Tafwyl 2021: 'Ni fyddai'r haf yn haf heb Tafwyl'
- Cyhoeddwyd
Bydd 500 o bobl yn cael bod yn rhan o gynulleidfa fyw Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'n un o naw digwyddiad prawf sy'n rhan o gynllun peilot Llywodraeth Cymru i ganiatáu pobl mewn i nifer o ddigwyddiadau dros yr wythnosau i ddod.
Bydd y criwiau o rhwng pedwar a chwech o bobl yn gorfod cwblhau cyfres o gamau ymlaen llaw er mwyn mynychu'n ddiogel, gan gynnwys dangos tystiolaeth o brawf Covid-19 negyddol cyn cael mynediad i'r digwyddiad.
Ymysg yr artistiaid fydd yn perfformio eleni mae Bwncath, Cowbois Rhos Botwnnog, Ani Glass, Gwilym a Geraint Jarman., dolen allanol
Dywedodd Manon Rees-O'Brien, Prif Weithredwr Menter Caerdydd, sy'n trefnu Tafwyl, mai'r gobaith ydy gwneud y gorau sy'n bosib o fewn y rheolau.
"I lawer ohonom sy'n byw yng Nghaerdydd, ni fyddai'r haf yn haf heb Tafwyl", meddai.
"Er bod profiadau'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd i bawb, a nifer fawr yn delio gydag amseroedd heriol a chaled iawn, rydym yn falch o gyhoeddi ein bod unwaith eto wedi trio ein gorau glas i ddod â gŵyl atoch, mor agos ag y gallwn i Tafwyl - ond yn amlwg, wrth gydymffurfio yn llawn gyda chyfyngiadau cyfredol."
'Bydd hi'n wych, ond yn rhyfedd'
Mae'r ŵyl gelfyddydol yn digwydd dros gyfnod o wythnos gyda nifer o weithgareddau digidol - o sesiwn goginio i weithdy ioga a thipiau TikTok.
Yr uchafbwynt yw 10 awr o berfformiadau cerddorol ar y dydd Sadwrn, gyda chynulleidfa fyw o 500 o bobl sydd wedi cofrestru o flaen llaw.
Sioned Lewis o Landaf yw un o'r rhai sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ei chais i fod yn rhan o'r dorf.
"Dwi heb weld cerddoriaeth fyw ers oesoedd, felly bydd hi'n wych, ond yn rhyfedd, cael bod yno gyda ffrindiau", meddai.
'Cam tuag at y dyfodol'
Un o'r rheiny fydd yn perfformio ddydd Sadwrn yw'r gantores Ani Glass, sy'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r llwyfan.
"Mae mynd i fod yn brofiad rhyfedd iawn bod o flaen pobl eto. Fi'n credu byddai'n poeni mwy am biti cofio'r geiriau, ond fi'n credu bydd pawb yr un mor nerfus ac excited a'i gilydd felly fi jyst wir yn edrych 'mlaen".
"Mae'r digwyddiad yma'n mynd i fod yn gam tuag at ein dyfodol newydd, a fi'n gobeithio'n fawr bydd e'n llwyddiant achos mae gymaint o bobl yn dibynnu ar y diwydiant yma ar gyfer ei bywoliaeth".
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd rheoli digwyddiadau fel Tafwyl yn "ddiogel a llwyddiannus gobeithio yn caniatáu i gynulliadau mwy yn ôl i stadia, theatrau a lleoliadau eraill yng Nghymru yn hwyrach eleni".
Bydd y perfformiadau yn cael eu ffrydio yn fyw ar AM, dolen allanol, ac yn cael eu llywio gan y cyflwynwyr Huw Stephens, Seren Jones a Tara Bethan.
Fel yr arfer, mae holl ddigwyddiadau'r ŵyl ar gael yn rhad ac am ddim.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2021
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2021