5 o eiriau cysurus yr hydref
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r dail droi'n lliwiau moethus, dyma bum gair i'ch cysuro, eich cynhesu a'ch difyrru. Yr Athro Ann Parry Owen, sy'n Olygydd Hŷn gyda Geiriadur Prifysgol Cymru,, dolen allanol sydd wedi eu dewis ac yn esbonio eu tarddiad.
Cafodd lluniau'r delweddau eu tynnu gan Elin Vaughan Crowley.
Â'r tywydd yn oeri a'r nosweithiau'n prysur dynnu i mewn, does dim yn well na theimlo'n ddiddos, yn gysurus a chlyd, o flaen tanllwyth o dân.
Ond a wyddech chi mai ystyr sylfaenol y gair diddos yw sych, a diogel rhag unrhyw ddŵr yn gollwng? Dyma'r elfen gyntaf yn y gair diddosben, gair a fathodd un o eiriadurwyr y 18fed ganrif am ddilledyn i gadw'r pen yn sych, er mwyn osgoi defnyddio'r gair o dras Saesneg, het!
Mae diddos yn gyfuniad o'r elfen di- 'heb' a dos 'dafn o ddŵr, diferyn o law', hen air nad ydan ni'n ei ddefnyddio bellach. Ganrifoedd yn ôl, ymffrostiodd y bardd-ddewin Taliesin, a allai newid ei ffurf fel y mynnai - Bûm dos yng nghawad - hynny ydi, bu'n ddafn o law mewn cawod.
Erbyn heddiw mae diddos wedi dod i olygu clyd a chysurus yn gyffredinol, ac mae'r cysylltiad â dŵr wedi diflannu bron yn llwyr.
Mae rhywbeth am sŵn y gair tanllwyth sydd fel petai'n ein lapio ni mewn cynhesrwydd. Ond wrth i'r hen lefydd tân gael eu newid am systemau gwresogi hwylusach a glanach, mae hen eirfa ac arferion canrifoedd yn prysur fynd yn angof: fel gwneud tân oer am baratoi'r tân o flaen llaw ond heb ei gynnau; casglu gleuad, sef tail gwartheg wedi sychu'n grimp a ddefnyddid i gynnau tân; neu'r hen arfer o anhuddo tân, sef ei orchuddio â lludw cyn mynd i'r gwely, a thynnu'r lludw ymaith yn y bore, ei ddadanhuddo, fel bod y tân yn ailddeffro.
Hen lefydd tân y gorffennol sydd hefyd yn esbonio'r ddihareb Cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn fod. Does wnelo'r ddihareb ddim byd â chywion bach drwg yn cambihafio! Uffern oedd yr enw am y lle gwag o dan neu o flaen yr hen dân agored erstalwm, lle casglai'r lludw - y llutu neu'r lliti yn iaith Morgannwg - sef y lle cynnes a braf y byddai'n anodd iawn i unrhyw gyw bach gwantan ymadael ag ef ar ôl cael ei roi yno i gryfhau! (Ac, wrth gwrs, ergyd ehangach y ddihareb yw mai anodd iawn gan bawb ohonom yw rhoi heibio pleserau bywyd ar ôl arfer gyda nhw.)
'Lladdfa' yw ystyr sylfaenol y gair tachwedd, ac roedd yn air cyffredin erstalwm am laddfa ar faes brwydr. Ond pam galw mis yn dachwedd neu'n lladdfa yn Gymraeg, ac yn yr un modd yn slachtmaand (slaughter month) mewn Iseldireg? Cawn gliw yn y cwpled hwn mewn cerdd o'r 16ed ganrif, sy'n disgrifio mis Tachwedd:
Mis Tachwedd, tuchan merydd,
Bras llydnod, llednoeth coedydd.
Mewn geiriau eraill, mis Tachwedd pan fo'r diogyn (y merydd) yn tuchan ac yn cwyno (gan ei bod hi'n rhy oer a diflas i weithio y tu allan); pan fo'r llydnod, sef y lloi, yr ŵyn a'r moch ifanc wedi pesgi; a phan fo'r coed mwy neu lai'n noeth heb ddail, neu wedi almarchu, a defnyddio hen air am goed yn diosg eu dail. Y cliw yw bras llydnod: dyma'r mis pan gâi'r anifeiliaid pasgedig eu lladd i ddarparu bwyd ar gyfer y gaeaf hir i ddod.
Dyma air rydan ni'n ei gysylltu'n benodol erbyn hyn â noson Guto Ffowc, pan fydd y pentre neu'r ardal gyfan yn hel o gwmpas coelcerth i fwynhau gweld y tân yn gwreichioni a'r tân gwyllt yn cael eu tanio. Ond roedd y goelcerth yn gysylltiedig â'r adeg hon o'r flwyddyn yng Nghymru ganrifoedd lawer cyn i ni ddechrau dathlu cais aflwyddiannus yr hen Guto i chwythu Senedd Lloegr yn deilchion.
Roedd cynnau'r goelcerth yn un o'r nifer o draddodiadau cysylltiedig â Noswyl yr Holl Saint neu noson Calan Gaeaf, ac roedd pob math o goelion yn gysylltiedig â hi - fel yr arfer o daflu cerrig i'r tân, pob un yn taflu carreg a'i enw arni, cyn dychwelyd fore trannoeth i chwilio am ei garreg ymysg y lludw. Doedd pethau ddim yn argoeli'n dda o gwbl i'r sawl na fedrai ddod o hyd i'w garreg ei hun!
Yn wir argoel neu arwydd (coel) sicr (certh) yw ystyr sylfaenol coelcerth, ac mae'n bosibl i ofergoelion fod yn rhan o'i hanes erioed.
Mae'r cyflenwad gwych o wreiddlysiau a welir yn y siopau ar hyn o bryd, yn foron, panas, swej, rwdin, ac ati, yn ddigon o arwydd ein bod ni wedi glanio dros ein pennau a'n clustiau yng nghanol tymor lobsgows neu gawl. Lobsgows, wrth gwrs, yw'r fersiwn gogleddol, ac mae fel arfer yn cynnwys cig oen (weithiau cig eidion), oni bai ei fod yn droednoeth, ac felly ddim yn cynnwys cig o gwbl.
Cysylltir y gair yn draddodiadol â phorthladd Lerpwl, a'r ail elfen sgows yr un gair â'r Saesneg scouse, y gair ar lafar i ddisgrifio rywun sy'n hanu o Lerpwl. Mae'n debygol iawn mai gair o dras Sgandinafaidd yw lobsgows, a'i fod yn gysylltiedig â lapskaus, saig hynod o debyg sy'n boblogaidd yn Norwy.
Cig eidion a geir gan amlaf yng nghawl y de (weithiau cig oen), ac mae hanes y gair hwn eto'n ddiddorol. Yr un gair yn y pendraw yw cawl â kale ac elfen gyntaf coleslaw, a oedd yn golygu bresych yn wreiddiol, cyn datblygu i olygu llysiau yn fwy cyffredinol. Yr un gair a welir hefyd yn yr enw Porth-cawl, enw sy'n awgrymu i'r porthladd hwnnw fod yn llawn cawl, neu fresych y môr, sea kale, ar un adeg yn ei hanes!