigiad Covid-19 yn y syrjeri leol.

Dyma ffurflen doedd neb yn disgwyl arwyddo flwyddyn yn ôl.

Hefyd o ddiddordeb: