Gêm ragbrofol Cwpan y Byd 2023: Slofenia 1-1 Cymru

  • Cyhoeddwyd
Slofenia yn erbyn CymruFfynhonnell y llun, Kunjan Malde/CBDD
Disgrifiad o’r llun,

Kayleigh Green yn penio'r bêl i'r rhwyd o gic rydd Angharad James

Mae Cymru wedi sicrhau pwynt gwerthfawr oddi cartref yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched 2023 er iddyn nhw dreulio rhan olaf y gêm yn erbyn Slofenia gyda 10 o chwaraewyr.

Sgoriodd Kayleigh Green gyda pheniad i ddod â Chymru'n gyfartal 1-1 ychydig dros funud wedi i Manja Rogan roi'r tîm cartref ar y blaen hanner ffordd drwy'r ail hanner.

Ond yn fuan ar ôl hynny fe gafodd Green ei hel o'r maes ar ôl cael ail gardyn melyn yn dilyn dyfarniad ei bod wedi troseddu yn erbyn y golwr, Zala Mersnik wrth i'r ddwy fynd am y bêl.

Roedd angen i Gymru amddiffyn yn gadarn wedi hynny i sicrhau nad oedden nhw'n teithio adref ar ddiwedd 200fed gêm ryngwladol y tîm yn waglaw.

Roedd sawl cyfle agos yn ystod y gêm gan gynnwys peniadau gan Rhiannon Roberts a Jess Fishlock, ond aflwyddiannus yn y pen draw oedd yr ymgais i barhau â'u record gant y cant yn y gemau rhagbrofol.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Gemma Grainger yn parhau yn ail safle Grŵp I gyda saith o bwyntiau wrth i Ffrainc roi crasfa i Estonia i aros ar y brig.

Estonia yw gwrthwynebwyr nesaf, yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth.