Mewn lluniau: Ffermwyr ecolegol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Liz mewn cae ar yr arfordir gyda buwch ym mlaen y llunFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Gyda mwy a mwy o sylw ar rôl amaethyddiaeth yn yr argyfwng hinsawdd mae yna ffermwyr yng Nghymru sy'n troi cefnau ar ffyrdd o ffermio sydd wedi bod yn norm ers degawdau er mwyn gweithio gyda natur i gynhyrchu bwyd heb niweidio'r amgylchedd.

Roedd y ffotograffydd Aled Llywelyn wrth ei fodd yn cael cyfle i bortreadu bywyd a gwaith rhai o'r ffermwyr hynny fel rhan o brosiect Gwlad Ein Dyfodol WWF Cymru.

"Fel arfer fe fyddwn ni'n cysylltu WWF gyda phandas a phengwins felly roedd yn wych gallu dangos ffermio, bywyd gwyllt, cynaliadwyedd a bywyd teuluol ar stepen fy nrws," meddai Aled sydd yn byw "mewn ardal wedi ei amgychlynu gan amaeth" yn Sir Gaerfyrddin.

Fferm Rest, Sir Gaerfyrddin

Un o'r ffermydd hynny yw fferm Aled Evans a'i frawd Iwan ger Hendy-gwyn ar Dâf yn Sir Gaerfyrddin.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Pan gymeroedd y ddau frawd awenau'r fferm laeth draddodiadol ar ôl ymddeoliad eu modryb roedden nhw eisiau datblygu system ffermio oedd yn gofalu am yr amgylchedd a'r gymuned i'r dyfodol, yn tyfu bwyd o safon ac yn rhoi bywoliaeth dda iddyn nhw a'u teulu.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Maen nhw'n magu gwartheg drwy system bori cylchdro, lle mae'r gwartheg yn cael eu symud bob dydd i roi gorffwys i'r borfa, sy'n golygu nad oes angen defnyddio gwrtaith nitrogen na phrynu porthiant i mewn o'r tu allan.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

"O'n i'n gweld bod ni'n gallu gweithio'r system yn well drwy weithio gyda natur a pheido prynu pethau mewn fel cemegolion ac yn y blaen drwy'r amser. Ond yn fwy na hynny be' o'n ni'n gallu gweld oedd drwy weithio mwy a mwy gyda natur oedd e'n rhoi mwy o fodd i'r system ac i'r amgylchedd oedd gyda ni yn lleol," meddai Aled Evans.

Tyddyn Teg, Caernarfon

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Fferm lysiau gydweithredol ger Bethel ar gyrion Caernarfon yw Tyddyn Teg sy'n gwerthu bocsys llysiau yn lleol ac yn cyflenwi bwytai a siopau lleol.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Maen nhw'n tyfu bwyd heb gemegau amaethyddol ac yn defnyddio technegau fel cylchdroi cnydau, tyfu cnydau gorchudd, hau meillion o dan rai cnydau gan droi'r tir cyn lleied â phosibl. Maen nhw hefyd yn cynnal cynefin ar gyfer pryfed ac anifeiliaid eraill sy'n ddefnyddiol ar gyfer tyfu bwyd.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Fel Rest Farm maen nhw'n gofalu bod digon o wrychoedd fel cysgod i anifeiliaid a lle nythu i adar.

Mae'r holl wastraff yn cael ei ailgylchu mewn rhyw ffordd, a chompost o wastraff trefol yn cael ei ddefnyddio i wrteithio'r tir. Mae 11 o bobl yn ennill bywoliaeth drwy'r cynllun.

Fferm Glancynin, Sir Gaerfyrddin

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Mae Elfyn a Rhian Davies yn rhedeg fferm odro organic 160 erw ar Fferm Glancynin ger San Clêr yn Sir Gaerfyrddin ers rhyw 25 mlynedd.

Cyn hynny peiriannydd oedd Elfyn ond dychwelodd i'w wreiddiau ym myd amaeth i redeg y fferm fechan gyda'i wraig gan sylweddoli yn gyflym nad oedd defnyddio plaladdwyr a gwrthtaith synthetig sy'n niweidiol i fyd natur yn gweithio iddyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Mae eu gwartheg yn bwyta dim ond eu porfa eu hunain a dyw'r tir ddim wedi ei aredig ers y 1990au sy'n golygu bod iechyd y pridd yn well a bod carbon yn cael ei gloi yn y tir yn hytrach na'i ollwng i'r awyr.

Mae'r cloddiau yn cael eu gadael i dyfu am 15-20 mlynedd cyn eu tocio a'u plygu yn y dull traddodiadol gan roi hafan i fywyd gwyllt a chysgod i anifeiliaid.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

"Ffermio naturiol iawn," esbonia Elfyn sydd hefyd yn awyddus i ddangos beth mae modd ei gyflawni gyda fferm fechan.

"Rwy'n credu ddylai mwy o hyn gael ei wneud; byddai'n llawer gwell i'r amgylchedd a gwell i'r byd."

Mae tua 80 o wartheg ar y fferm a'u cynnyrch llaeth yn cael ei werthu'n lleol, rhywbeth arall sy'n bwysig i Elfyn Daves.

Fferm Nantclyd, Ceredigion

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Dros 30 mlynedd mae Liz Findley wedi datblygu busnes fferm gymysg gynaliadwy yng Ngheredigion sy'n cyflenwi wyau, dofednod, ffrwythau a llysiau, grawn, a chig oen ac eidion ar ôl cychwyn ar ei liwt ei hun fel ffermwr cenhedlaeth-gyntaf.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn

Yn ffermio gyda'i mab Oliver, mae hi'n dilyn dull biodynamig o ffermio, sef defnyddio dulliau naturiol o roi maeth i'r tir yn hytrach na dibynnu ar gemegolion wedi eu prynu.

"Mae'n ddull o ffermio nad yw'n dibynnu ar brynu mewnbynnau. Mi wnaethom ddechrau heb ddim ac roedd yn rhaid inni ofalu am y tir gystal ag y gallwn a gwelsom y gallem wneud hynny drwy ffermio'n fiodynamig."

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Maen nhw'n ceisio ffermio mewn system gaeedig sy'n golygu eu bod yn dibynnu llai ar fewnbwn o'r tu allan ac yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o beth sydd ei angen arnyn nhw ar y fferm gan gynnwys porthiant anifeiliaid a grawn i'r ieir. Mae compost yn cael ei gynhyrchu ar y fferm sydd wedyn yn cael ei ddefnyddio i dyfu ffrwythau a llysiau.

Fferm Slade, Bro Morgannwg

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Fferm denant yng ngolwg y môr uwch traeth Southerndown yw Slade ym Mro Morgannwg sy'n cael ei rhedeg gan Polly a Graeme ers 20 mlynedd.

Yn magu teulu ifanc ar y fferm gymysg, mae'r cwpl yn ymwybodol iawn mai dros dro yn unig maen nhw'n geidwaid ar y tir sydd wedi bod yn cael ei amaethu ers 600 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Maen nhw'n teimlo'n gryf fod ganddynt gyfrifoldeb i adael etifeddiaeth amgylcheddol dda i genedlaethau'r dyfodol.

"Mae gennym neges i'w chyfleu; y gallwn gynhyrchu bwyd maethlon o ansawdd uchel sy'n fuddiol i amgylchedd Cymru, a chysylltu pobl â'r llefydd mae eu bwyd wedi dod ohonynt," meddai Graeme.

Yn ogystal â ffermio heb wrtaith cemegol a bwydo'r anifeiliaid - gwartheg, defaid a moch - gyda bwyd wedi ei dyfu eu hunain, maen nhw hefyd yn annog adar drwy hau'r rhan fwyaf o'u grawnfwydydd yn y gwanwyn a chynaeafu yn yr hydref.

Ffynhonnell y llun, Aled Llywelyn/WWF Cymru

Helpu ffermwyr i helpu'r amgylchedd

Bwriad y prosiect Gwlad Ein Dyfodol, dolen allanol yw ystyried sut mae cynhyrchu bwyd da, fforddiadwy a mynd i'r afael â newid hinsawdd ac adfer byd natur.

Gyda bron i 90% o dir Cymru yn dir amaethyddol mae WWF Cymru (cangen o'r mudiad cadwraethol byd eang dros natur) yn dweud bod cefnogi ffermwyr i fabwysiadu arferion ffermio sy'n gyfeillgar i'r hinsawdd a natur yn hanfodol i'n dyfodol.

Wrth i fesur amaeth newydd Llywodraeth Cymru gael ei basio yn y Senedd mae WWF wedi bod ymysg nifer o elusennau amgylcheddol sydd wedi rhybuddio bod angen deddfwriaeth feiddgar i sicrhau bod ffermwyr yn cael eu cefnogi i daclo'r argyfwng hinsawdd a natur.

"Mae WWF Cymru'n credu bod angen inni gefnogi ffermwyr Cymru i fabwysiadu amaethecoleg, gan gynnwys ffermio adferol fel dull a fydd yn adeiladu dyfodol gwell i bobl, natur a'r hinsawdd. Ni ellir cyflawni'r trawsnewid hanfodol hwn ond trwy wneud newidiadau beiddgar i daliadau amaethyddol er mwyn cefnogi ffermwyr i wneud y newid hwn. Mae'r Bil Amaethyddiaeth newydd yn rhoi inni gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i osod Cymru ar lwybr at ddyfodol mwy cynaliadwy," meddai Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu WWF Cymru.

Hefyd o ddiddordeb: