Cyllideb fer: Torri trethi 'er mwyn tyfu'r economi'

  • Cyhoeddwyd
Kwasi Kwarteng
Disgrifiad o’r llun,

Y Canghellor Kwasi Kwarteng yn traddori'r gyllideb fer yn Nhŷ'r Cyffredin fore Gwener

Mae'r Canghellor Kwasi Kwarteng wedi traddodi ei gyllideb fer, gan flaenoriaethu toriadau i drethi mewn ymdrech i dyfu'r economi.

Ymysg y cyhoeddiadau oedd tynhau'r rheolau ar Gredyd Cynhwysol, dileu'r codiad treth ar alcohol a chael gwared ar y gyfradd uchaf o dreth incwm.

Yn ôl Llywodraeth y DU, fe fydd dros miliwn o bobl yng Nghymru yn elwa o'r penderfyniad i dorri'r brif gyfradd o dreth incwm o fis Ebrill nesaf, blwyddyn yn gynt na'r disgwyl.

Mae'n "agwedd newydd ar gyfer cyfnod newydd," dywedodd Mr Kwarteng.

Ond fe honnodd ys AS Llafur Rachel Reeves, Canghellor yr wrthblaid, ei fod yn "fwydlen heb brisiau", ac fe feirniadodd y llywodraeth am beidio â chyhoeddi asesiad annibynnol o gyflwr yr economi.

Mae'r dreth ar brynu tai yn Lloegr hefyd yn cael ei thorri - dywedodd y Trysorlys y bydd £70m yn ychwanegol yn mynd i goffrau Llywodraeth Cymru o ganlyniad.

Budd-daliadau

Fe fydd y sawl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol ac sy'n gweithio llai na 15 awr yr wythnos yn wynebu toriad yn eu taliadau os nad ydyn nhw'n cymryd camau i ennill mwy.

Mae dros 200,000 o deuluoedd yng Nghymru yn derbyn y credyd.

Bydd mwy o help hefyd i bobl dros 50 oed i ddod o hyd i waith.

Treth incwm

Cyhoeddodd y Canghellor y bydd y gyfradd sylfaenol o dreth incwm yn gostwng i 19%, flwyddyn yn gynt na'r disgwyl.

Rhyw 1.29m o bobl yng Nghymru sy'n talu'r gyfradd sylfaenol. Yn ôl y Trysorlys, fe fydd rhain yn elwa o tua £170 ar gyfartaledd.

Hefyd o fis Ebrill nesaf, fe fydd y gyfradd ychwanegol - sef 45% ar incwm dros £150,000 - yn diflannu. 9,000 o bobl yng Nghymru sy'n talu'r gyfradd yma.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Treth stamp yn Lloegr

Yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ni fydd yn rhaid talu treth ar brynu tai sydd werth llai na £250,000, yn hytrach na'r £125,000 presennol.

Mae gan Gymru system debyg - y Dreth Trafodion Tir - gyda dim i'w dalu ar dai gwerth llai na £180,000.

Mae £70m ar gael i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r newid yn Lloegr, ond does dim rheidrwydd y bydd y gyfradd yn newid yn yr un ffordd.

Yswiriant Cenedlaethol

Mae'r codiad o 1.25% yn y bunt mewn Yswiriant Cenedlaethol a gyflwynwyd gan Boris Johnson wedi'i ddileu.

Ond dywedodd Mr Kwarteng y byddai'r Gwasanaeth Iechyd a gofal cymdeithasol yn Lloegr yn parhau i gael eu hariannu i'r un lefel.

Yng Nghymru fe fydd dwy filiwn o bobl yn talu llai o Yswiriant Cenedlaethol - tua £235 ar gyfartaledd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Cyhoeddiadau eraill

Mae'r Canghellor yn dileu'r cynllun i godi'r dreth gorfforaethol o 19% i 25%, a'r cynllun i godi'r dreth ar gwrw, seidr, gwin a gwirodydd.

Dywedodd Mr Kwarteng y byddai'n "edrych i weithio" gyda Llywodraeth Cymru i greu parthau buddsoddi newydd.

Mae'r parthau newydd yn Lloegr yn cynnig toriad treth er mwyn i fusnesau fuddsoddi, a llacio cyfyngiadau cynllunio.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am bolisi cynllunio yng Nghymru.

Pa ymateb sydd wedi bod?

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Syr Robert Buckland: "Mae'r mesurau blaengar yma heddiw yn rhoi twf economaidd wrth galon ein cynlluniau... economi sy'n tyfu yw'r ateb tymor hir gorau i'r pwysau ariannol enbyd sy'n ein hwynebu ni oll."

Ond yn ôl Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans mae Llywodraeth y DU yn "mynd i gyfeiriad wirioneddol bryderus gyda blaenoriaethau cyfeiliornus... a fydd yn plannu annhegwch".

"Yn hytrach na chefnogaeth ystyrlon, wedi'i thargedu i'r rhai sydd angen help fwyaf, mae'r Canghellor yn blaenoriaethu ariannu toriadau trethi i'r cyfoethog, taliadau bonws di-ben-draw i'r bancwyr ac amddiffyn elw'r cwmnïau ynni," meddai.

Mae hi hefyd yn beirniadu "cyfle a gollwyd" i fuddsoddi mewn cynlluniau ynni gwyrdd a fyddai'n "gwella ein diogelwch ynni yn y tymor hir a helpu atal y math yma o argyfwng [costau byw] rhag digwydd eto".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Ben Lake AS, llefarydd Plaid Cymru ar y Trysorlys: "Datganiad i gefnogi'r bobl fwyaf cyfoethog gawson ni gan y Canghellor heddiw.

"Mae aelwydydd a busnesau ledled Cymru yn wynebu gaeaf difrifol o filiau anfforddiadwy a chwyddiant cynyddol, ac ymateb y llywodraeth yw i blesio'r cyfoethog iawn gyda ffantasi llwyr."

Ond fe fynnodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies "ni allwch drethu eich ffordd i ffyniant", gan ganmol "cynllun blaengar i dyfu ein heconomi, hybu swyddi a chynyddu cyflogau".

Mewn cyfnod pan fod pobl yn ei chael hi'n anodd dygymod â chostau byw, mae'n "hanfodol", meddai, "eu bod yn gallu cadw mwy o'u harian eu hunain".

Dywedodd fod datganiadau'r wythnos hon "yn dangos bod [llywodraeth y Prif Weinidog newydd, Liz Truss] yma i gyflawni, yn gyflym, ar gyfer pawb yn y DU".

'Anghyfrifol ac anystyriol'

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Bydd rhywun sy'n ennill £200,000 y flwyddyn yn elwa o £3,000 yn fwy bob blwyddyn tra bo'r rheiny sy'n byw mewn tlodi yn parhau i'w chael hi'n anodd.

"Bydd torri'r dreth gorfforaethol, dileu'r cap ar daliadau bonws bancwyr, a dileu band uchaf y dreth incwm i'r rhai sy'n ennill dros £150,000 yn gwneud dim byd o gwbl i helpu'r teulu cyffredin y gaeaf yma."

Ychwanegodd bod angen "etholiad cyffredinol yn syth i gael gwared ar y llywodraeth Geidwadol anghyfrifol ac anystyriol yma".

Pynciau cysylltiedig