Penfro 70: Y Parc a’i phobl
- Cyhoeddwyd
Sut brofiad yw byw a gweithio yn un o ardaloedd hyfrytaf Cymru? I nodi 70 mlynedd ers ei sefydlu ar 29 Chwefror, 1952, dyma farn pedwar o bobl sy'n byw a gweithio ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Sophie Jenkins, Swyddog Datblygu Cymunedau
Ges i'n ngeni yn ardal y Preseli yng ngogledd Sir Benfro, mae teulu fy nhad o Brynberian - maen nhw wedi bod yn ffermio Mynyddoedd y Preselau am flynydde maith, a tadcu, a falle tadcu cyn hynny.
Fues i goleg am tipyn bach yng Nghaerdydd ond ar wahân i hynny dwi o hyd wedi byw o fewn y parc. Wrth i fi fynd yn hŷn mae'r dynfa yn fwy amlwg - gallai byth a byw heb y mynydd.
Er mai Penfro yw'r unig barc arfordirol ym Mhrydain, ni mwy yn y canol, ac mae ffin y parc yn dod mewn i Sir Benfro i gynnwys ardal y Preseli cyn mynd mas eto i'r arfordir. Mae'r arfordir yn cael lot o sylw ac yn amlwg mae'n brydferth ond mae ardal y Preseli - ma' rywbeth mwy hudol ambyti fe, fi'n credu achos bod cysylltiadau cryfach gyda'r iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg - mae'n neud e mwy unigryw.
Ma' shwt gymaint o haenau yma - y tirwedd, yr iaith a'r diwylliant, yr archeoleg, hanes ffarmo ac ati, ac wedyn y gymdeithas Gymraeg, gyda'r ffermwyr ifanc, Merched y Wawr, a chlybiau bach fel 'na. Ac mae elfennau diwylliannol gyda beirdd fel Waldo, a'r calennig - ma' Hen Galan Cwm Gwaun yn nodedig, a'r tafodiaith - bro y wes wes ma' nhw'n galw ni'n fan hyn.
Mae teimlad hynafol iawn yma gyda'r cromlechi a'r meini hirion yma ambytu'r lle. Er bod y lle yn edrych yn anghysbell ar y mynydd, a'r tirwedd fel bod neb byth wedi twtchad e, y realiti yw bod pobl wedi bod yma am filiyne o flynedde ac wedi rhoi imprint nhw ar y tir.
Mae teimlad o'r cysylltiad yna â'r hen oes, mae'n rhoi persbectif gwahanol i ti - bod ti falle yn rhan o rywbeth mwy ond yn rhywbeth bach iawn o'i gymharu â'r byd.
Neville George, Pysgotwr
Fi'n byw yn Trefin - jest ar bwys Tyddewi, born and bred. Dwi'n 50 mis nesa.
Fi nath ddechre pysgota fy hunain ac wedi neud e ers gadael yr ysgol on ac off. Roedd y bachan next door, wedd e'n neud e - ro'dd cwch 'da fe yn Abercastell - ac yn lle mynd i'r ysgol es i i'r môr, pan we'n i'n 15 oed. Fi'n mynd o gwmpas Sir Benfro fwya', hefyd o bwys y gogledd ond Sir Benfro fwya'.
Ma'n le hardd, chi ffili bito'r lle - ond ma' jest gormod o bobl yma nawr. Problem yw unwaith ma' un 'di bod yma ar siwrnai ma' nhw isio dod 'nôl. Chi ffili beio nhw rili - 'na pam ni'n byw yma.
Mae coves neis i gal 'ma - wedd nhw'n iwst i fod yn good - ond mae 'na paddle boarders a kayakers yma rŵan - ma'n mynd yn fwy a fwy caled i ffeindio llefydd.
O'r blaen rodd y tourist yn dod ac wedyn mynd, ond ma' nhw trwy'r flwyddyn nawr - sna'm lloni i gael nawr.
Ma' di mynd yn wath yn y 10 mlynedd diwetha, ond ers Covid... ma'n wath na ma' 'di bod erioed. Yn Trefin nawr, mae bob yn ail tŷ yn second home. A ffermydd? Ma' nhw gyd wedi eu converto a'u troi'n holiday homes - sna'm fferm ar ôl yma.
Ar y dechre rodd pob un yn meddwl bod e'n gwd thing bod bois local yn cael buildio nhw ond ma' jobs hynny wedi peni nawr, sna'm gwaith buildio ar rheiny nawr - maen nhw i gyd wedi eu gwneud.
Ma' dau o blant 'da fi - ma'r hynaf gatre 'da ni. Sdim y wages rownd ffordd hyn i matchio'r rent - maen nhw'n minimum wage a seasonal - ond fi'n ddigon lwcus efo pysgota, ma' fe trwy'r flwyddyn.
Mae 'na characters yn Penfro - ond ma'r characters i gyd yn marw nawr. Ma'r bois ifanc i gyd sydd 'da ni nawr i gyd yn mynd bant, ma' computers yn cymryd drosodd a ma' nhw gyd yn mynd i Gaerdydd a Llundain.
Richard Lewis, Ffermwr
Ni yw'r fferm agosa' i'r goleudy yn Pencaer. Fi 'di cael fy ngeni fan hyn. Daeth tad-cu yma aboti 1912, wedyn dad cymryd drosto, wedyn fi. Gwartheg godro sy' 'da ni, fferm organig.
Pan o'n i'n ifanc roedd gwartheg godro ar bob fferm ond dim ond percentage bach sydd ar ôl nawr a pob un either yn neud beef neu sucklers a phobl wedi gadael dros y blynydde achos ma'n bywyd caled a sdim lot o arian ynddi. Mae llai o bobl yn ffermio achos mae lot o family farms wedi cael eu llyncu lan gan ffermydd mwy.
Ond smo'r community wedi newid. Mae mwy o Gymraeg nawr achos mae'r plant yn dysgu Cymraeg yn yr ysgol - rhan fwya' o bobl ifanc yn gallu siarad tamed o Gymraeg.
Pan o'n i'n ifanc doedd rhan fwya' ddim yn gallu siarad Cymraeg - yn enwedig yn y dref, rodd gymaint o Wyddelod wedi setlo yn Abergwaun a'u plant nhw ddim yn siarad Cymraeg.
S'mo Abergwaun yn dref fawr am tourism ac mae lot yn gweitho ar y fferis. Mae lot o ofid ambyti hwnnw achos bod dim gymaint o bobl yn croesi drosodd nawr achos Brexit, felly mae'n dref eithaf depressed.
Chi'n mynd mas ar nos Sadwrn i Abergwaun a sna'm un ambyti'r lle. Er tref fach yw hi - wedd bob yn ail le yn dafarn ac roedd nhw'n llawn ar y wicend ond sa chi'm yn gweld neb mas nawr o byti'r lle ar y wicends. Mae mwy tawel a dim llawer o waith.
Ma'n ardal wledig ac yn exposed i'r môr, ac yn hardd. Obviously mae'r tywi yn braf yn yr haf a chi'n gallu appreciatio fe ond yn y gaeaf chi'n mynd strêt mewn i'r tŷ achos ma'r tywi mor miserable chi ddim yn cymryd sylw o'r views. Mae caravan site gen i ac mor gynted a daw'r tywydd mae pobl yma, a cheir yn mynd nôl a mlân o hyd i weld y goleudy a gweld y dolphins yn y môr - a ni'n neud tamad o arian mas o nhw.
Ma'r coastal path yn mynd trwyddo a mae lot o bobl yn cerdded e, yn enwedig Dutch a Belgians a rhai Germans, ond braidd dim yn y ddwy flynedd diwetha efo Covid. Dwi'n siŵr starto nhw lan eto 'leni.
Richard Vaughan, Parcmon
Ges i fy ngeni yn Sir Benfro a fy magu yng ngogledd y sir yn Cwm Gwaun jest tu fas i Trefdraeth. Fi'n mab ffarm.
Mae bob dydd yn wahanol yn y swydd gyda'r Parc - fi'n gweithio gyda lot fawr o wirfoddolwyr ar y llwybrau, llwybrau arfordir, safleoedd ni, gwaith cadwraeth a gweithio gyda ysgolion lleol.
Fi mas ar bwys y môr bore 'ma, a pnawn 'ma mewn lle gwahanol. Fory fi mas yn y goedwig. Mae bob math o lefydd sy'n brydferth iawn.
Bach iawn o newid sydd wedi bod yma o ran tirlun ers i mi fod yma ond dwi wedi gweld y lle lot mwy fishi.
Mae'r diwydiant twristiaeth yn bwysig, bwysig iawn i'r llefydd yma yn ystod yr haf a fi wedi gweld llawer o bobl yn symud mas o'r ardal i chwilio am waith, ond hefyd yn gweld lot mawr nawr o'n cenhedlaeth i yn dod 'nôl i'r ardal gyda'u teuluoedd a trial ffeindio lle yn lleol.
Ni'n lwcus yn Sir Benfro mae llwybr arfordir gyda ni agorwyd yn y 70au, sy'n rhan o llwybr arfordir Cymru erbyn hyn. Fi wedi gweld lot o bobl yn dod yma i gerdded - ond nid dim ond yr arfordir ond lan y Preseli a llwybrau mewnol hefyd. Mae lot mwy o bobl yn darganfod y llefydd ble fyddwn i'n dweud 20 mlynedd yn ôl oedd yn llefydd dawel iawn.
Dwi'n gwybod bod llefydd fel Eryri yn cael lot mwy o bobl nawr, a falle maen nhw wedi dod i bwynt mae mor fishi yno mae pobl yn dod lawr wedyn i Bannau Brycheiniog neu ymestyn bach pellach i Sir Benfro.
Mae lot o safleoedd yn cael lot o bwyse yn ystod yr haf ac mae'n dod i bwynt ble mae'n llawn ac yn y dyfodol y sialens fydd sicrhau bod y balans yn iawn. Fi'n meddwl gallen ni ddweud mewn ffordd bod dim isie hysbysebu Cymru fwy, yn enwedig ardaloedd fel y parc cenedlaethol - mae e'n hysbysebu ei hunain mewn rhyw ffordd.
Ers y ddwy neu tair blwyddyn ddiwetha' ni wedi trial cyflogi Parcmyn Haf i siarad â phobl yn y llefydd fishi a dangos llefydd newydd iddyn nhw trial os yn rhy llawn a gormod o bobl mewn un lle...
Ond s'dim ots os chi'n dweud ble gallech chi fynd i fwynhau; os mae'n ddiwrnod gyda haul i'r traeth maen nhw moyn mynd, sdim ots faint o bobl sydd yna. Mae hwnnw'n her fawr.
Hefyd o ddiddordeb: