Carfan Cymru'n 'hyderus iawn' ar ôl dechrau da
Mae Angharad James yn dweud bod carfan merched Cymru'n "hyderus iawn" wrth baratoi ar gyfer eu gemau nesaf, yn dilyn dechrau da i'w hymgyrch ar gyfer Cwpan y Byd 2023.
Llwyddodd y crysau cochion i drechu Estonia o 4-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth, a hynny ar ôl cael gêm gyfartal oddi cartref yn Slofenia.
Ar ôl trechu Kazakstan ac Estonia eisoes, mae'n golygu fod Cymru bellach yn ail yn y grŵp gyda gemau yn erbyn Groeg a Ffrainc i ddod fis nesaf.
"Dyna'r gemau ni moyn chwarae mewn fel chwaraewyr, chwarae yn erbyn chwaraewyr gorau'r byd," meddai James. "Ni gyd yn edrych 'mlaen am y sialens."