Lluniau Cymro tu ôl i'r camera yn yr Olympau
- Cyhoeddwyd
Mae Siôn Dafydd Palmer wedi dogfennu ei daith i Gemau Olympaidd Tokyo 2020, lle mae'n ffilmio a chynhyrchu pecynnau teledu o wahanol gystadlaethau bob dydd.
Daw'r newyddiadurwr yn wreiddiol o ogledd Cymru ond mae bellach yn gweithio yn Llundain i gwmni cyfryngau teledu rhyngwladol.
Er bod 'na elfen o gyffro yn edrych ymlaen at fy ngemau Olympaidd cyntaf mi oeddwn i'n teimlo ychydig yn bryderus oherwydd dyma'r tro cyntaf i achlysur enfawr byd-eang ddigwydd ers Covid.
Roedd y daith i Olympics Tokyo 2020 yn eithaf hir. Dechreuodd 96 awr cyn i mi adael, gyda dau brawf Covid i'w cyflawni yn Llundain. Chwe awr yn y maes awyr ar ôl glanio yn Japan, prawf Covid arall a thaith mewn bws wedi'i drefnu yn arbennig i ni i'r gwesty i hunan-ynysu am dridiau.
Cyn gadael y maes awyr roedd hefyd rhaid i ni ddangos ein bod ni wedi lawrlwytho dau ap i'n ffôn sy'n tracio ein symudiadau; rydyn ni'n gorfod cofnodi ein hiechyd bob dydd arnyn nhw hefyd.
Yn ogystal â'r tridiau cyntaf o hunan-ynysu yn y gwesty, roedd rhaid i ni ynysu am 14 diwrnod arall. Dros y bythefnos yna roedd hi yn erbyn y gyfraith i ni dreulio amser ar strydoedd Tokyo.
Roedden ni'n cael mynychu y marchnadoedd bach bwyd sydd ar bob cornel yma ond dim ond am 15 munud ar y tro. Roedd rhaid arwyddo gyda swyddog diogelwch yn y gwesty cyn gadael a dychwelyd o fewn y 15 munud.
Combini mae'r Japaneaid yn galw'r siopau yma. Wrth lwc ma' nhw'n gwerthu bwyd safonol a ma' na ddigon o ddewis.
Onigiri ydi hwn, pelen reis wedi ei lapio mewn gwymon.
Mae 'na ambell beth nodweddiadol o Olympics Tokyo 2020 i'w weld yn y ddelwedd yma. Gallwn weld Fiji yn derbyn y fedal aur, Seland Newydd yn derbyn yr arian a'r Ariannin yn ennill yr efydd. Er nad yw'r chwaraewyr yn gorfod gwisgo mwgwd wrth chwarae mae'n rhaid i bawb wisgo un mewn unrhyw sefyllfa oddi ar y maes chwarae.
Nodwedd arall trawiadol y llun yw'r stadiwm gwag, rhywbeth rydan ni wedi gorfod dod i arfer ag o dros yr wythnos diwethaf.
Mae'r awyrgylch yn y stadiwms yn dra gwahanol i Olympics arferol. Unwaith mae'r chwaraeon yn cychwyn mae fel petai eich bod yn cael eich swyno gan y campau mae'r athletwyr yn eu perfformio ac yn anghofio bod y sefyllfa yn estron, ond y munud 'da chi'n codi'ch golwg mae'r gwacter o'ch blaen yn hollbresennol.
Roedd gwylio'r deifio yng nghanolfan nofio Ariake yn brofiad gwefreiddiol, mae gen i gymaint o barch at eu medr a'u dewrder.
Dim cefnogwyr, dim teuluoedd i gysuro'r athletwyr, dim ond swyddogion a'r wasg i'w gweld yn y stadiwms.
Ers i'r gemau Olympaidd gael eu gohirio'r flwyddyn ddiwethaf daeth y penderfyniad i atal unrhyw ymwelwyr o dramor ac yna penderfynodd llywodraeth Japan i wrthod mynediad i'r cyhoedd lleol oherwydd y cynnydd yn achosion Covid-19 yn Tokyo.
Er bod yr achosion yn codi yma yn Tokyo a bod y ddinas mewn cyflwr o argyfwng, mae cyfansoddiad Japan yn atal y llywodraeth rhag rhoi'r wlad o dan gyfyngiadau llym fel rydyn ni wedi eu cael yng Nghymru.
Mae'r llywodraeth yn argymell y boblogaeth i geisio gweithio o gartref a chyfyngu ar fywyd bob dydd. Ond mae'r llun yn dangos gwrthgyferbyniad rhwng yr hyn mae'r llywodraeth yn gofyn a'r hyn mae'r bobl Japaneaidd yn ei wneud.
Galwais Japan yn gartref am nifer o flynyddoedd a dwi'n ddigon lwcus i allu dod yn ôl bob yn ail flwyddyn. Mi oeddwn i'n edrych ymlaen at deithio o gwmpas y wlad a chymryd mantais o'r cyfle i dreulio amser yn Tokyo, un o fy hoff ddinasoedd.
Yn anffodus oherwydd y cyfyngiadau nid yw'n bosib cyfarfod ffrindiau na mwynhau'r bwytai anhygoel sydd yma. Yn hytrach 'da ni'n gorfod mynd i'r bwytai sydd wedi eu trefnu'n arbennig i ni yng nghanolfan y wasg. Dyma ddysglaid hiraethus o Katsu Kare; 'di o ddim yr un peth yn ôl adref.
Fy ngolwg o'r tacsi sy'n mynd â ni yn ôl ac ymlaen o'r gwesty i'r gemau. Er bod ni allan o'r hunan-ynysu 'caled' yn y gwesty, rydyn ni'n dal yn cael ein harsylwi gan y llywodraeth am bythefnos ychwanegol sy'n golygu dim trafnidiaeth gyhoeddus.
Mewn arolwg barn ddiweddar roedd 78% o boblogaeth Japan yn erbyn cynnal y gemau Olympaidd. Er hyn nid yw'r gemau wedi bod yn drychineb - yn groes i'r disgwyl. Rydyn ni wedi gweld ambell stori i gynhesu'r galon.
Daeth brawd a chwaer o Japan y cyntaf i ennill aur yn y gemau Olympaidd. Yn y sglefrfyrddio stryd cafodd yr holl fedalau eu cyflwyno i dair merch yn eu harddegau, gyda Momiji Nishiya yn 13 oed yn ennill y fedal aur i Japan.
Yn ogystal â hapusrwydd mae'r gemau wedi cyflwyno achlysuron i droi'r drol: cafodd Djokovic ei guro gan Alexander Zverev a aeth ymlaen i ennill yr aur yn y tenis, ac fe goronwyd Marcell Jacobs o'r Eidal fel y dyn cyflymaf yn y byd gan guro'r ffefrynnau o Jamaica a'r UDA.
Er gwaethaf yr holl gyfyngiadau a'r diffyg torf mae'r Olympics, fel arfer, wedi dod â'r byd at ei gilydd, hyd yn oed os yw hynny mewn ffordd go anarferol.
Hefyd o ddiddordeb: