Argyfwng costau byw: 'Niwed aruthrol i'r Torïaid'
Mae arbenigwr ariannol yn credu fod ymdriniaeth Llywodraeth y DU o'r argyfwng costau byw wedi gwneud "niwed aruthrol i'r blaid Dorïaidd".
Roedd panel o arbenigwyr yn trafod y mater ar Dros Frecwast fore Gwener, ac yn eu plith roedd Dr Carol Bell, sy'n arbenigwr ar ynni a'r marchnadoedd arian.
"Maen nhw [y Ceidwadwyr] wedi colli bob sail ar stiwardiaeth dda o'r economi, a bydd yn rhaid iddyn nhw weithio'n galed iawn i gael hwnnw 'nôl," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi o'r farn y dylai Llywodraeth y DU wneud tro pedol ar rai o'r polisïau a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, er y byddai hynny'n achosi rhagor o niwed gwleidyddol i'r Ceidwadwyr.
Dywedodd mai'r newid polisi wnaeth achosi'r mwyaf o syndod iddi hi oedd eu bod diddymu'r gyfradd uchaf o dreth incwm - sef 45% ar incwm y rheiny sy'n ennill dros £150,000.