Cau ysgolion a ffyrdd ar ôl rhew ac eira
- Cyhoeddwyd
Mae ffyrdd ynghau a chyngor i bobl ar draws Cymru fod yn ofalus wrth i rew ac eira daro'r wlad.
Mae amryw o rybuddion mewn grym gan y Swyddfa Dywydd, gyda'r cyntaf o'r rheiny - rhybudd melyn am rew ac eira ar gyfer gogledd Cymru - wedi dod i ben am hanner dydd ddydd Mawrth.
Bryd hynny, fe ddaeth rhybudd arall am rew ac eira i rym tan 12:00 ddydd Mercher ar gyfer mwyafrif y wlad - pob sir oni bai am Sir Benfro, Bro Morgannwg, Caerdydd, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont.
Ond mae rhybudd arall, hefyd am rew ac eira, yn weithredol ar gyfer y siroedd hynny yn y de a'r de-orllewin o 18:00 nos Fawrth tan hanner dydd ddydd Mercher.
Roedd sawl ysgol yn Sir Conwy, dolen allanol, Sir Ddinbych, dolen allanol a Sir y Fflint, dolen allanol ynghau ddydd Mawrth o ganlyniad i'r amodau gaeafol.
Cadarnhaodd Coleg Llandrillo hefyd y bydd eu campws yn Llandrillo-yn-rhos, Sir Conwy, ynghau ddydd Mawrth oherwydd "eira trwm".
Roedd y tymheredd oeraf dros nos yng Nghymru ym Mhontsenni, Powys, ble cyrhaeddodd hi -7.7C
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru fore Mawrth eu bod naw o wrthdrawiadau wedi cael eu hadrodd i'r llu dros nos yn sgil "amodau gwael iawn ar y ffyrdd".
Roedd y llu wedi dweud nos Lun fod gwrthdrawiadau ar ffyrdd gwledig ger Rhuthun a'r Bala.
Cafodd yr A55 ei rhwystro'n rhannol i gyfeiriad y gorllewin ger cyffordd 35 yn Sir y Fflint oherwydd gwrthdrawiad yn sgil yr eira.
Bu'r A470 hefyd ynghau rhwng Rhaeadr Gwy a Llangurig ym Mhowys oherwydd llifogydd.
Roedd y B5105 ar gau dros nos yng Nghonwy, rhwng Llanfihangel Glyn Myfyr i Glawddnewydd, oherwydd eira.
Cafodd 14 o wrthdrawiadau eu hadrodd i Heddlu De Cymru dros nos, ac wyth i Heddlu Gwent.
Roedd sawl ffordd ar gau nos Lun, gan gynnwys rhan o'r A488 rhwng Bleddfa a Thref-y-clawdd ym Mhowys a'r B4263 at fynydd Caerffili.
Dywedodd Heddlu'r De y bu Ffordd Lecwydd (B4267) hefyd ynghau i'r ddau gyfeiriad ym Mro Morgannwg oherwydd yr amodau gwael.
Daw wrth i sawl ardal yng nghanolbarth, gorllewin a de Cymru barhau i ddelio gydag effeithiau llifogydd yn dilyn glaw trwm.
Gwiriwch a oes ysgolion ynghau yn eich ardal chi
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023