Lluniau Dydd Iau: Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Roedd hi'n ddiwrnod o fwynhau yn yr heulwen, ac ambell i brotest, ar y Maes Ddydd Iau - dyma flas o'r hyn ddigwyddodd yn yr Eisteddfod.

Yn ystod y cyfnod clo bu Jenny M Thomas (Bush Gothic) ac Angharad Jenkins (Calan) yn cydweithio - y naill yn Awstralia a'r llall yng Nghymru. Daeth y ddwy at ei gilydd yn y Tŷ Gwerin i berfformio am y tro cyntaf

Peidiwch â gwneud hyn gartref... arbrawf ffrwydrol gyda TSE yn y pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Gweithdy cerdd... Paul yn gwneud telyn ar stondin Telynau Derwent

Un o'r nifer o berfformiadau theatr stryd ar y Maes

Mackenzie o Gasgwent ac Erin o Gasnewydd

Roedd dros 200 o bobl ym mhrotest Cymdeithas yr Iaith am y sefyllfa ail dai

Nage, nid ymweliad gan arweinwyr byd-enwog â'r Brifwyl ond protestwyr newid hinsawdd grŵp Extinction Rebellion yn dynwared gwleidyddion ar y Maes

Cadw golwg ar y diweddara yn y sin roc Gymraeg gyda cylchgrawn Y Selar

Mared o Benygroes, Lleucu o Bwllheli a Megan o Hen Golwyn

Dod â hanes yn fyw i'r genhedlaeth nesaf yn stondin Cadw

Un o'r Eisteddfotwyr ifanc yn mwynhau yn yr haul

Elis Derby yn diddanu yng Nghaffi Maes B

Jac yn mwynhau yn yr adran chwaraeon

Roedd het fwced yn fuddiol yn yr haul ddydd Iau...

... a hufen iâ hefyd fel oedd Gwilym a Deio o Ben Llŷn yn gwybod yn iawn

