Ffilmiau byrion gan bobl ifanc: Cyfnod clo 'anhygoel'
- Cyhoeddwyd
Mae Ellis Jones wedi mwynhau'r profiad o fod dan glo a chael miloedd o ddilynwyr ar ap TikTok
I rai pobl mae'r cyfnod clo wedi bod yn brofiad positif - a dyna safbwynt ein ffilm fer olaf.
Mae Cymru Fyw wedi comisiynu tair ffilm fer gan bobl ifanc i gyfleu profiad eu Haf Dan Glo a'u gobeithion ar gyfer y dyfodol.
Daw'r ffilm olaf gan Ellis Jones, 22, o Gwm Rhondda, sydd wedi mwynhau'r profiad o fod dan glo gan ei fod wedi cael degau o filoedd o ddilynwyr ar yr ap TikTok.
Y ffilmiau byrion eraill:

Meddai Ellis: "Dwi yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio Cymraeg ac yn gweithio rhan amser yn Greggs.
"Dewisais i ffilmio fy fideo fel fy mod i'n creu fideo ar TikTok, rhywbeth sydd wedi bod yn rhan enfawr i fi dros y cyfnod o lockdown.
"Trwy esgus fy mod i'n ffilmio fideo i TikTok dwi'n teimlo'n gyffyrddus i siarad â'r camera."


Hefyd o ddiddordeb: