Dafydd Iwan yn 'obeithiol' am ddyfodol y Gymraeg
Mae'r canwr ac ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, wedi galw am sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad.
Wrth annerch tua 250 o bobl mewn rali yng Nghaerfyrddin, dywedodd ei fod yn obeithiol am ddyfodol yr iaith er gwaethaf yr ystadegau diweddaraf.
Daw hynny wedi i ffigyrau'r Cyfrifiad diweddaraf ddangos cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, o 19% i 17.8%.