Cofio storm fawr Aberystwyth, 1938

  • Cyhoeddwyd
Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

Rhwng 14 a 19 Ionawr 1938, achosodd storm anferthol ddifrod yn Aberystwyth, gyda'r promenâd a'r pier yn cael eu dymchwel gan wyntoedd 90 milltir yr awr.

Dyma gip ar yr hanes a lluniau o effaith ddifrifol y storm ar Rodfa Fuddug, sydd fwyaf adnabyddus fel Teras Victoria.

Storm fawr Aberystwyth, 1938

"Mae tai Teras Victoria yn parhau i sefyll yn dal gan edrych yn dawel dros draeth Aberystwyth a Bae Ceredigion ar ddiwrnod braf. Ond, mae Teras Victoria hefyd yn cofio stormydd tymhestlog fel ar ddydd Gwener 14 Ionawr, 1938."

Dyna adroddodd yr hanesydd lleol, William Troughton, wrth iddo rannu'r hanes â'r BBC yn 2009., dolen allanol

Meddai: "Roedd yn ddydd a gychwynnodd fel unrhyw ddydd arall yn Ionawr yn Aberystwyth. Awyr lwyd yn ymestyn tua gorwel Bae Ceredigion. Tua'r nos, daeth gwynt cryfach o'r de-orllewin, gan chwythu o nerth i nerth a thaflu cerrig llyfn y traeth at ei gilydd fesul ton.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

"Wrth i'r nos fynd rhagddi, cynyddodd gyflymder y gwynt, gan udo drwy fframiau drysau a ffenestri'r tai ar y ffrynt. Daeth cadeiriau'r parlwr yn nes at yr aelwyd wrth i drigolion y tai ddarllen, wrando ar y radio neu gynhesu o flaen y tân.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

"Ychydig a wyddai pobl Aberystwyth ar y pryd y byddent yn deffro i olygfa dra gwahanol na'r bore cynt. Mae'r rhai a fu'n dyst i'r storm (85 mlynedd yn ôl) yn dweud i'r storm gyrraedd ei hanterth tua phump o'r gloch y bore, 15 Ionawr.

"Amcangyfrifwyd i'r gwynt chwythu 90 milltir yr awr. Roedd si bod ton llanw wedi taro'r arfordir, si a gafodd ei hatgyfnerthu wrth i'r Llynges Frenhinol adrodd bod tancer wedi ei tharo gan don anferthol.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

"Disgynnodd y promenâd i ddarnau a'i olchi i ffwrdd mewn munudau. Daeth ton ar ôl ton i mewn i dai gyda throedfeddi o ddŵr yn achosi difrod difrifol.

Ffynhonnell y llun, Cagliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Storm Aberystwyth 1938

"I drigolion Teras Victoria, roedd nerth y storm yn echrydus. Roedd lloriau isaf y tai'n llenwi'n sydyn â dŵr a roedd cerrig mawrion yn cael eu taflu yn erbyn ffenestri'r ail lawr, gan dorri'r gwydr a gadael i alwyni o ddŵr ddod i mewn.

Ffynhonnell y llun, Casgliad y Werin
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

"Wrth iddi wawrio ar 15 Ionawr, roedd yr angen am gymorth brys i Aberystwyth yn amlwg, cyn i'r môr wneud rhagor o niwed.

Ffynhonnell y llun, British pathe
Disgrifiad o’r llun,

Difrod storm, Teras Victoria, Aberystwyth 1938

"Roedd diwedd y pier wedi diflannu a phob adeilad i'r gogledd o Neuadd y Brenin wedi ei ddifrodi, gyda Teras Victoria yn profi'r difrod fwyaf. Dechreuwyd ar y gwaith o adeilad argae coffr, gwaith a barhaodd i mewn i'r 1940au.

"Y gost yn sgil difrod storm 1938 oedd £70,000 (fyddai gyfystyr â dros £2.5m erbyn heddiw)."

Ebyn hyn, mae clogfeini mawrion yn gwarchod y promenâd, gan wneud digwyddiadau 1938 bron yn amhosib.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig