Lluniau Dydd Llun: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig

Mae'n ddydd Llun yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac mae'r Orsedd i'w gweld am y tro cyntaf wedi i ambell aelod newydd aros yn amyneddgar i gael eu anrhydeddu.

Dyma 'chydig o'r hyn oedd i'w weld ar y Maes Ddydd Llun.

Disgrifiad o’r llun,

Ynyr o Lannon yn cael gwell golygfa o Sioe Cyw ar Lwyfan y Maes o 'sgwyddau Taid

Disgrifiad o’r llun,

Finn (yn gwisgo'r het) a'i frawd Jonah yn eistedd yng nghefn car heddlu, a'u cefnder o North Carolina, Wynn, yn barod wrth y llyw

Ffynhonnell y llun, EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
Disgrifiad o’r llun,

Esyllt Maelor, enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Disgrifiad o’r llun,

Huw Stephens yn siarad gyda rhai o aelodau newydd yr Orsedd.

Disgrifiad o’r llun,

Yr Orsedd yn croesawu aelodau newydd i'w plith ar y Maes

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Y cyrn hollbwysig dan ofal Dewi Griffiths a Gwyn Anwyl

Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

'A oes heddwch?' Robin McBryde, Ceidwad y Cledd

Disgrifiad o’r llun,

Gwenno a'i chyfnither, Nanw, yn gwneud 'chydig o arlunio ar y Maes

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn
Disgrifiad o’r llun,

Dyfan Maredudd, enillydd Coron Eisteddfod AmGen 2021 ymysg y rhai oedd yn cael eu hanrhydeddu

Disgrifiad o’r llun,

Un sydd â stondin ar y Maes yw'r awdures Clare Mackintosh. Mae ei gwaith wedi ei gyhoeddi mewn 35 iaith ar draws y byd

Disgrifiad o’r llun,

Grŵp dawnsio disgo/hip-hop/stryd - Genod Anti Karen o Gaernarfon yn mwynhau ar y Maes cyn i'r cystadlu ddechrau

Disgrifiad o’r llun,

Owain Tudur Jones a Malcolm Allen yn ateb cwestiynau'r gynulleidfa wrth recordio pennod o'u podlediad Y Coridor Ansicrwydd ar faes yr Eisteddfod

Disgrifiad o’r llun,

Noah o Hwlffordd yn rhoi cynnig ar chwarae 'Connect 4'

Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o gyffro i'w weld yn y Pentref Drama yn ystod y prynhawn.

Disgrifiad o’r llun,

Osian, sy'n chwe blwydd oed ac yn dod o Gaerfyrddin, yn canolbwyntio tra'n defnyddio'r bwa a saeth