Medal arian Olympaidd i Elinor Barker
- Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae'r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal arian yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.
Ni chafodd y seiclwr 26 oed o Gaerdydd ei dewis yn un o'r pedwar fu'n cystadlu yn y rownd derfynol yn erbyn Yr Almaen, ond mae'n derbyn medal wedi iddi seiclo yn un o'r rowndiau blaenorol.
Mewn cystadleuaeth ryfeddol fe gafodd record y byd ei thorri sawl tro gan yr Almaen a Team GB.
Ond yn y rownd derfynol, yr Almaen oedd gyflymaf gan gipio'r fedal aur gyda record byd arall.
Team GB, gan gynnwys Elinor Barker, oedd yn fuddugol yn y gystadleuaeth yn Gemau Olympaidd Rio yn 2016.