Dafydd Iwan: 'Mwy o ysgolion Cymraeg' i achub yr iaith
- Cyhoeddwyd
Mae'r canwr ac ymgyrchydd iaith, Dafydd Iwan, wedi galw am sefydlu mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar draws Cymru yn sgil canlyniadau'r Cyfrifiad.
Wrth annerch tua 250 o bobl mewn rali yng Nghaerfyrddin, dywedodd ei fod yn obeithiol am ddyfodol yr iaith er gwaethaf yr ystadegau diweddaraf.
Daw hynny wedi i ffigyrau'r Cyfrifiad diweddaraf ddangos cwymp yng nghanran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, o 19% i 17.8%.
Roedd y cwymp ar ei fwyaf yn Sir Gaerfyrddin, ble disgynodd o 4%, a dim ond 39.9% o'i thrigolion sy'n dweud eu bod yn medru siarad Cymraeg bellach.
'Dylen ni fyth anobeithio'
Yn ôl Cyfrifiad 2011, roedd 40% o ardaloedd LSOA yn Sir Gaerfyrddin yn rhai ble roedd dros hanner y boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Ond bellach mae llai nag un o bob pedwar o'r ardaloedd hynny - sydd gyda rhwng 1,000 a 2,500 o drigolion - yn rhai ble mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith.
Fe wnaeth y ffigyrau hefyd awgrymu bod proffil siaradwyr Cymraeg yn Sir Gâr yn hŷn na bron pob un o siroedd eraill Cymru, gyda chanran y siaradwyr ar ei uchaf ymhlith y rheiny dros 80 oed.
Yn y rali ddydd Sadwrn, gafodd ei threfnu gan Gymdeithas yr Iaith, dywedodd Dafydd Iwan bod lle i fod yn obeithiol yn ogystal â phryderus am y ffigyrau.
"Mae'r iaith Gymraeg yn fyw ond mae yna bethau sydd angen eu newid," meddai.
"Er fy mod i yn obeithiol am ddyfodol yr iaith, mae angen mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg, ac mae'r awdurdodau lleol yn llusgo eu traed.
"Nid un ateb syml sydd yna i broblem yr iaith. Yn y pendraw, os nag oes ysgolion sydd yn dysgu Cymraeg a hanes Cymru i'n plant ni, does dim llawer o ddyfodol i ni."
Ychwanegodd na ddylai pobl "anobeithio", fodd bynnag.
"Mae arwyddion clir fod yr ymgyrchu dros y 60 mlynedd diwethaf wedi creu chwyldro yng Nghymru, ac y mae'n bwysig ein bod yn dathlu hynny.
"Mae'r frwydr i ennill meddyliau a chalonnau'r Cymry, yn enwedig yr ifanc, yn parhau, ac yn y frwydr y mae'n gobaith. Ni ddaw byth i ben."
Saith o ofynion
Fe ddechreuodd y rali ger Neuadd y Sir yng nghanol Caerfyrddin, cyn gorymdeithio draw at swyddfa Llywodraeth Cymru ar Deras Picton.
Ac fe ddefnyddiodd Cymdeithas yr Iaith y cyfle i ategu rhai o'u galwadau cyfarwydd i'r llywodraeth, gan gynnwys gweithredu ym maes addysg, swyddi, tai a chefn gwlad er mwyn sicrhau tegwch a ffyniant i gymunedau Cymraeg.
"Os na lwyddwn i droi'r llanw yn awr, mae'n annhebygol y bydd unrhyw gymunedau naturiol Gymraeg ar ôl yn Sir Gâr erbyn y Cyfrifiad nesaf," rhybuddiodd Sioned Elin o'r mudiad.
"Ond yn sicr dydy hi ddim yn amser i anobeithio, mae'n amser i weithredu.
"Byddwn ni'n mynd â saith o alwadau ar Lywodraeth Cymru fel sail i Raglen Argyfwng o gamau gweithredol i adfywio'n hiaith a'n cymunedau Cymraeg."
Wrth ymateb i sylwadau Mr Iwan dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod gan ysgolion Cymraeg ym mhob rhan o Gymru "rhan allweddol" i'w chwarae wrth geisio cyrraedd eu targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.
Ychwanegodd bod bwriad i agor 23 o ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn y degawd nesaf, wrth i siroedd ar draws y wlad ehangu darpariaeth addysg Gymraeg.
Mewn ymateb i ofynion Cymdeithas yr Iaith, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn credu bod gan bawb hawl i gartref gweddus a fforddiadwy, boed hynny i'w brynu neu i'w rentu, o fewn eu cymuned fel eu bod yn gallu byw a gweithio'n lleol.
"Rydym yn cymryd camau radical gan ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthiant i gyflawni hyn, gyda'r cynnydd yn uchafswm y premiymau treth gyngor y gall cynghorau ei godi fel un rhan yn unig o becyn atebion cydgysylltiedig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2022