Medalau aur cyntaf i Gymry yn Tokyo
- Cyhoeddwyd
Yn oriau mân fore Mercher y daeth y medalau aur cyntaf i athletwyr o Gymru yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo.
Y pwll nofio oedd y lleoliad, ac roedd Matthew Richards yn nhîm y dynion yn y ras gyfnewid 4x200m dull rhydd.
Roedd y fuddugoliaeth yn hawdd yn y diwedd, gyda'r tîm o Brydain dros dair eiliad glir ar y blaen i dîm Pwyllgor Olympaidd Rwsia.
Fe wnaeth Cymro arall, Calum Jarvis, nofio yn y rowndiau rhagbrofol er nad oedd yn y ffeinal ei hun, ond fe fydd yntau hefyd yn derbyn medal fel aelod o'r garfan.
Dyma'r tro cyntaf i rhywun o Gymru ennill medal aur am nofio yn y Gemau Olympaidd ers 1912.
'Cwblhau'r set'
Daeth llongyfarchiadau gwresog i'r ddau gan y gyn nofwraig Olympaidd o Gymru, Georgia Davies.
Dywedodd: "Rwy mor browd o'r bechgyn - fi methu credu fe. Gemau Olympaidd cynta i'r ddau ohonyn nhw a chipio medal aur.
"Chi methu breuddwydio am rhywbeth gwell na hyn.
"Mae Matt yn dalent enfawr ac mae mor ifanc - mae gyrfa wych o'i flaen. Mae Calum yn rhan bwysig iawn o'r tîm ras gyfnewid hyn. Mae wedi bod yn rhan o'r tîm dros y blynyddau diwethaf ac mae wedi ennill medalau ym mhob cystadleuaeth heblaw am yr Olympics a nawr mae wedi cwblhau y set... dwi mor mor falch."
Roedd medal arian i Gymro arall, Tom Barras, fel aelod o dîm sgwlio pedwarplyg (quadruple sculls) Prydain.
Y tri aelod arall oedd Harry Leask, Angus Groom, a Jack Beaumont.
Mewn ras agos fe wnaeth y pedwar ddal eu gafael ar yr ail safle er gwaethaf sialensau hwyr gan Awstralia a Gwlad Pŵyl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd22 Gorffennaf 2021