Bryn Terfel yn canu yn y Gymraeg yn seremoni'r Coroni

Mae'r Gymraeg wedi cael ei defnyddio mewn seremoni'r Coroni am y tro cyntaf erioed, wrth i'r canwr Syr Bryn Terfel ganu yng ngwasanaeth coroni'r Brenin Charles III.

Fe wnaeth y bariton-bas berfformio 'Kyrie eleison', oedd yn ddarn newydd gan y cyfansoddwr Paul Mealor.

Cyn y seremoni fe ddywedodd ei fod yn edrych ymlaen at roi "platfform i Gymru" - er bod "rhai pobl yn mynd i ddweud pethau negyddol".