Pwy ydi Pwy? Calan Cwm Gwaun

  • Cyhoeddwyd
Ydych chi'n nabod un o'r plant yma o Gwm Gwaun yn 1961?Ffynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ydych chi'n nabod un o'r plant yma o Gwm Gwaun yn 1961?

Mae'r rhan fwyaf ohonon ni wedi hen arfer â dathlu'r flwyddyn newydd ar 1 Ionawr, ond mae un ardal yng Nghymru yn dal i ddathlu traddodiadau'r hen galendr Iwlaidd.

Roedd y calendr Gregoraidd newydd yn amhoblogaidd ac felly penderfynodd ardal Cwm Gwaun yn Sir Benfro gadw at draddodiad yr hen galendr a dathlu'r Hen Galan ar 13 Ionawr.

Yn y llun uchod o gasgliad Geoff Charles, dolen allanol, mae rhai o blant yr ardal yn canu Calennig adeg Hen Galan 1961. Ond pwy ydyn nhw?

Mi apeliodd Cymru Fyw am wybodaeth ar Bore Cothi, BBC Radio Cymru ac mi gysylltodd Rita Davies a'r rhaglen i roi ychydig o gig ar yr esgyrn.

"Fi yw'r ferch ar y chwith gyda ngwallt mewn ponytail, rhyw naw mlwydd a hanner oedden ni ar y pryd ac o'n i'n arfer mynd i ganu calennig pob Hen Galan. O'n i'n dechre' am saith y bore ac yn mynd 'mlaen tan rhyw bump y prynhawn ac yn joio mas draw."

Felly ydy Rita'n cofio pwy arall oedd gyda hi yn y llun?

"Wel oedd Ifor a Gwyn Davies, Eirian Vaughan a Sally Vaughan, Menna James, ac Ionwy Thomas hefyd... ry'n ni wedi cael ein tynnu fel grŵp ond nid mewn grŵp o'n i'n mynd i ganu... fel unigolion."

Yn fuan ar ôl i Rita ffonio'r rhaglen dyma Ionwy Thomas (Ionwy Thorne erbyn hyn) yn cysylltu gyda manylion pellach nid yn unig am y bobl yn y llun, ond ble cafodd y llun ei dynnu.

"O'n ni tu fas Tŷ Bach, Cwm Gwaun, tŷ fy nhadcu. Tynnwyd y llun ar gyfer papur Y Cymro ac yn sefyll o'r chwith i'r dde mae: Rita Davies, fi (yn gwisgo fy wellingtons), y diweddar Ifor Davies (mab Bessie Davies sydd yn cadw tafarn Cwm Gwaun), Sally Vaughan yw'r un fach sydd wedyn, yna Menna James, y diweddar Eirian Vaughan (chwaer Sally), John Morris a Gwyn Davies (brawd Ifor)."

Mae Ionwy yn byw yn Aberdaugleddau erbyn hyn a thrwy gyd ddigwyddiad llwyr bydd hi'n ymddangos ar raglen Prynhawn Da, S4C ar 14 Ionawr i sôn am yr Hen Galan, ac mae hi newydd fynd i edrych am ei chopi hi o'r llun er mwyn mynd ag ef gyda hi.

Ydy, mae'r byd yn fach iawn.

Hoffech chi brofi eich gwybodaeth o arferion Calan Cymru? Beth am roi cynnig ar gwis Calan Cymru Fyw?