Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2023: Cymru 4-0 Estonia
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n parhau'n ddiguro yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd 2023 yn dilyn buddugoliaeth gwbl haeddiannol yn erbyn Estonia.
Roedd hi'n noson fawr yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda Menywod Cymru'n diddanu'r dorf fwyaf erioed i weld y tîm cenedlaethol yn chwarae gartref - 5,455 o bobl.
Fe reolodd Cymru'r meddiant a'r tiriogaeth yn llwyr yn yr hanner cyntaf, ac wedi 27 munud fe holltodd Sophie Ingle amddiffyn Estonia gyda phas gelfydd a chreu cyfle i Angharad James sgorio'r gôl agoriadol.
Gyda Cymru mor gyfforddus yn ystod y 45 munud agoriadol fe fydd y garfan yn siomedig i beidio fod ymhellach ar y blaen ar hanner amser. Ond llai na dau funud wedi'r egwyl fe sgoriodd Helen Ward ail gôl Cymru yn dilyn gweledigaeth Rhiannon Roberts a roddodd bas wedi ei mesur yn berffaith i'w llwybr.
Mae Ward bellach wedi sgorio 44 o goliau dros ei gwlad, sydd yn record genedlaethol i Gymru, timau dynion ac menywod.
Fe barhaodd rheolaeth llwyr Cymru ac wedi 54 o funudau fe lwyddodd Natasha Harding gyrraedd croesiad Ceri Holland i'w gwneud hi'n 3-0.
Roedd Cymru'n hawlio cic o'r smotyn wedi 63 o funudau wedi i Jess Fishlock ddisgyn i'r llawr yn y cwrt cosbi, ond gafodd ei apêl ei gwrthod gan y dyfarnwraig o Sbaen.
Gyda chic olaf y gêm fe sgoriodd y capten Sophie Ingle i goroni noson wych i Gymru.
Mae carfan Gemma Grainger bellach ar 10 o bwyntiau yng Ngrŵp I ac yn parhau yn yr ail safle tu ôl i Ffrainc. Enillodd Ffrainc 5-0 yn erbyn Kazakhstan yn gynharach ddydd Mawrth.
Gwlad Groeg gartref ar 26 Tachwedd fydd gêm nesaf Cymru cyn yr her enfawr o wynebu Ffrainc, prif ddetholion y grŵp, oddi cartref ar 30 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021