'Y tymor gorau i dynnu lluniau': Tips ffotograffiaeth Llion Griffiths
- Cyhoeddwyd
"Mae pobl yn meddwl mai'r haf ydi'r adeg i gael lluniau da, pan mae'r haul allan, yr awyr yn las, a does 'na ddim gwynt. Ond na, rŵan fyddai'n dechrau mynd allan; y gaeaf ydi'r amser i ffotograffydd tirwedd."
![Penmachno](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/3CD9/production/_121777551_penmachno.jpg)
Rhan o lun o ardal Penmachno sy'n dangos yr elfen ffantasïol mae Llion yn ei greu yn ei luniau
Mae Llion Griffiths yn ei elfen yn tynnu lluniau yn yr hydref a'r gaeaf.
Er mai hydref digon gwlyb a thywyll rydyn ni wedi ei gael yn 2021, mae gwybod am ambell dric yn gallu gwneud i'r hydref mwyaf diflas ymddangos yn hudolus (ac mae bod yn berchen ar gamera da hefyd yn help!) .
![Ffordd a giât hydrefol yn Llannefydd, Dyffryn Clwyd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/72D9/production/_121610492_llannefydd.jpg)
Ffordd a giât hydrefol yn Llannefydd, Dyffryn Clwyd
Creu dirgelwch
"Dwi'n licio gwneud golwg peintlyd i'r llun, a creu bach o ddirgelwch," meddai'r ffotograffydd o Ddyffryn Clwyd.
"Dwi ddim yn rhoi'r llun i gyd i ti; dwi'n licio gadael lot i'r dychymyg.
"Dwi'n saethu lot mewn portrait; ti'n gallu gadael dipyn allan o ochr y lluniau a gwneud i dy lygad drafaelio drwy'r llun i gael dyfnder i'r llun.
"Mae'r lliwiau rŵan yn felyn felyn, a brown... unwaith mae wedi mynd yn frown a lliw copr mae'n amazing."
![Pont Rufeinig Penmachno yn yr hydref](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/3C11/production/_121777351_penmachno2_crop.jpg)
Pont Rufeinig Penmachno, un o hoff lefydd Llion i gael lluniau ar y funud
Canfod y golau
Dyma un o adegau prysuraf fel ffotograffydd i Llion, ac mae'r ffaith fod y dail yn dechrau disgyn yn golygu bod mwy o olau.
"Mae 'na fwy o olau yn dod i fewn rŵan i'r goedwig, achos mae 'na lai o ddail ar y coed so mae o jyst yn golygu cael y timing. Ond fyddai wedi planio lluniau flwyddyn yma y flwyddyn diwethaf," meddai gan egluro ei fod yn cadw nodiadau am leoliadau ac amser o'r dydd ar gyfer y flwyddyn ganlynol.
![Ffos Anoddyn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/18061/production/_121610489_ffosanoddyn.jpg)
Mae Ffos Anoddyn ger Betws-y-coed yn lle poblogaidd i ffotograffwyr - ac mae'n hawdd gweld pam
Dim ond ers ryw bedair blynedd mae Llion wedi dechrau tynnu lluniau a hynny ar ôl canfod ei hun efo mwy o amser sbâr yn ei waith dydd-i-ddydd fel peiriannydd.
Cafodd hwb mawr i gymryd y peth o ddifri pan gafodd enwebiad rhestr fer a chymeradwyaeth yng ngwobrau British Landscape Photographer of the Year.
![Ceunant Mawr, Llanberis](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/18575/production/_121610799_ceunantmawrllanberis_crop.jpg)
Golau ym mhen draw'r twnnel - Ceunant Mawr, Llanberis
Awyrgylch ddramatig
"Mae'r haf mor anodd [oherwydd bod y dyddiau'n hir a llawn golau], dydw i ddim yn rhy cîn ar y lliwiau gwyrdd a glas mewn lluniau. Yn y gaeaf, mae'r golau'n well, mwy o gymylau a ti'n cael y teimlad dramatig.
"Yr adeg yma o'r flwyddyn fydda' i'n mynd allan jyst ar ôl cinio, mae 'na luniau i'w cael tua 1-2pm achos mae'r haul yn ddigon isel yn yr awyr a be' ti'n edrych amdano fo ydi'r haul yn torri drwadd, ti jyst yn gorfod ffeindio dy lun."
![Talacre](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/3C8D/production/_121610551_talacre.jpg)
Mae hynny'n gallu golygu eistedd am hyd at dair awr yn aros a thynnu llun bob munud i geisio dal yr eiliad o hud pan fydd y golau yn iawn - yn aml fydd o ddim yn gwybod a ydi o wedi dal yr eiliad nes mae'n mynd drwy'r lluniau wedyn.
![Ffordd wledig hydrefol yn Llanfairtalhaiarn](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/170A9/production/_121777349_llanfairtalhaiarn_crop.jpg)
Ffordd wledig hydrefol yn Llanfair Talhaiarn - enghraifft o'r olwg 'paentlyd' mae Llion yn hoffi ei ddefnyddio drwy feddalu'r cefndir
Gyda'r nos
Mae Llion yn defnyddio camera arbenigol ar gyfer tynnu mewn golau isel ac mae'n rhaid gwario dipyn ar gamera, lensys, ffilteri a threipod i dynnu lluniau da yng ngolau isel y gaeaf.
"Fyddai'n tynnu lot gyda'r nos - mae Mynydd Hiraethog yn lle da achos mae'r awyr yn dywyll fyny fanna - efo dy lygad fyset ti byth yn gweld lot o fanylion y llwybr llaethog ond unwaith ti'n rhoi y camera arno fo mae'n tynnu'r golau i fewn.
![Talacre](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/C671/production/_121610805_talacre3_crop.jpg)
Gyda'r nos yn Nhalacre
"Pan ti mewn coedwig mae 'na olau yn dod i fewn hyd yn oed pan mae'n dywyll dywyll yna, be ti'n drio neud ydy bod y golau yn dal ar ryw garreg, neu waelod coeden neu gangen sy'n dangos y dail… dyna dwi ar ei ôl."
Does dim ots, meddai Llion, os yw ymylon y llun yn dywyll - mae llafn o olau ar rywbeth yn y llun yn ddigon i roi synnwyr o ddirgelwch - fe wnaiff y camera wneud y gweddill.
![Penmon](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/2A31/production/_121610801_penmon_crop.jpg)
Chwilio am y golau ar noson dywyll ym Mhenmon
Byw mewn ardal hardd
Ac yntau'n byw yn Llanfair Talhaiarn, mae ganddo fantais enfawr i allu cystadlu yn erbyn ffotograffwyr tirwedd gorau Prydain.
"Mae Mynydd Hiraethog bum munud i fyny'r ffordd; Eryri o fewn hanner awr i mi; mae gen i lan y môr, fedrai fynd i Penmon neu Talacre o fewn hanner awr, mae o'n massive advantage fel ffotograffydd tirwedd."
Hefyd mae Betws-y-Coed a Ffos Anoddyn (Fairy Glen i rai) a Phenmachno o fewn tafliad carreg iddo.
![Llanrwst](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11045/production/_121610796_llanrwst_crop.jpg)
"Mae lot o bobl ddim yn gwybod am y bont Rufeinig yn Penmachno, mae'n lle amazing. Erbyn rŵan dwi'n gwybod be' di'r amser gorau'r dydd i fynd yne, ti'n cael yr adlewyrchiadau yn y dŵr o'r bont, mae'n andros o le.
![Penmachno](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/B1BD/production/_121610554_penmachno3.jpg)
Golygfa arall ar y bont Rufeinig ym Mhenmachno
Y teimlad
"Mae rhan fwyaf o bobl pan maen nhw'n prynu'r cameras newydd drud yma mae'n nhw'n obsessed efo pa mor siarp ydi'r llun, sy'n ocê, ond os ydi bob dim yn siarp yn dy lun di does ne ddim teimlad o ddyfnder, mae'n fflat, ac os wyt ti'n gwneud yr apperture i feddalu'r cefndir mwy mae'n dechre creu'r teimlad yne o fod ychydig yn painterly."
![Gleudy Talacre](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/549/cpsprodpb/12671/production/_121777357_talacre2_crop.jpg)
Awyr ddramatig fin nos yn Nhalacre
Lleoliad, lleoliad, lleoliad... ac arbrofi
Yn ogystal â dod o hyd i'w steil ei hun, hanner y gwaith ydy dod o hyd i'r lleoliadau bach cudd sy'n mynd i roi lluniau gwreiddiol.
Er bod Llion wedi bod â diddordeb mewn celf erioed mae wedi dysgu ei hun fwy neu lai i drin camera, a hynny drwy fynd allan a gwneud camgymeriadau: ei neges ydi nad oes 'na reolau i ffotograffiaeth, felly arbrofwch.
"Os ti'n edrych ar lun ac mae'n gwneud i ti deimlo rhywbeth, mae'r job wedi cael ei wneud," meddai Llion.
![llun](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/15E65/production/_121610798_dinorwig_crop.jpg)
Coedwig llawn dirgelwch yn Ninorwig