Lluniau archif: 30 mlynedd o Sesiwn Fawr
- Cyhoeddwyd

Yn 1992 fe wnaeth criw o bobl ddod at ei gilydd i drefnu gŵyl yn ardal Dolgellau a ddatblygodd i fod yn un o brif ddigwyddiadau'r calendr cerddorol yng Nghymru a thu hwnt.
Dros y 30 mlynedd diwethaf mae'r Sesiwn Fawr wedi denu nifer fawr o artistiaid adnabyddus ac wedi addasu o fod yn ŵyl am ddim ar strydoedd ac yn nhafarndai'r dref, i ŵyl gyda thocynnau ar Y Marian, yna sesiynau bychan mewn lleoliadau yn y dref ac ers dwy flynedd gŵyl ddigidol yn sgil Covid.
Wrth i Ddolgellau baratoi i groesawu cerddorion a thorf i'r dref unwaith eto eleni rhwng 15-17 Gorffennaf, dyma flas o'r mwynhau dros y tri degawd diwethaf.


Y perfformiad cyntaf erioed yn y Sesiwn Fawr - Meic Stevens yn agor yr ŵyl yn 1992

Rhai o aelodau'r band Gwerinos, sy'n dod o'r ardal, wnaeth sefydlu'r ŵyl. Dyma nhw yn y Sesiwn gyntaf yn 1992...

... a 24 mlynedd yn ddiweddarach yn 2016

Paul Young efo Los Pacaminos fu'n perfformio yn 2002

Twm Morys yn cyrraedd Sesiwn Fawr 2001. Mae ei fand Bob Delyn a'r Ebillion wedi perfformio yn y Sesiwn nifer o weithiau

Y chwaraewr bodhran Cormac Byrne, oedd yn perfformio gyda Seth Lakeman yn 2006; Hayseed Dixie o'r Unol Daleithiau yn 2006; ac Elin Fflur yn 2005

Burning Spear, yr artist roots reggae o Jamaica, yn 2002

Dyn Gwyrdd y Gwernan mewn prosesiwn; yr olygfa ger tafarn y Ship 1997; sesiwn er gwaetha'r glaw yn 2007

Y dyrfa'n mwynhau perfformaid Calan yn 2019

Y band gwerin o'r Alban Peatbog Faeries yn 2014

Roedd Gruff Rhys a'r Super Furry Animals yn un o'r prif fandiau yn 2005

Iard gefn Gwesty'r Llong yng nghanol y Dref yn 2019

Ryland Teifi 2012; Yat Kha 2002

Ychydig wyddai rhain mai dyma'r Sesiwn olaf am dair blynedd yn sgil Cofid - cefn y Ship pnawn Sul 2019

Parhau wnaeth y gerddoriaeth er gwaetha'r pandemig gyda digwyddiadau digidol yn cael eu cynnal. Fe wnaeth Bwncath berfformio yn y Sesiwn Dolig yn 2020, a bydd y band yn perfformio'n fyw o flaen torf eleni

Huw Dylan Owen, yn DigiDol 2021, pan gafodd perfformiadau eu ffilmio mewn gwahanol leoliadau yn y dref ar gyfer gŵyl rhithiol
Hefyd o ddiddordeb: