Oriel: Eira dros rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ardaloedd dan gwrlid gwyn ar ôl cawodydd eira ers y penwythnos.
Dyma rai o'r golygfeydd gaeafol ddydd Mawrth gyda rhagor o rybuddion am eira a rhew wedi eu cyhoeddi gan y Swyddfa Dywydd.

Tynnodd Michael Smith y llun yma o ddefaid ar y Gogarth fore Mawrth.

Lliwiau anhygoel yn yr awyr wrth i'r wawr dorri dros yr Wyddfa. Tynnodd Marilyn E. Williams y llun yma o Borthaethwy fore Mawrth.

Yr olygfa dlws yn Llanelwy, Sir Ddinbych, gan Tudur Davies.

Cychod ar gei gwyn yng Nghonwy.

Y plu eira wedi gorchuddio Llywelyn Fawr a thoeau'r adeiladau ar y sgwâr yng Nghonwy.

Emily, 10 oed, ac Alice, sy'n bump, yn dal dwylo'n dyn wrth gerdded ar yr eira a'r rhew yn Wrecsam. Roedd rhai o ysgolion Cymru wedi cau oherwydd yr eira.

Yr eira ar gaeau a bryniau yn Bodfari wedi troi'r byd yn las. Llun gan Ricky Roberts.

Oes yna'r fath liw â phinc-las? Tynnodd Serena Wynn y llun yma o Ddyserth yn edrych draw i gyfeiriad Gallt Melyd a Phrestatyn gyda'r melinau trydan gwynt i'w gweld yn y môr oddi ar arfordir gogledd Cymru.

Y prom yn Llanfairfechan dan eira gan Bridget Madigan.

Eira yn creu golygfa Alpaidd yn Eglwys-bach, Sir Conwy.

Eira yn drwch ar ffyrdd Pentrefoelas.
Nid yn y gogledd yn unig y syrthiodd yr eira: roedd gohebydd BBC Cymru Aled Scourfield ynghanol y plu eira ar Fynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Os oes gennych chi luniau o'r eira yn eich ardal chi anfonwch at cymrufyw@bbc.co.uk
Hefyd o ddiddordeb: